Thursday 10 September 2009

YR WYDDFA / SNOWDON



Bore da braf gyfeillion, da ni am y tywydd hwn rwn am o leiaf wythnos i 10 diwrnod. Mae wedi bod yn brysur yn ddiweddar efo cyfarfodydd ac mae gennyf un arall bore ma yn Glynllifon ac wedyn dwi yn cyfarfod unigolyn o'r Cyngor (aelod o staff) sydd am fwydo fi efo gwybodaeth eithaf diddorol ar be sy'n mynd ymlaen yno.

Oherwydd blynyddoedd o gam reoli gan Plaid Cymru, da ni rwan yn dioddef yn ariannol yn ogystal a thorri gwasanaethau. Am flynyddoedd roeddynt yn cam redeg y Sir, yn benthyg yn afresymol (tar. Cyfrifon y Cyngor) sydd wrth gwrs yn golygu bod rhaid arbedu £16 Miliwn tros y 3 blynedd.

Cywir fod ychydig o'r bai am y setliad gafwyd gan Plaid a Llafur o'r Cynulliad ond mae'r diffygion oedd yn bodoli nawr yn dod i'r wyneb.

R'un fath mae Tony the Smiler a Gordon the Warden wedi bod yn gwneud yn Llundain, ac fydd unrhyw Lywodraeth newydd yn dioddef o hynny.

Dwi'n obeithiol mai Llywodraeth rhwng Ceidwadwyr a Lib Dems fydd yna nesaf er mwyn cael rhyw fath o gymhedroli a symyd yn agosach at y canol.

Beth bynnag, dwi ac arweinydd yr wrthblaid am gerdded i fyny'r Wyddfa Ddydd Gwener (dim tren fel Plaid) a gobeithio dim codwm (fel ddigwyddodd i aelod o'r Blaid ar y copa), fydd y plant yn yr ysgol, ac erbyn dod i lawr mae gen i gem 7 bob ochr am awr o beldroed.

Erbyn fore Sadwrn mi fyddwn yn teimlo fy oed, ac wrth gwrs fel ma rhywyn yn dweud ar ol llond boliad o gwrw "never again".

DS Gyda llaw gellir arbedu'r £16 miliwn yn eithaf hawdd. Torri ar gerbydau'r cyngor (fel dwi wedi bod yn gofyn amdan ers misoedd), gwerthu les Marina Pwllheli (£10M) a peidio symyd ymlaen efo'r Ganolfan Hwylio elitaidd (£2M). Fel mae'r Meercats yn dweud - Siiimple.



Morning friends, this fine weather is going to last something between a week and 10 days. It's been busy recently with meetings, and I have another one this morning at Glynllifon. Then I have a meeting with a member of Gwynedd Council staff who has been and will be feeding me with information regarding what is going on at the council - an invaluable source.

Due to years of mismanagement by Plaid Cymru on the Council, we are now experiencing financial problems in addition to cutting back on services.. For years they borrowed unreasonably (source Gwynedd Council Accounts), which now means that £16 million has to be saved over the next 3 years.

Trus the settlement received from Plaid Cymru and Labour in the Assembly was a disaster, but the previous political leadership's problems are now surfacing.

The same situation will happen when a new Government (hopefully Tory - Lib Dem) in London takes over from Tony the Smiler and Gordon the Warden.

Anyway, myself and the Leader of the opposition will be walking up Snowdon on Friday (no train like Plaid Cymru), and hopefully without any accidents (not like what happened to a member of Plaid Cymru), our children will be at school, and after coming back, I have an hour's 7 a side game of football.

By Saturday morning, i'll be feeling my age, and of course when one is suffering we always say "never again".

PS By the way we can make the £16 million saving easy. We can cut down on Council vehicles (something I have been seeking for months), sell the lease to the Marina for £10 Million, and scrap the elitist Sailing Centre in Pwllheli saving at least £2 million.

As the meerkats say on the telly, - Siiimple.

No comments:

Post a Comment