Monday, 25 January 2010

ANGEN GOFYN CWESTIYNNAU - NEED TO ASK QUESTIONS


Wsos yma yn y Caernarfon & Denbigh mae yna gefnogwr Plaid Cymru mawr o Bontnewydd yn dweud wrth etholwyr ward Llanwnda i ofyn lle dwi yn sefyll ar bethau ac be dwi yn ei wneud.

Wel i bob un rwyf wedi cydweithio efo nhw yn y 2 flynedd diwethaf, mae hynny yn braidd yn glir, i'r ysgolion a'r rhieni sydd dal efo ysgolion yn eu pentrefi mae hynny hefyd dal yn glir, ac i bob un dwi wedi gweithio efo i gael ty cyngor, mae hynny hefyd dal yn glir.

Sgwn I os wnaeth y gwr o Bontnewydd ofyn cwetiynnau o'i gyn gynghorydd Plaid Cymru pan oedd yn cefnogi gwerthu tir adeiladu werth cannoedd o filoedd o bunnau am £1 ia £1 i gwmni adeiladu yn Doc Fictoria. Collodd Cyngor Gwynedd o leiaf £499,999 y diwrnod hwnnw, so Mr Plaid Cymru Bontnewydd, mi ofynaf I y cwestiwn, "A wnaethoch chi ofyn pam fod Plaid Cymru yng Ngwynedd yn gwerthu Doc Fictoria am £1".

Mae yna yn y Saesneg ddyfyniad enwog sy'n dweud y cwbwl.




This week in the Caernarfon & Denbigh there is a Plaid Cymru supporter from Bontnewydd who is telling the electors of Llanwnda to ask me where do I stand on various points of view and what do I do ?.

Well to everyone who I have worked with over the past 2 years, that is quite obvious, to the schools and the parents who still have a school in their village, that is quite obvious, and to everyone I have worked with to get a council house, that is quite obvious.

I wonder if the Plaid man in Bontnewydd asked the previous Plaid councillor for the ward why did he support selling valuable land in Doc Fictoria worth hundreds of thousands for a £1, yes that's right folks one measly £1.

Gwynedd Council lost at least £499,999 that day so Mr Plaid Cymru in Bontnewydd I shall ask the question, "Did you ask the why Plaid Cymru led Gwynedd Council sold Doc Fictoria for a £1".

The poem below say's it all.

First they came for the Communists
And I did not speak out
Because I was not a Communist
Then they came for the Socialists
And I did not speak out
Because I was not a Socialist
Then they came for the trade unionists
And I did not speak out
Because I was not a trade unionist
Then they came for the Jews
And I did not speak out
Because I was not a Jew
Then they came for me
And there was
no one left
To speak out for me.

Pastor Niemoller


NOW WE NEED TO SPEAK OUT AND STOP THE ROT AND CHANGE FOR THE BETTER

CAU YSGOLION - CLOSING OUR SCHOOLS


Tydi hi yn rhyfedd o fyd fod pan mae Plaid Cymru sy'n fwyafrif yma yng Ngwynedd am gau cau a chau ysgolion, cartrefi henoed a phopeth arall yma yng Ngwynedd tra fod y Blaid yn Ynys Mon a Powys yn ymladd i gadw ysgolion yn agored.

Does ganddynt ddim syniad beth i wneud a sut i redeg dim byd.

Rydym yn gweld hyn yn eu rheolaeth o'r Cynulliad efo llafur, da ni llawer tlotach nawr oherwydd Plaid-Llafur na fuom erioed.




It's a funny old world when Plaid Cymru which are the largest party here in Gwynedd are so hell bent on closing our schools, our old people's homes and everything else whilst Plaid Cymru on anglesey and Powys are campaigning to keep them open.

They have no idea how to run anything.

We can see this in their management of the Lab-Plaid pact in the Assembly, as we are much poorer now due to their control in Cardiff than ever.

Thursday, 31 December 2009

LLONGYFARCHIADAU - CONGRATULATIONS


Da iawn Cynghorydd Caerwyn Roberts sydd nawr yn Cynghorydd Caerwyn Roberts OBE ac hefyd cyn gynghorydd cymuned Llanwnda Jane Eryl Jones sydd hefyd nawr yn Jane Eryl Jones OBE.


Well done to Councillor Caerwyn Roberts who is now Councillor Caerwyn Roberts OBE and also to ex Llanwnda Community Councillor Jane Eryl Jones who is now Jane Eryl Jones OBE.

Saturday, 26 December 2009

CYNGHORYDD Y FLWYDDYN - COUNCILLOR OF THE YEAR

Mae hwn yn seliedig i Wynedd. Dwi am roi 5 enw o pwy dwi yn feddwl ydi'r cynghorwyr mwyaf dymunol/hapus/pleserus i gyd weithio gyda/digrif o bob grwp oddi fewn i Wynedd am 2009.

PLAID CYMRU:
Rhaid i mi ddwud mae yna 35 ohoynyt i bigo. Rhai tydw I ddim yn cael y pleser o gyd weithio efo nhw ar bwyllgorau. Mae hon yn agos rhwng OP (oherwydd ei sylw at fanylder ffeithiau mewn dogfennau) Len (mae ganddo wit heb ei ail) a Huw Edwards (mae o yn gallu cymeryd tynny coes ac hefyd ei roi o mor dda) neu'r Cynghorydd Tudor Owen (oherwydd mae pawb o bob plaid yn gallu cyd fynd efo Tudor oherwydd ei fod yn ddyn teg a chyfiawn a phawb).

Yr enillydd am 2009 yw...... Cynghorydd Huw Edwards. Nid yn unig am yr uchod ond hefyd fel dwi wedi ei roi o'r blaen ar y blog hwn. Mae ganddo weddi i bob achlysur yn ei boced. Ac mae'n gallu ei ddweud o o'i gof heb ddarn o bapur. Os ydi swyddogion angen rhywyn i roi gweddi ar frys, gallasent ddibynnu ar Huw. Felly mae Huw Edwards yn cael yr wobr am eleni i Blaid Cymru.

LLAFUR:
Mae hwn rhwng 2 sef Brian Jones (Cwm y Glo, am ei addfwyndeb bob tro) a Keith (oherwydd ei acen swynol Bangor Ai). Eleni Brian sy'n cael y bleidlais, fel cadeirydd Pwyllgor Cynllunio mae gant y cant yn deg a phawb. Does ganddo ddim ffafriaeth i neb, mae pawb yn cael chwarae teg ganddo ac mae ganddo amser i bawb hefyd, felly Cyng. Brian Jones yw enillydd Llafur y flwyddyn.

RHYDDFRYDWYR:
Does ond un ennillydd am 2009 sef Mrs Jean Forsyth o Bangor. Dwi ar bwyllgor efo hi ac mae hi yn wych. Yn darllen y papurau yn drwyadl ac yn hollol fantastic am ofyn cwestiynnau.

ANIBYNNOL:
Dwi yn styc. Mae Eryl Jones Williams yn dda am ofyn cwestiynnau, Eric Jones,(Groeslon) neu Cynghorydd Trefor Edwards (Llanber).

Yn anffodus ni allaf ddewis gan fod y tri am 2009 wedi bod yn wych.


LLAIS GWYNEDD:
Does ond un dewis sef Gwilym Euros. Oherwydd yn syml tydi o fel fi ddim yn cymeryd unrhyw falu caxxx gan griw y Blaid ac yn barod i ymosod, cwestiynnu a mynd o dan groen rhai er mwyn dangos ambell Wleidydd y Blaid am beth ydynt mewn gwirionedd.

Hefyd am ei ymdrech i godi arian drwy golli pwysau i Ty Gobaith.

Friday, 25 December 2009

NADOLIG LLAWEN - MERRY XMAS


I bawb yn y Byd. I'r rhieni sydd wedi bod ar eu traed ers oriau man y bore zzzzzzzzzzz.


To everyone in the World. And to all the parents who have been up on their feet since the early hours, zzzzzzzzzzzzz.

Wednesday, 23 December 2009

CYDWEITHIO - WORKING TOGETHER

Mae yna si fod arweinwyr y grwpiau nyng Ngwynedd am gydweithio dros y Nadolig. Efallai dyna beth ydi'r fideo ma sydd wedi ei yrru i mi yn meddwl.

Cliciwch ar y linc ar yr ochr.

Pwy a wyr efallai fydd Dyfed yn riportio fi am hwn hefyd ??!


There is talk that the leaders of the groups here in Gwynedd will be working together over Xmas. Perhaps this is what the video that has been sent to me means.

Click on the link on the side.

Who knows perhaps Dyfed will report me on this as well ??!

Saturday, 12 December 2009

CROESO YN OL RODDERS - WELCOME BACK RODDERS


Gair wedi dod drosodd i mi fod Rodders yn ol ac wedi gadael sylw ar flog Menai.

Croeso yn ol Rodders, Lle ti di bod ngwashi ? Does yna ddim symudiad wedi bod yn flog Cangen Plaid Cymru ers i Comet Hailey fynd drwy'r awyr. Y son ydi fod Rodders wedi cael ffrae gan aelodau o Blaid Cymru fod ei floggio yn lle gwneud lles i Blaid Cymru ond yn cryfhau cefnogaeth Llais Gwynedd, a diolch i Rodders am hynny hefyd.

Beth bynnag, neis ei weld yn ol a cawn hwyl ar ei sylwadau hynod o ddiddorol, gwirion yn y dyfodol.

Word has come over that Rodders is back and has left a comment on Blog Menai.

Welcome back Rodders, Where have you been ? There has been no movement in Plaid Cymru Bontnewydd Blog since Hayley's Comet passed last time.

The story is that Rodders had a telling off from within plaid Cymru that his blogs instead of earning support for Plaid, gained support for Llais Gwynedd.

Thankyou rodders for that.

Anyway, nice to have him back so that we can laugh at his extremely funny and interesting postings in the future..