Monday 14 September 2009

INSPIRATION OR DESPERATION



Tydi Rhydian yn dda (da i beth, mater o farn yw hynny).

Mae o yn dweud fod Dafydd Iwan yn "Inspiration". Rwy'n poeni am ei flog, mae o wedi gwneud popeth ond sychu pen ol Dafydd.

http://plaidcymrubont.blogspot.com/2009/09/inspiration-to-us-all.html

Roedd gennyf bictiwr yn fy mhen o DI yn siarad ar y llwyfan a Rhydian wedyn pob rhyw hyn a hyn yn dod ymlaen i sychu talcen ei ben, llenwi ei wydr efo dwr, llnau ei esgidie a ballu.

Mae o hefyd yn awgrymu fod "rhywyn" wedi bod yn blogio yn ei enw ef - cywilydd arnynt. Mae'n rhaid mai un Rhydian sydd yn y byd yma. Rhaid dweud tydw I ddim wedi gweld dim byd, ond tydw I ddim yn darllen popeth, felly efallai mai breuddwyd ydi hyn ganddo.

Gan obeithio fod Dafydd Iwan wedi parcio yn y lle cywir yn y gynhadledd yn Llandudno a dim mewn man i'r anabl. Roedd Rhydian yn son fod DI wedi cael ei lambastio gan bawb yn ddiweddar - Wel paham Rhydian bach, oherwydd y ffaith ei fod wedi parcio mewn lle i'r anabl ac heb ymddiheuro ac wedi gadael mater bychan fynd yn Everest mawr. Yn ail fel awdur y Shambles Ysgolion, doedd o ddim yn ei gweld hi er i nifer ddweud wrtho. Ac roedd DI yn awgrymu fod Chris Hughes (a chwalodd o yn yr etholiad) a minnau wedi dweud fod ganddo flat moethus yn Doc Fictoria, (mi gafodd lythyr gan gyfreithiwr Chris ac fe dynnwyd yr awgrymiad hwn yn ol ganddo).

Rwy'n datgan (hyd y gwyddwn) nad oes ganddo flat moethus yn Doc Fictoria, ac yn rhoi sialens i unrhyw un allan yna brofi i'r gwrthwyneb.

Beth bynnag, Mae Plaid yn ceisio bod yn ffrind i bawb a gwneud dim cyfiawnder iddynt eu hunain. Parti ydynt sydd wedi colli eu ffordd, parti elitaidd sy'n gwarchod buddiannau eu hunain (fel fydd fy adroddiad i'r Ombwdsman yn dangos), parti sydd wedi anghofio paham y sefydlwyd nhw yn y lle cyntaf, a tan maen't yn sylweddoli ac yn dod yn ol i'r parti traddodiadol lle mae nifer helaeth wedi gweithio iddynt tros y blynyddoedd colli eu cefnogaeth traddodiadol fyddent ond yn ceisio rhoi eu hunain fel ffrindiau pawb.



Isn't Rhydian good (good for what is a matter of opinion).

He states that Dafydd Iwan was an "inspiration". I worry about his ramblings, he has done everything apart from wiping DI's posterior.

http://plaidcymrubont.blogspot.com/2009/09/inspiration-to-us-all.html

I visualised a picture of Rhydian whilst DI was speaking on the stage, and every now and then he would come in from the side and wipe Dafydd's brow, fill his glass with water and clean his shoes.

He also "suggests" that someone has been blogging in his name. - shame on them. It must be that there is only one Rhydian in this world. I must say I haven't seen anything, but saying that I don't read everything out there. It could be a dream that he has had.

Hoping that Dafydd Iwan has parked his car in the right place in the conference in llandudno and not in a disabled spot. Rhydian also states that DI has been pillared by everyone recently - Well why Rhydian bach, because he parked in a disabled spot and failed to apologise allowing a small incident to blow out of proportion.

Secondly as the author of the ill fated, ill conceived schools re-organisation document, he failed to realise public opinion was against him. And DI even had the audocity to accuse Chris Hughes (the one who smashed him in the local elelction) and myself of telling people that he had a flat in Fictoria Dock. Upon receipt of a letter from Chris' solicitor, he removed his quote from his website.

Now I can state (as far as I know) that he hasn't a flat in Doc Fictoria, and I challenge anyone out there to prove me otherwise.

Anyway, Plaid try to be everyone'r friend and do no justice to themselves. They are a party that have lost their way, a party for the elite in society, and a party that looks after their own interest (as my report to the Ombudsman will prove), a party that have forgotten why they were set up originally, and until they realise this and go back to their grass roots beliefs, where so many have worked for the same belief in the past, then they shall continue to loose their tradditional support.

No comments:

Post a Comment