Friday 26 February 2010

DECHREUWCH POB SGWRS YN Y GYMRAEG / START EVERY CONVERSATION IN WELSH


Da chi yn cofio y slogan "catchy" hwn gan Fwrdd yr iaith, a'r bathodyn oedd pobol yn ei wisgo. Wel wrth ganfasio ychydig wythnosau yn ol ym Mangor, yn amlwg roedd yna Brifathro eithaf adnabyddus am ei flogio yn gyndyn o wneud hynny (efallai yn meddwl fod cant y cant o bobol Bangor yn Saesneg ac dim eisiau gwthio Plaid Cymru fel Plaid i'r Cymry Cymraeg yn unig), ac yn cychwyn ei sgwrs ar stepan drws yn Saesneg gyntaf.

Enwau ar gerdyn post plis.


Do you remember the catchy slogan by the Welsh Language Board and the badges that people wore. Well, whilst canvassing recently in Bangor, it was obvious that a Headteacher who is infamous for his blogging, was reluctant to do that (perhaps he thought that 100% of the people of Bangor were English speakers and they didnt want to be seen as pushing Plaid Cymru as a party for the welsh speakers only), and he started his conversation in English.

Names on a postcard please. (calls may be charged)

PLAID CYMRU AM GEISIO ENNILL AR LWYDDIANT LLAIS GWYNEDD / PLAID CYMRU TRY TO WIN ON THE BACK OF LLAIS GWYNEDD

Tactegau Plaid Cymru i'r etholiad nesaf yw cyhoeddi cyfresi o bapurau newydd gan eu galw yn Llais Bangor, Llais Aberconwy, Llais Caernarfon (i ddod), ac yn y blaen. Maent yn gweld fod Llais Gwynedd yn boblogaidd ac wedyn am efelychu ni yma yn Llais Gwynedd gan rhoi ymgais i guddio y parti sydd yn gwneud cymaint o lanast yng Nghaerdydd dan ddefnyddio enw LLAIS hwn a LLAIS llall.

Neith o ddim gweithio. Fydd pleidlais Plaid Cymru i lawr yn yr etholiad nesaf yng Ngwynedd, oherwydd eu rheolaeth ar y Cyngor. Tydi gwerthu Doc Fictoria am £1 ddim am fynd o gof y Cofis, tydi gwneud cymaint o lanast yn Bangor ddim am fynd o gof y Bangor Ai's, ac mae'r How Get's yn ddigon call i wybod pa ochr o'r tost mae'r menyn.



Plaid Cymru's tactics for the next general election is to publish a series of newspapers and call them Llais Bangor, Llais Aberconwy and Llais Caernarfon is to follow. They have seen the success of Llais Gwynedd and will try and win on the back of that success by hiding their failures in Cardiff and Gwynedd by publishing Llais this and Llais that.

It won't work. The number that will vote for Plaid Cymru will fall at the next election as aprotest against their failures in Gwynedd. Selling prime building land in Victoria Dock for a £1 won't ever leave the minds oif the Cofis, the mess they are making in Bangor won't leave the Bangor Ai's and the How Get's are sensible enough to know which side of the toast is buttered.