Saturday 12 September 2009

ARFON RHAN 4 - ARFON PART 4





GARTH - JOHN WYN MEREDITH
Cyfreithiwr ydi Mr Meredith, ac yn ol ei ddadleuon pan yn y Cyngor buaswn yn tybio yn gyfreithiwr da hefyd. Mae'n bwyllog yn ei ddadleuon, ac fydd o byth yn dilyn y defaid ond yn hytrach mae ganddo bwynt unigol mae'n goelio mewn ac yn debygol o fynd hefo fo. Mae'n darllen pob gair mewn adroddiad ac ar gallu i godi rhywbeth mae rhan fwyaf ohonom wedi'w fethu. Parchus a chydwybodol, ac yn cynrychioli Plaid Cymru ar ward ym Mangor.

GERLAN - DYFRIG JONES
Buaswn yn iawn yn dweud mai Dyfrig yw'r aelod ieuengaf o'r Cyngor, mi gawsom rhyw ding dong 'chydig fisoedd yn ol yn dilyn i Dyfrig wneud rhyw sylwad ar rhywbeth ddywedais yn y Cyngor. Wrth gwrs mi wnes ymateb i Dyfrig, ac nad oedd yn hoff iawn o fy ymateb. Beth bynnag mae wedi codi gwrychyn nid yn unig aelodau o'r pleidiau eraill ond hefyd rhai oddi fewn i'w blaid ei hun. Erbyn hyn wrth gwrs dwi wedi anghofio amdan y mater a symyd ymlaen. Gweithio yn y Brifysgol yw ei waith dyddiol ond roedd yn gyn olygydd Barn. Rhaid i mi ddweud tydw I erioed wedi prynu y papur hwn yn fy mywyd. Mae'n gylchgrawn sy'n cael ei ariannu gan y Cynulliad, ac mae nifer yn cwestiynnu ei bwrpas gan yn ol son mai papur i'r Cymry elitaidd ydyw.

GLYDER - DAI REES JONES
Bachgen o'r de yw Dai (mae'r enw yn rhoi cliw go fawr), ac yn siaradwr pwyllog a threfnus. Oherwydd ei acen deheuol, mae'n rhoi pwysau mewn mannau gwahannol i ni y Gogs ar eiriau ac mi fyddwn yn arferol yn rhoi teclyn yn y glust er mwyn ei glywed yn iawn a dadansoddi ei araeth. Yn ddyn neis, er nad oes ganddo lawer i'w ddweud tu allan i gyfarfodydd. Mae'n arwain portffolio yr Henoed/Anabledd ar y Cyngor ac ni wnaeth unrhyw ffafr iddo ei hunan pan gefnogodd Dafydd Iwan pan iddo yntau barcio mewn man anabl a methu ymddiheuro yn ddiweddar. Beth bynnag, yn ol son mae'n weithgar yn ei gymuned ac mae pawb yn falch ei fod wedi gwella o'i salwch.

Y GROESLON - ERIC JONES
Wel dyma i chi gymeriad a hanner. Rhai yn ei adnabod fel Eric Jones, eraill fel Eric JT ac eraill fel Eric "Road Safety". Yn gyn gynghorydd blynyddoedd yn ol ond fe safodd i lawr am gyfnod. Roedd cyn gynghorydd Y Groeslon yn arweinydd ar y Cyngor ac roedd yn cynrychioli Plaid Cymru. Unwaith gyhoeddodd Eric ei fod am sefyll fel aelod Anibynnol, penderfynnodd y cyn gynghorydd ei bod am ymddeol. Roedd hi wrth gwrs yn gwybod fod Eric am ei chwalu ac nid oedd am sefyll etholiad a colli. Beth bynnag, mae Eric yn weithgar tros ben yn ei ward, yn ddyn y bobol go iawn a buasai yn gwneud aelod da o Lais Gwynedd petai yn dod drosodd. Gyda'i lais awdurdodol a'i wybodaeth mewnol am y Cyngor mae'n gallu symyd pethau ymlaen. Ei brif ddiddordebau yw ei geffylau cobiau Cymreig, ac yn ddiweddar eleni cafodd wahoddiad i feirniadu cobiau yn yr Almaen. Sprechen Sie Deutsch Eric ?



GARTH - JOHN WYN MEREDITH
A solicitor in his work, and I would assume a very good one as well. He is careful in his discussion, and never follows the sheep, always with an independant point of view. He reads report word by word and has the ability to raise points that most of us have missed. Respectable in his approach and represents Plaid Cymru in Bangor.

GERLAN - DYFRIG JONES
I think Dyfrig is the youngest member of the Council. We had a minor ding dong a few months ago now following Dyfrig blogging about something I had said in the Council. Of course I responded to his comments, and he wasn't best pleased with me for that. He has in the past irritated many members of the council from all sides (including his own). By now of course, I have forgotten about our little spat and have moved on. He works for the University but previously he worked for the Welsh language publication Barn. I must say I have never bought this paper which is financed by the Welsh Assembly, and many question it's need as it is said that it is a paper for the elite in our society.

GLYDER - DAI REES JONES
Dai is from the South (the name is a dead giveaway), and is a careful speaker. Due to his southern accent, he tends to put emphasis on different letters than us Gogs and I find it difficult sometimes to follow him and decipher his point, hence why I plug in into the translation system. A nice man, very cool, but out of debate is not a conversant character. He leads the portfolio for the elderly and the disabled, and didn't do himself any favours when he supported Dafydd Iwan when he parked his car in a disabled parking space and failed to apologise recently. Anyways, I understand he is a hard worker in his ward, and everyone accross the chamber was pleased that he has now fully recovered from his recent illness.

Y GROESLON - ERIC JONES
Now this is a man and a half. Some know him as Eric Jones, some as Eric JT and some as Eric Road Safety. An ex County Councillor many years ago, he stood down for personal reasons. The ex councillor for the ward and Chair of the Council at the time stood for Plaid Cymru. Once Eric announced he was standing as an Independant, the ex-councillor decided to retire rather than risk standing for an election and loosing. At least she was wise enough to realise that Eric would have walked the election. He works hard in his ward, a man of the people and would make a very good Llais Gwynedd Councillor for this reason if he came over. His authorotative voice and with his inside knowledge of how the council works means that he is able to move matters quicker than most other councillors. His main intersts are horses and particularly Welsh Ponies. Recently this year he was invited to Germany as a competition judge for Welsh Ponies. Sprechen Sie Deutsch Eric ?

No comments:

Post a Comment