Wednesday 16 September 2009

MYTH


Mae na nifer o gamsyniadau yn bodoli, hynny yw mae Llais gwynedd yn cael bai am pawb a phopeth (dweud y gwir mwy o fai na Osama Bin laden ar adegau). Dwi am glirio rhai o'r myth's yma tros y misoedd nesaf.

MYTH 1:

"..Llais Gwynedd sydd tu ol i fideo You Tube Hogia Gwynedd".

Clwyddau noeth. Mi wnaeth un cynghorydd Plaid Cymru yng Ngwynedd awgrymu wrthyf mai fi oedd tu ol i'r fideo. Pan ddaeth allan roeddwn ar fy ngwyliau efo'r teulu yn Ffrainc.

Mi gefais alwad ffon gan aelod o Lais Gwynedd yn gofyn i mi os oeddwn wedi ei weld, ac nad oeddwn wrth gwrs. Diwrnod hwnnw mi gynigiais i'r plant fwyd yn McDonalds (sydd gyda llaw yn groes i'r graen) oherwydd roeddwn yn gallu cael mynediad i'r we yno am ddim, a dyma deithio wedyn tua 15 milltir i ffeindio McDonalds.

Yno es ar y We a gweld y fideo. Wel son am chwerthin, a dim un Ffrancwr yn deallt paham oeddwn yn chwerthin.

Beth bynnag myth llwyr. Un arall i ddilyn yn no fuan.

http://www.youtube.com/watch?v=waZCKK55acg



There is a lot of misconception out there regarding Llais Gwynedd. Indeed we are blamed for anything and everything (even more than Osama Bin Laden). So over the next few months I shall clear these myths and misconceptions.

MYTH 1:

"..Llais Gwynedd is behind the Hogia Gwynedd You Tube video".

Total lies. One Plaid Cymru councillor did suggest to me that it was me behind it, but when I was away in France with the family when I received a phone call from a fellow Llais Councillor, informing me of the release. Of course it was news to me and I decided to treat the children to a McDonalds (which is crap food and not where I usually go to), so I had to travel about 15 miles to find a French McDonalds to get on the internet free of charge.

I saw the video and laughed out so much. None of the Frenchies knew why I was laughing.

Never mind, a total myth. Another one to follow soon.

http://www.youtube.com/watch?v=waZCKK55acg

No comments:

Post a Comment