Sunday 6 September 2009

RHYFEDD O FYD - IT'S A SMALL WORLD

Gynharach yn Awst mi roddais stori am Dafydd Iwan yn mynd i'r babell fwyd yn y 'Steddfod a rhywrai yn gofyn iddo ble roedd wedi parcio ac mi gerddodd allan. Am y tro cyntaf ers tua 6 mis, mi es allan i Lanberis efo ffrindiau ac dyma un ohonynt yn dweud wrthyf ei hanes yn y 'Steddfod, yn disgwyl am fwyd mewn pabell ac daeth Dafydd i sefyll tu ol iddynt.

Roedd y grwp hwn wedi cael cyntaf ac yn dathlu ac yn hapus. Un o'r grwp ddywedodd hyn wrth Dafydd Iwan ac iddo wedyn gerdded allan. Ac mi ofynnwyd iddo paham nad oedd yn hoffi Dafydd. Dyma beth ddywedodd.

Roedd blynyddoedd yn ol wedi trefnu cyngerdd i godi arian at fudiadau lleol. Roedd doniau lleol yn cymeryd rhan, ond y prif atynfa oedd Dafydd Iwan. Ar y noson, doedd dim golwg ohonno, ond roedd y capel dan ei sang ac roedd yn rhaid mynd ymlaen. Drwy newid pethau rownd a cael mwy o bobol i ganu, adrodd a ballu daethant at ganol yr ail hanner, ble ddaeth DI gyrraedd yn "pickled". Do fe wnaeth rhywbeth ohonni, ond a oedd hi yn iawn fod cyn gymaint wedi troi i fyny i gael unigolyn oedd wedi meddwi yn gockles i chwarae 4 cord, a mwmblan can neu ddau ?

Roedd un arall o'r grwp yn flin gyda Dafydd hefyd. Roedd ei fab yn ei ugeinia cynnar a'i bartner (sy'n wraig iddo erbyn hyn) wedi cael tir gan unigolyn yn y pentref er mwyn sefydlu eu cartref cyntaf. Roedd y tir tua 4 troedfedd tu allan i'r ffin adeiladu ac roedd y tad wedi bod yn gweld DI ac roedd wedi dweud ei fod yn gefnogol i bobol ifanc gael y cyfle i adeiladu tai. Roedd hefyd wedi gweld nifer fawr o Gynghorwyr Arfon ar y pryd ac roeddynt am ei gefnogi.

Pan ddaeth hi i'r bleidlais ar y noson, aeth Dafydd Iwan yn erbyn y cais ac fel defaid dilynnodd pob un o aelodau Plaid Cymru (fel hyn oedd hi yn digwydd bryd hynny cyn dyfodiad gwrthblaid effeithiol). Nid oedd y tad yn hapus ac fe waeddodd rhywbeth o'r galeri, cyn mynd allan.



Earlier in August i was gifted a story regarding Dafydd Iwan in the Eisteddfod and someone asking him where he had parked his car, and of course he walked out.

Now for the first time in over 6 months, I went out to llanberis with friends over the weekend whereby someone was there at the time.

The group were celebrating coming first and were very happy. The one who asked Dafydd where he had parked was asked Why didn't he like him ? and this is what he said.

Many years ago he had organised a concert to raise some money to local groups in the village. Local talents were taking part, but the main attraction was dafydd iwan and the Chapel was full to capacity.

On the night, there was no sign of Dafydd, but the concert had to go on. By changing the routine and gettoing the local talents to sing more than one song they eventually made it to midway through the second half, where in came Dafydd Iwan sozzled to the eyeballs.

Yes he sang something and played his tradditional 4 chords.

Another member of this group was mot best pleased with dafydd either as many years ago his son and his girfriend (who is now his wife) was gifted land to build their very first home which was about 4 feet outside the boundary.

They had been to see Dafydd Iwan, and many other Councillors to get their support, and this was promised to them. On the night of the planning meeting, Dafydd iwan went against the development and all the other Plaid Councillors like sheep went with him (this was the norm in them days before the introduction of an effective opposition)

As you would expect, the father was not happy and voiced his discontent quite loudly from the public gallery before leaving the meeting.

No comments:

Post a Comment