Monday 21 September 2009

CAI YN DANGOS ETO EI BROBLEM

Rwan Mae na rhywbeth wedi ei roi ar flog unigolyn arall am tybiwn deulu Cai neu aelod o'r teulu. Mae Cai Larsen wedi rhoi 2+2 ac wedi cael 5, mae yn awgrymu mae "aelod o Lais Gwynedd" neu yn hytrach efallai fi ydi'r awdur hwn. I ddechrau tydw i ddim wedi gweld beth oedd wedi'w ddweud ac dwi wedi holi rhai ac tydi nhw ddim chwaith wedi gweld beth ddywedwyd felly dwi yn saethu yn y tywyllwch ar hyn.

Os ydyw yn debyg i beth sydd yn cael ei adael ar fy mlog I yn aml, ac yn amlach byth ar flog Gwilym Euros, nid oes lle i hynny. Dwi wedi cyfeirio at hyn yn Gorffennaf ac mae Gwil hefyd ymhellach yn ol wedi nodi nad ydyw am argraffu'r sylwad. Ac nad ydym wedi'w cyhoeddi gan nad ydynt yn berthnasol.

Rhaid i Cai sylwi fod yna bobol arall allan yna sydd ddim yn ei hoffi am rhyw reswm neu beidio.

Dyma beth mae yn ei ddweud.

...adael ar fy mlog yn rheolaidd pan 'dwi'n cynhyrchu blogiad sy'n ypsetio un grwp gwleidyddol penodol. 'Dwi hefyd yn cael bygythiadau trwy e bost, ac mae fy rhieni oedranus yn cael eu haslo o bryd i'w gilydd. Bydd fy nghyflogwyr hefyd yn derbyn cwynion yn lled rheolaidd.


Pethau ar ei flog
o - Wel join the club, yn sicr pan dwi wedi rhoi sylwad ar unrhyw flog dwi wedi gadael fy enw. Er dwi ddim yn darllen na gadael sylwadau yn aml iawn (tua 5 gwaith).

ypsetio un grwp gwleidyddol
- yn cymeryd ei fod yn cyfeirio at Lais Gwynedd.

Bygythiadau drwy e-bost
- wel os ydynt yn fygythiadau, mae yna gyfeiriad arnynt, ac yn fwy mae yna gyfeiriad IP arnynt felly dos a nhw i'r Heddlu yn lle ceisio creu stori allan o ddim byd. Efallai hefyd fod Cai yn cyfeirio at ebost yrrais I iddo yn yr Ysgol. Roedd hyn yn dilyn i Cai geisio cysylltu Llais Gwynedd efo'r BNP, wedyn mi newidiodd ychydig ar ei gynnwys. Trafodwyd y mater hwn yng nghyfarfod Llais a gofynnwyd i finnau ofyn am gyfeiriad Clerc y llywodraethwyr ganddo fel pennaeth, er mwyn gwneud cwyn ffurfiol amdano. Dyna felly mae'n cyfeirio ato. Wrth gwrs roeddwn fel roeddwn y tro blaen am geisio peidio i hynny ddigwydd.

Pan wnaeth o rhywbeth tebyg o'r blaen a gadael sylwad am Gwilym ar ei flog, mi drafodais y mater efo Swyddog Monitro y Cyngor a dod i benderfynniad fuasai yn well trafod efo'i fam (sy'n gynghorydd Sir) er mwyn iddi ei darbwyllo i fod yn ofalus.

Do chwarae teg mi wnaeth Mrs Larsen hynny a dod yn ol ataf gan ddweud "..mae o yn gallu bod yn benboeth am Wleidyddiaeth".

Ac efallai mai hyn mae'n gyfeirio at ei rieni yn cael eu "haslo" !!

Iawn i roi pethau mewn perspectif.

Sgen i ddim byd i ddweud wrth y crinc hwn. Dwi yn ei 'nabod, yn ei gofio yn Ysgol Brynrefail fel dwi yn cofio ei ddau frawd. Dwi yn gallu gwneud yn gret efo Trystan sy'n brifathro penigamp a chydwybodol mewn ysgol lle rwy'n lywodraethwr. Yn ei gefnogi i'r uchaf, er efallai nad ydym yn gytun efo gwleidyddiaeth ond mae dyfodol plant yn bwysicach na hynny ac mae Trystan yn rhoi nhw gyntaf ar bob achlysur.

Yn ail, mae Mrs Larsen a minnau wedi cytuno ar nifer o faterion yn y Cyngor, dwi yn Is Gadeirydd ar bwyllgor lle mae hi yn gadeirydd, ac yn ei chefnogi hi ar bethau yn union fel mae hi yn fy nghefnogi I.

Roedd Cai yn wirion efo'i awgrymiad am BNP, digwydd bod roeddwn wedi cael sgwrs am BNP efo Trystan 'chydig wythnosau cyn ei flog ac wedi dweud pa mor gas dwi o'r adain dde hon a'r parti neo nasiadd hyn, a chefais drafodaeth am deulu Larsen o Norwy i Gaernarfon gan fod ewythr i Cai yn gyn athro arnaf yn Ysgol Gwaun Gynfi, yn athro gwych ac dwi yn dal i gofio ei eiriau diwethaf i mi cyn ymadael am ysgol Brynrefail, mi 'sgwenodd ar lyfr llofnod (sydd gyda llaw dal gennyf yn rhywle) "Gorau arf ar ddysg" -

Mae fy nheulu wedi canfasio i Mrs Larsen yn y gorffennol, ac dwi bron yn saff fod fy nhad wedi arwyddo ei phapur ar nifer o achlysur.

Rwan, dwi am gyfeirio i flogiwr SIONYN, sydd yn gadael pethau ar fy mlog weithiau. Roedd rhai o bethau yn rhesymol, ond mi roeddwn wedyn yn cael pethau am CAI dan enw SIONYN, ANON, GUTO, WMFFRA, PAUL, pethau am bobol eraill hefyd dan yr un enw, felly mi fuddsoddais mewn meddalwedd tracio IP, ac mae hwnnw wedi gweithio.

Mi gadarnhaf fod SIONYN go iawn yn 81.170.16.2, ac er nad wy'n cytuno gyda'i wleidyddiaeth mi roddaf nhw ymlaen. Roedd yr enwau eraill yn 83.151.??.? sydd ar hyn o bryd yn cael ei dracio er mwyn dadansoddi pwy ydi o neu hi.

Pwrpas hyn oedd i stopio yr unigolyn hwn/hon rhag cysylltu. Dwi ddim eisiau gwybod am bethau mae'n ddweud, ac yn amlwg mae ef/hi a Cai wedi cael geiriau croes am rhywbeth neu gilydd yn rhywle.

Iawn yn syml, mae 2+2 yn gwneud 4. Felly CAI tyn y "chip" na oddiwrth dy ysgwydd, ac am y tro hwn, nid Llais Gwynedd na fi sydd tu ol i unrhyw sylwad.

No comments:

Post a Comment