Ers peth amser dwi wedi bod yn meddwl symyd ymlaen i'r dechnoleg diweddaraf a bloggio. Mae'n ymddangos fod pawb wrthi, o bobl gyffredin, i aelodau seneddol.
Mae rhai dwi yn hoffi oherwydd eu sylwadau ar fywyd sy'n ysgafn ac yn rhoi prospectif i bobeth sy'n mynd ymlaen, rhai dwi yn cytuno yn gryf gyda a rhai nad wyf yn cytuno fawr ddim gyda'r awduron.
Yn bendant, mae ambell i flog yn cymeryd rhyw swipe bach ataf fel unigolyn ac hefyd at y Blaid rwyn ei gynrychioli ar Gyngor Gwynedd sef LLAIS GWYNEDD ac os yn ffeithiol, dwi yn hapus i'w dderbyn, ar y cyfan dwi yn gallu ei gymeryd o ac yn gallu ei roi.
Cenfigen yw y ffaith fod aelodau Plaid Cymru yn gweld fod LLAIS GWYNEDD wedi'w disodli yma yng Ngwynedd, ac am y tro cyntaf ers degawdau mae pobl Gwynedd yn cael gwybod faint o lanast mae Plaid wedi ei wneud yma yn ein Sir. Llanast ariannol, gweinyddol a gwleidyddol. Nid ydynt mwyach yn rheoli y Cyngor, yn hytrach mae angen iddynt gael cydweithrediad aelodau eraill i geisio cael eu polisiau drwodd.
Ta waeth dwi yn obeithiol o efelychu un o flogwyr mwyaf y flwyddyn sef Cynghorydd Gwilym Euros o flogio yn ddigon aml. Amser a ddengys.
Dwi'n cychwyn y blog ar ddiwrnod pwysig yn hanes fy ail ferch MEGAN. Mae hi yn 6 oed heddiw. Penblwydd Hapus Megs.
For some time I have been thinking of embracing this new technology by blogging. It appears that everyone is at it from the general public to MP's.
Some I like for their perspective on life generally, and they are able to summarise everyday matters in relation to what goes on in this World.
Some bloggers have a swipe against me and the party that I represent on Gwynedd council namely LLAIS GWYNEDD, and if it is factual then I am happy to take it, after all if you dish it out, expect to take it as well.
It's all down to members of Plaid Cymru being jealous of the fact that LLAIS GWYNEDD have removed them from power here in Gwynedd ,and for the first time in ages, the people of Gwynedd get to know how ineffective Plaid have been and what a mess they have done here in the County over the last few decades.
They do not have a majority in the Council any more, they now depend on others to try and get their policies through.
Never mind, I hope that I can blog as often as my fellow councillor here in Gwynedd namely Gwilym Euros. Only time will tell.
I start the blog on an important day in that today my middle daughter Megan is 6 years old. Penblwydd Hapus Megs.
No comments:
Post a Comment