Monday 27 July 2009

BONHEDDWR DEWI TOMOS




Gyda llai na wythnos i fynd nes yr wyl fawr, hoffwn longyfarch DEWI TOMOS sydd wedi cael ei wobrwyo gyda aelodaeth o Orsedd yr Eisteddfod.

Mae Dewi yn byw yn Rhostryfan, yn awdur nifer o lyfrau ac wedi bod yn arloesol gyda Chanolfan Dr Kate Roberts ers oedd yr adeilad yn adfael i'r fenter sydd yno rwan.

Mae o a Mair ei wraig yn weithgar yn gymunedol, ac yn rhannu eu h'agweddau positif led led Cymru gyda nifer o rai eraill.

Bu i Dewi (sydd yn gyn athro) 'sgwennu llawlyfr i blant i fynd o amgylch Glynllifon.

Meddyliwch rwan, cyn athro, awdur nifer o lyfrau, un oedd yn flaenllaw gyda datblygiad Cae Gors, ac yn ychwanegol nawr wedi'w dderbyn yn aelod o'r Orsedd am ei weithgareddau.

Barn "rhyw swyddog" yn Cyngor Gwynedd oedd "...nad oedd y llyfryn yn cyrraedd y safon ddisgwyliedig" ???

Wel, os nad yw Dewi yn gallu cyrraedd "safon disgwyliedig" pwy sy'n gallu, well i nifer enfawr o athrawon Gwynedd rhoi ffidil yn y to rwan funud hwn a mynd i arddio neu driefio bysus neu rhywbeth tu allan i faes addysg.

Os oes unrhyw un yn gwybod am beth mae plant ei angen i ddysgu, Dewi yw'r un hynny.

- Gyda llaw wedi methu cael hyd i lun o Dewi i'w roi ar y blog, felly mae'r lluniau sydd i fyny yn dod o chwilio Dewi Tomos ar google.




With less than a week to go until the Eisteddfod, I would like to congratulate DEWI TOMOS for becoming a member of the Orsedd.

Dewi lives in Rhostryfan, and is an author of many books, he was also instrumental in developing Cae Gors, the ancestral home of Dr Kate Roberts to what it is today.

His wife Mair, also works hard in the community, and shares Dewi's positive adpects on life throughout Wales.

Dewi who incidentaly is an ex-teacher, wrote a handbook for children visiting Glynllifon.

Think about it now - Ex-Teacher of many years experience, an author of many books, one who developed Cae Gors, and now having been ordained into the Orsedd.

"An officer" from Gwynedd Council decided that "..the handbook did not reach ac acceptable standard"???
So, if Dewi cannot reach "an acceptable standard", Who Can ?

Might as well for many teachers in gwynedd to give up their day jobs and work on the garden, become bus drivers or anything else outside education.

If anyone knows what children need to know, then Dewi is that person.

- By the way, I couldn't find a picture of Dewi to put on the blog, so have searched google with Dewi Tomos and came up with the above pictures.

No comments:

Post a Comment