Monday, 20 July 2009

PENWYTHNOS HECTIC - HECTIC WEEKEND




Rwan dwi yn cael y cyfle i sgwennu ar y blog ac ymateb i sylwadau. Fore Sadwrn roeddwn yn rhoi 2 Marquee i fyny ym Mhlasdy Glynllifon. Yna y noson honno roedd Cor Glanaethwy yn canu er mwyn codi arian i Gapel Bwlan ac roedd oddeuty 250 o bobol a plant wedi troi allan i fwynhau.

Does gen i ddim plentyn yn y Cor, nac ydwyf chwaith yn aelod o Gapel Bwlan, ond roedd Cliff o Landwrog wedi trefnu popeth fel cloc, ac roeddwn yn falch o roi fy amser i'w gynorthwyo.

Roeddwn yn nol yna am 8.30pm i dynny popeth i lawr gan fod gan y Plasdy weithgaredd yno ben bore canlynnol. Wedi mynd a'r marquee yn ol, cadw popeth arall, roeddwn am 10.30 yr hwyr yn llwytho'r trailer efo stwff i Arwerthiant Car oedd yn cael ei gynnal yn maes Carafanau Dinas Dinlle er mwyn codi arian i Ysgol LLandwrog.

Roedd tua 10 cerbyd yno a codwyd oddeuty £60 i'r Ysgol. Mi wnes innau ac arweinydd yr wrthblaid (sef y bos) rhyw geiniog neu ddau hefyd.

Diolchiadau i Tommy yn y Maes Carafanau am ei barodrwydd bob tro i helpu'r Ysgol.

Yr un diwrnod mi es i weld "Diwrnod yr Hen Soldiwrs" (Veterans Day) yng Nghaernarfon. Roedd rhain wedi rhoi ei bywyd ar y lein mewn rhyfeloedd o'r Ail Ryfel Byd ymlaen ac yn haeddu ein parch a'n gwerthfawrogiad.

Piti fuasai rhywyn wedi stopio'r cerbydau ddefnyddio y Maes a'r ffyrdd o gwmpas am y diwrnod oherwydd roedd gweld pobl yn cerdded a ceir o'i cwmpas yn codi bwganod mawr i mi. Daeth cerbyd at y dorf ac roedd yna heddwas oi'w droi oddi yno. Piti na edrychodd yr heddwas ar ffenestr y cerbyd gan nad oedd ganddo dreth car.

Hefyd trefniant pethau efallai yn gallu bod yn well. Roedd Band Deiniolen yn arwain pethau yn y Castell a neb wedi dweud wrthynt pa ganeuon i ganu. Roedd angen "God save the queen" ac nid oedd y miwsig gan y band.

Mae yna Dduw yn y diwedd !

Diwrnod wedyn roeddwn yn agoriad swyddogol Y Maes.




Now is my first opportunity to write my blog and reply to remarks.

Saturday morning I was putting 2 Marquees up in Glynllifon. That night there was a concert in aid of Capel Bwlan with Cor Glanaethwyr singing to an audience of 250 people and children.

I don't have a child in the choir nor am i a member of Capel Bwlan, but Cliff from Llandwrog had arranged everything like clockwork and I was glad to help.

I was back there for 8.30pm to take everything down as the Mansion had another function there early next day. After keeping the Marquee and everything else, at 10.30pm, I was re-filling the trailer with stuff for a car boot sale which was to be held early next day at Dinas Dinlle Caravan Park in aid of Llandwrog School.

There were 10 cars there and we raised about £60 for the school. Myself and "the leader of the opposition" (my partner) made a few pennies as well.

Many thanks to Tommy from the Dinlle Park Caravan Site for always being willing to help the School and local charities.

The same day I attended the Veteran's day in Caernarfon. These people had put their lives at risk from the Second World War onwards and deserved our respect and admiration.

It was a pity that no one had thought to stop traffic flow for the day as it was dangerous for people to stand and walk with traffic weaving in between.

A car came towards a crowd of people but was turned back by a policeman. Pity he didn't look at the windscreen as it did not have a car tax.

Arrangements could have been slightly better. Deiniolen Brass Band were inside the Castle leading the procession and no one had told them beforehand what music to play.

There was a need to sing "God save the queen", but Deiniolen Brass Band didn't have the music with them.

Thankfully there is a God !

Next day I attended the opening of " Y Maes" in Caernarfon.

No comments:

Post a Comment