Monday 20 July 2009

AGORIAD Y MAES - RE-OPENING OF Y MAES




Dydd Sul roedd agoriad swyddogol Y Maes yn ei newydd wedd. Nid ydwyf yn fan mawr o'r gwaith sydd wedi ei wneud yno, mae'n beryg i'r oedranus, y deillion ac unrhyw un sy'n cerdded ar lechen gwlyb sydd wrth gwrs yn dueddol i fod yn llithrig.

Ond chwarae teg i'r trefnwyr, roedd yna ddigon o weithgareddau yno, o fandiau, i ddawnsio traddodiadol, i Wil Tan (cefnder Sam), a grwpiau o blant yn canu a dawnsio.

Hefyd da oedd gweld traffig wedi'w wahardd oddi yno, roedd yn gwneud pethau ddipyn haws.

Parch mawr at y rhai sydd wedi bod yn ddygyn yn paratoi a trefnu ac mi gefais sgwrs gyda amryw ohonynt. Mi gefais sgwrs hefyd gyda amryw o ddreifar's tacsi a pobl sy'n byw o gwmpas Y Maes ac dwi wedi cael syniad i roi ymlaen i'r Cyngor fis Medi.

Roedd dipyn yn gofyn

Ble roedd Dafydd Iwan ? - ac ddywedwyd ei fod ar ei wyliau. Gan obeithio fod ei gar wrth gwrs adref ac nid mewn llecyn i'r anabl.

Sy'n dod a fi i ganwr fyd enwog arall sef Bryn Terfel a rhyw stori eithaf digri (os yn wir neu beidio) am Bryn yn mynd am ei Sglodion a Pysgodyn i'r dafarn datws leol yn Montnewydd, sy'n cael ei redeg gan deulu o Asia, sydd hefyd yn berchen Tafarn gwrw Y Bedol yn Bethel.


Aeth y sgwrs fel a ganlyn.

Dyn Chips: You sing don't you ?

BT: Yes

Dyn Chips: Would you come and sing in my pub in Bethel, Y Bedol ?

BT: I don't think you can afford me.


Gwir neu beidio, mae'n stori ddoniol.





Sunday was the official opening of the new Maes in Caernarfon. I am not a big fan of the work done there as it is dangerous for the elderly, the blind and anyone who walks on wet slate which has a tendency to be slippery in these conditions.

But fair play to the organisers, there were plenty of activities going on there, from bands to folk dancing, to Wil Tan (cousin of Sam) and groups of children singing and dancing

Also it was good to note that traffic had been banned from there which made things easier.

Respect to those who had been involved in arranging the day and I had a chat with many of them, including taxi drivers and people living in and around the square, and I have had an idea to put forward to the council in September.

Many were asking,

Where is Dafydd Iwan ? - and were told that he was on his holidays, hopefully having parked his car in somewhere without a disabled sign.

Which brings me on to another world famous singer, namely Bryn Terfel and a story slightly humourous (true or not) about Bryn going for Fish and Chips to the local shop in Bontnewydd, which is being run by an asian family who also own Y Bedol pub in Bethel.

The conversation went as follows:

Shop Owner: You sing don't you ?

BT: Yes

Shop Owner: Would you come and sing in my pub in Bethel, Y Bedol ?

BT: I don't think you can afford me.


True or not, it brought a wry smile.

No comments:

Post a Comment