Monday, 6 July 2009
OS MEWN TWLL STOPIWCH DYLLU - IF IN A HOLE STOP DIGGING
Mae hon yn frawddeg dda. Mi gefais brofiad o'i defnyddio pan yn cwffio fy achos yn erbyn CYMAD Cyf. Mi ddywedais hi wrth y cyfarwyddwyr oedd yn un lygeidiog yn ceisio achub Elwyn Vaughan ac yn gwrthod gweld y gwendidau amlwg oedd yn bodoli.
Yn fy nghyfarfod efo Robin Llywelyn Portmeirion, mi ddywedais wrtho, i stopi tyllu twll mawr iddynt eu hunain. Wnaeth o wrando, naddo. Ond dyna fo, mi fydd am byth yn cael ei gysylltu gyda unigolyn sydd wedi'w ddarganfod yn euog o ffugio sieciau gyda sel bendith y cyfarwyddwyr, sy'n mynd a fi i Rhydian Fon James.
Blogiwr Plaid Cymru Cangen Bontnewydd, sydd yn ceisio achub ei arweinydd, oedd yn ol son wedi parcio ei gar mewn lle i'r anabl.
Dim byd yn anghywir yn hynny ar wahan iddo beidio cael anabledd corfforol o gwbl (hyd y gwyddwn). Dylai fod wedi rhoi ei law i fyny a dweud SORI hogia, wnai ddim eto.
Erbyn rwan wrth gwrs mae'n disgyn i'r un categori a gwleidyddion sy'n cerdded i dafarn efo sigars, pwysigion y wlad yn gwneud sylwadau hiliol, ac yn gorfod syrthio ar ei gleddyf.
Cysgu ar ei gleddyf wnaeth Macsen, ond fe fydd rhaid i DI ymddiswyddo fel Cadeirydd PEG yng Ngwynedd.
Mae parcio mewn llecyn anabl r'un fath a cicio ci neu gath mewn stryd o bobl.
Tydi'r weithred ddim yn dderbyniol mewn cymdeithas.
If in a hole - Stop digging. This is a good sentence. I had reason to use it in my action against CYMAD Cyf. I told the directors who saw Elwyn Vaughan as totally innocent and refused to see the cracks appearing on the horizon.
In my meeting with Robin Llywelyn of Portmeirion, I told him to stop digging a large hole for themselves. Did he listen - did he hell as like, and he will now for ever be associated with an individual who was found guilty of forging cheques with the approval of him and his fellow directors.
This takes me to Rhydian Fon James, self acclaimed blogger of Plaid Cymru Bontnewydd Branch (It's the same branch that meets in the bus stop at Dinas) who in his attempt to save his president and leader, who is alleged to have parked his volvo in a parking space designated for the disabled. Nothing wrong in that (I hear you say) apart from the fact that he is not physically disabled (as far as I know).
He should have put his hand up and said SORRY lads, I won't do it again.
But by now of course he falls into the same category as Assembly Members walking into a pub with a cigar, dignitaries making racist comments and falling on their sword. Macsen slept on his sword, and DI will now have to resign as the Chairman of PEG Gwynedd.
Parking in a disabled spot when not disabled is the same as kicking a dog or cat in public, it's unacceptable in today's society.