Tuesday 14 July 2009
DYFRIG JONES
Wel lle mae rhywyn yn dechrau, mae hyd yn oed pobl yn ei blaid ei hun yn meddwl ei fod yn 'chydig o ffwl, heb son am unigolion o bleidiau eraill. Mi roedd yn gweithio i BARN, sef cylchgrawn dosbarth canol efo cylchrediad llai na papur newydd Eco Dinas Dinlle, ond rwan mae'n gweithio i'r Brifysgol. Roedd cais cynllunio gan Gyngor Gwynedd i glirio tir yn Nhalysarn er mwyn cael llechi i Cilgwyn. Gyda 78 o lythyrau yn gwrthod, dim un yn cefnogi a gyda tros 30 o bobl wedi dod i gyfarfod cynllunio i brotestio.
Roedd Dilwyn Lloyd (Talysarn - Anibyn) wedi gwrthwynebu, eilwyd ef gan Eric Jones (Groeslon-Anibyn) ac roeddwn innau hefyd yn gwrando ar lais bobl Talysarn ac wedi gwrthwynebu.
Yn ystod y cyfarfod mi ddywedais na spin oedd Adran 106 i ddiogelu tai i bobl leol ac hefyd "Tai Fforddiadwy". Tydi banciau ddim mwyach yn rhoi benthyciadau i unrhyw un sydd a Adran 106 ar eu tai felly os nad oes gan rhywyn yr arian parod, ni allent brynu'r ty. Yn ail Ty Fforddiadwy, gall hynny feddwl unrhywbeth. Y diffiniad cywir ydi rhaid i dy cael ei werthu am 30% yn llai na pris y farchnad. Meddyliwch am dy moethus yn cael ei ddiffinio fel ty fforddiadwy. Gwerth y farchnad yn £300,000 ond am ei fod yn "fforddiadwy" rhaid i'w werthu am £210,000. Tydi hynny ddim yn fforddiadwy.
Dylid ail ddiffinio "Tai Fforddiadwy" yn dai fydd ddim yn cael eu gwerthu am fwy na £120,000, mae hynny wedyn yn fforddiadwy i nifer mwy yn ein cymdeithas.
Gyda llaw, roedd nifer o Blaid Cymru yn fy nghefnogi I mai spin ydi Adran 106 a Tai Fforddiadwy.
Where does one start, even councillors within Plaid Cymru think Dyfrig is a bit of a fool let alone other members of other parties. he used to work for BARN, a middle class Welsh publication with a circulation less than Eco Dinas Dinlle, but now he works in the University.
There was a planning application by the Council itself to remove slate from a site in Talysarn to cap Cilgwyn tip. There were 78 letters objecting and no letter of support. Over 30 people attended the meeting to protest.
The local Councillor Dilwyn Lloyd (Talysarn - Indi) objected, he was seconded by Councillor Eric Jones (Groeslon- Indi) and I also listened to the people and objected.
During the meeting I stated that Section 106 and Affordable Homes was all spin. Banks no longer will supply mortgages to anyone with a Section 106 on their homes,so unless people have the ready cash, they won't be able to buy it. Affordable homes is a house that must be sold for 30% less than the market value. So think of a house for £300,000 - it must be sold for £210,000, Is this affordable ?
Affordable homes should be re-defined as homes available for less than £120,000, this will make them more affordable to a greater number within our communities.
By the way a number of Plaid Cymru Councillors supported me stating that they also think that Section 106 and Affordable Homes is all spin.
Subscribe to:
Post Comments (Atom)
Dwi wedi ymateb i dy neges blentynaidd di ar fy mlog. http://stwnsh.com/ws385r
ReplyDeleteEdrych yn debyg fod Dyfrig wedi ypsetio yn lan efo'r blog hwn. Rwyf wedi defnyddio gair ddywedwyd wrthyf gan aelod o'i blaid ei hunan amdano. Mae ef ddigon parod i geisio bychanu unigolion eraill ond dim digon o ddyn i gymeryd o yn ol.
ReplyDeleteLooks like Dyfrig is upset with this blog. I used a descriptive word from a member of his own party on him. He is quite prepared to belittle people but not prepared to take it on the chin.
Dwi ddim yn credu i mi erioed wneud sylw personol am aelod arall o'r Cyngor, yn gyhoeddus o leiaf. Fel medri di ddisgwyl, mae 'na aelodau o'r Cyngor dwi'n eu parchu yn fawr, ac mae 'na aelodau o'r Cyngor dwi'n credu sydd yn dwyn gwarth ar y sefydliad. Ond dwi'n ddigon cwrtais i gadw teimladau personol yn bersonol.
ReplyDeleteDwi'n sylwi nad oes gen ti unrhyw sylw i'w wneud ar sylwedd yr hyn dwi'n ei ddweud - sef bod dy ymosodiad arna fi yn dangos yn glir nad wyt ti'n deallt beth yw polisi Cyngor Gwynedd ar dai fforddiadwy, a hynny ar ol blwyddyn o fod yn Gynghorydd. Haws galw enwau na trafod syniadau?
Section 106 agreements in Gwynedd are causing more problems than the deluded people who worship them think they resolve.
ReplyDeleteHere are some of my recent communications with the WAG.
Dear Mr Rogerson
This is the agreement I mentioned earlier, the Affordable Housing Officer is Aled Evans and initially he was insisting on a discount of 65% but ended up with 50%. He has failed to produce any evidence which I believe supports his onerous agreement, he has also failed to supply a valuation or even a viability assessment.
There is no mortgagee in possession clause, in any event I have failed to find a single lender who would consider a remortgage even with such a clause.
Kind regards
Evan Owen
Dear Mr Rogerson
Jim has written to Rosemary Thomas but I wanted to mention the fact that in some areas the S106 agreements includes clauses which place a discount of 65% of open market value when no valuation has been obtained and no viability calculations made. I can supply a copy of the latest one on a self-build I found if you wish.
If Gwynedd County Council and the Snowdonia National Park to insist private individuals bear the burden of such a large amount of lost equity without public subsidy in an attempt to inflate the official figures for affordable housing which in some cases creates a situation of negative equity and an inability to escape from high self-build mortgage rates this will make Wales one of the worst places in the UK to live.
I have recently received a copy of the 2008 SNPA land availability study and my only printable comment is that it is unbelievable.
As a group we do a fair amount of research and would willingly share anything which clears up the confusion.
Evan Owen
Need more evidence? Or maybe a full report on the situation?
You only have to ask.
Trist iawn a hollol blentynaidd.
ReplyDeleteDYFRIG: Yn amlwg ti wedi anghofio dy araeth pan yn trafod os ddylai swyddogion gysylltu ag aelodau lleol pan mae yna rhywbeth yn digwydd yn eu wardiau ac i chdi alw Alwyn Gruffydd yn "..rhyw ymerawdwr".
ReplyDeleteWyt ti yn gwadu hynny, gan i ti ei wneud mewn ffordd eithaf sbeitlyd ac yn ddi angen.
EVAN OWEN : Thanks for that. S106 in Gwynedd is too restrictive. The Morgatee in Posession clause should be done away with, as it is a major stumbling block for Bankers to furnish mortgages in the County. I cannot for the life of me see why Gwynedd instead of investing £50M + in far away markets of London, Europe and North America, would use this money to create a Local Mortgage Fund for Local People who have lived in gwynedd for say the past 10 years. This would ensure that mortgages would be available for locals, and that Gwynedd's investment is reasonable safe in bricks and mortar.
ReplyDeleteANON: Ia diolch. Mi wyt ti.
ReplyDeleteAeron,
ReplyDeleteMi wnes i sylw ychydig bach yn bowld fel rhan o drafodaeth yn siambr y Cyngor, mewn ymateb i ddadleuon gwallgo a oedd yn cael eu cynnig gan Cyng. Alwyn Gruffydd. Ond wnes i ddim ymosod ar Alwyn yn bersonol. Mae 'na wahaniaeth rhwng ymosod ar syniadau a dadleuon, ac ymosod ar y person.
Dwi ddim ishio i chdi feddwl bod hyn yn fy mhoeni fi'n ormodol, cofia. Dwi wedi cael fy ngalw'n lot gwaeth na ffwl. Dwi'n meddwl bod y blog yma yn adlewyrchu yn waeth arna chdi na neb arall.
DYFRIG: Tydi "powld" ddim yn dod i fewn iddi. Roedd y sylwad wnaethost yn engraifft orau o rhyw alw enw a rhoi rhywyn i lawr pan oll oedd rhywyn yn ei ofyn oedd fod swyddogion yn cysylltu gyda'r aelod lleol pan mae rhywbeth yn digwydd yn eu h'ardaloedd.
ReplyDeleteWrth gwrs ei fod yn sylwad personol o alw unigolyn yn "..rhyw ymerawdwr" - mi fuaset wedi gallu cyflwyno dy ddadl heb gyfeirio at "ymerawdwyr" a ballu ac efallai wedi ennill edmygedd ar wneud hynny.
Yn bendant tydw i ddim am un funud yn meddwl fod hyn yn dy boeni di "yn ormodol". Ond 3 post sydd gennyt yn y fan hyn ac ambell un ar dy flog dy hyn. Dwi'n amau mae be sy'n dy boeni fwyaf yw beirniadaeth aelodau o dy barti dy hunan amdanat, fy hyn, dwi yn gallu cytuno efo ambell ddadl wyt yn ei gyflwyno yn y Siambr ac anghytuno efo eraill.
Aeron,
ReplyDeleteGad i ni gadw at y ffeithiau.
1) Roedd Alwyn Gruffydd wedi rhoi rhybudd o gynnig ger bron y Cyngor yn galw am beidio lleoli ty cyngor arddangos yn ei ward, a hynny oherwydd byddai gwneud "yn groes i farn yr aelod etholedig lleol". Mae hyn yn fwy na gofyn i swyddogol gysylltu ac o pan mae rhywbeth yn digwydd yn ei ward. Mae hyn yn galw am i aelodau lleol gael veto dros unrhywbeth sydd yn digwydd o fewn eu wardiau.
2) Mewn ymateb i hyn, fe wnes i ofyn cwestiwn cellweirus i'r swyddogol monitro. Yr hyn a ddywedais i oedd bod cynnig Alwyn wedi fy nrysu, a gofyn a fyddai'r Swyddog yn gallu cadarnhau ai cyngorydd ynteu ymerawdwr Gerlan oeddwn i. Wnes i ddim cyfeirio ar Alwyn Gruffydd fel ymerawdwr, dim ond fi fy hun.
Dwi ddim yn credu bod gen i fwy i'w ddweud ar y mater. Fyddwn i ddim wedi trafferth y tro yma, ond dwi'n credu ei bod yn bwysig cywiro rhywun pan mae nhw'n dweud celwedd er mwyn ennill dadl.
DYFRIG: Wel i feddwl fod hyn ddim yn dy boeni, ti wedi gwneud mwy o sylw o rhywbeth mor bitw nag erioed.
ReplyDeleteFfaith - Do fe awgrymwyd gennyt fod Alwyn Gruffydd yn "..rhyw ymerawdwr" gan fod angen i swyddogion gysylltu gyda'r aelod lleol gan nad oedd neb wedi cysylltu gyda Alwyn i ddweud fod yna "dy arddangos" am fod yn ei ward ac roedd yn gofyn o ran cwrteisi am i hynny ddigwydd.
Oedd, mi roedd yn erbyn y ffaith fod yna dy am fod yn ei ward ond yn bennaf doedd neb wedi dweud wrtho tan gafodd y papurau cyfarfod.
Mi gyfeirwyd dy drafodaeth tuag at Alwyn ac ni elli ddod oddiwrth hynny. Ta waeth, ma'r endefyn hwn wedi mynd ymlaen yn rhy ormodol ac dwi yn symyd ymlaen gyda pethau eraill. Joia'r Eisteddfod.
Aeron, rhyfedd dy fod yn ymddangos yn barod iawn i agoshau a chysylltu dy hun a'r postiwr Evan Owen. Wyt ti wedi cael golwg ar ei flog? Mae o'n ymddangos yn erbyn A106, yn wir mae'n cynnig cynorthwyo pobl i gael gwared o'r amod hwn. Efallai nad yw'r A106 yn berffaith (mae'n bell o fod) ond ydy caniatau i wr busnes fel Evan Owen, Asiant yn nol yr erthygl yn y Caernarfon and Denbigh a chaiff ei ddyfynnu ar ei flog sydd yn mynd i wneud elw ariannol o'r 'cynnig hwn' a rhywbeth rwyt ti'n ymddangos yn barod i'w helpu i wneud. Gwefan i wladychwyr sydd gan Mr Owen. Chwarae teg Aeron, ti'n neud joban dda.....
ReplyDeleteMae hefyd yn dipyn o warth dy fod fel aelod etholedig yn Sir Gwynedd yn caniatau copi o lythyr yn ymosod ar swyddog o'r Cyngor ar dy wefan pan nad oes modd (am wn i) i'r swyddog dan sylw i egluro ei waith, un ochr o'r ddadl. Ia, gwaith da Aeron mae'n siwr bod ambell i berson yn gwerthfawrogi dy 'ymdrechion', trueni nad pobl leol fydd rheini....
Siôn
SION: SUT DWI YN AGOSAU ?? DRWY GYHOEDDI EI SYLW AR FY MLOG ? DWI OND YN SENSRO OS YW RHYWBETH YN FALEUSUS NEU YN ANWEDDUS ( A DWI WEDI GWNEUD HYNNY I SYLW RODDWYD AM DEULU BRIFATHRO RODDWYD AR FY MLOG).
ReplyDeleteAC I ATEB Y CWESTIWN NADDO, DIM WEDI CAEL GOLWG AR Y BLOG MA, DIM SYNIAD LLE MAE O A DWEUD Y GWIR.
TI WELD YN 'NABOD EVAN OWEN YN WELL NA FI, DWI ERIOED WEDI'W GYFARFOD A DWEUD Y GWIR.
YN DANGOS DY FOD YN ANWYBODUS "SION", TYDI'R LLYTHYR DDIM YN YMOSOD AR SWYDDOG. YDYNT I'W GWARCHOD EFO "COTTON WOOL"?
OS YW SWYDDOG FELLY YN GWNEUD COCK UP MAWR SYN COSTIO I'R CYNGOR DYLEM FELLY ANGHOFIO EI DRYCHINEB ? DA WAN WAS. MI GOFIAF HYNNY. ER NAD DIM DYMA'R ACHOS YN Y FAN HON (OND COELIA FI MAE O YN DIGWYDD)
DWI YN FWY NA HAPUS O'R GWAITH DWI YN EI WNEUD YN LLEOL, MAE AMRYW (AR WAHAN I HARDCORE PLAID CYMRU) YN ANGHYTUNO, OND MAE GEN I DDIPYN OEDD YN BLAID CYMRU SYDD NAWR HEFO FI, RHAI NA GEFAIS EU PLEIDLAIS ETHOLIAD DIWETHAF, OND MI CAF EU PLEIDLAIS AR Y NESAF.
Aeron, os wyt ti am gychwyn blog (dwi'n gweld ei fod yn newydd gen ti) onid ydy'n syniad i ti, yn enwedig fel aelod etholedig ar y Cyngor Sir i weithio sut mae'r wefan a byd y blog yn gweithio yn gyntaf cyn rhoi dy droed ynddi go iawn - fel rwan?
ReplyDeleteDoes gen i ddim syniad yn y byd pwy ydy Evan Owen, erioed wedi clywed am y gwr bonheddig hwn heb son am ei nabod o. Clicia ar ei enw ble mae wedi postio neges uchod a cei weld ei flog - deiseb i roi mwy o hawl i siaradwyr Saesneg yng Nghymru, cynnig cynorthwyo pobl i gael gwared ar Amodau 106 ar eu cartrefi (bydd yn golygu bod unrhyw dai YN cael eu gwerthu i unrhyw rai heb unrhyw gysylltiadau lleol am y pris uchaf gall y farchnad ei gynnig), dyma pwy wyt ti yn hapus i agoshau ato. Neu wrth gwrs gelli roi "Evan Owen + S106) i fewn i Google a gweld pa danteithion sydd yno....dio'm yn 'rocket science'.
Sut wyt ti'n gwybod bod y swyddog wedi gwneud 'cock up' (defnydd anhygoel o iaith gan Cynghorydd am Swyddog gyda'r llaw!), o ddarllen dy negeseuon di ymddengys na TI sydd wedi gwneud y cock up yma drwy agoshau dy hun at wr fel Evan Owen. Da iawn ti Aeron, siwr bydd pobl Llanwnda wrth eu boddau a ti'n cynorthwyo ail wthio prisiau tai i fyny yn y gymuned! O be dwi wedi ei ddarllen, TI sydd wedi llwyr camddeall y gosodiad tai fforddiadwy.
Yn ogystal â delio a phris tŷ mae A106 yn nodi bod y cynnig cyntaf am gartrefi o'u math yn cael eu rhoi i bobl lleol yn gyntaf ac yna i gymunedau sy'n ffinio â hi (system cascade), mae pris tŷ fforddiadwy (i'w brynu neu ei rentu) yn cael ei nodi gan fformiwla (rhy gymhleth ac annigonol rhaid nodi) gan Lywodraeth y Cynulliad a Chyngor Gwynedd.
Felly ia, chwarae teg, ti'n neud joban dda, ond dim i bobl Llanwnda, byddi di'n arwr mewn ambell i ardal dros y ffin ac o fewn y diwydiant adeiladu serch hynny! Mae trafodaethau yn mynd ymlaen parthed banciau yn benthyg i dai ag A106 arnynt, yn wir myddengys bydd cytundeb yn fuan iawn os nad yw mewn lle eisoes felly codi bwganod yw hynny. Prawf arall o "cock up" efallai?
Gyda'r llaw, ble mae'r tŷ fforddiadwy £300,000 ma?
Byddi di'n gwneud job llawer gwell i bobl dy ardal drwy drio gweithio GYDA swyddogion nid yn eu erbyn. Dyna mae pob cynghorydd da, gwerth ei halen yn ei wneud. Trueni nad oes etholiad yn fuan....
Siôn
Anon - Diolch am dy sylwadau, roeddwn i ffwrdd ar fy ngwyliau ond mi wnes ganiatau dy flog di ac rwan mi wnai ymateb.
ReplyDeleteWedi gwaith ymchwil, (llythyrau yn y C&D) mi roedd Evan Owen yn aelod o Blaid Cymru, ac mi ymddiswyddodd dechrau'r flwyddyn hon.
Mae gan pawb ei hawl, mae Plaid Cymru yn y De yn gweithredu yn bur wahannol i'r Blaid yn y Gogledd Orllewin ac yn ochri efo unigolion uniaith saesneg ac yn eu clodfori i'r cymylau oherwydd mae gweithredu ffordd hyn yn ennill pleidleisiau iddynt.
Wrth gwrs yn wahannol yng Ngwynedd er mwyn ceisio cadw eu pleidleisiau yma. Mi fuasai gan unrhyw cynic air am hyn.
Son am "cock up" yr un mwyaf wnaethpwyd gan Plaid Cymru efo'r mater ysgolion, a gyda llaw unigolyn sy'n gynghorydd ydw I a dim Gweinidog yr Efengyl.
Dwi yn gwarchod pobol Llanwnda ac yn gwneud yn saff eu bod yn cael eu gwasanaethu.
Ty fforddiadwy am £300k, yn ardal Llanddeiniolen. Gwna dy waith ymchwil Sionyn bach.
Rwyn gweithio efo swyddogion pan mae swyddogion yn gweithio efo fi, ond pan nad ydynt felly mi wnai weithio tros pobl y ward.
Made hi wir yn drueni nad oes etholiad yn fuan, gan mi fuasai Llais yn ennill llawer mwy na 13 o seddi. Yn ychwanegol efo'r datganiad diweddaraf am sefyll am sedd y cynulliad, diddorol fydd hi tro nesaf.
Mwy diddorol fuasai petai ni yn sefyll yn etholiad San Steffan yn dilyn gwariant te a choffi Hywel ac Elfyn.
Gyda llaw Sionyn mae'r meddalwedd dwi yn ei ddefnyddio yn tracio IP.
Da was Bachgen gwirio.
Sylwi dy fod yn dewis peidio cyhoeddi fy neges diwethaf. Dy ddewis di, ond o ran gwybodaeth wyt ti wedi gweld y deiseb ar wefan Rhif 10 Stryd Downing i garcharu cenedlaetholwyr Cymreig, Albaneg a Gwyddelig? Mae gwr o'r enw Evan Owen wedi ei arwyddo. Yr un dyn tybed? Siôn
ReplyDeleteCywir Sion, ond mi wnaf ganiatau dy ail neges. Naddo yw'r ateb, ti weld yn gwybod mwy na fi amdano. Cyn aelod o Blaid Cymru yn ol son.
ReplyDeleteOnd o ddifrif calon, mae'r endefyn hwn wedi rhedeg ei bac, symyd ymlaen ngwashi.