Wednesday, 15 July 2009

TYMOR YR HAF - SUMMER TERM



Mewn un ffordd dwi yn hoffi'r haf, hoffi'r haul, tywydd poeth, lan y mor a ballu ond un anhawster o'r adeg yma ydi gwair yn tyfu yn gynt, gwrychoedd angen eu trin yn aml, coed angen eu tocio a lot mwy o waith chwynu yn yr ardd.

Gan fod yr ardd acw tua 1/4 acer, mae gennyf ddipyn o wair i dorri, dipyn o wrychoedd yn ei h'amgylchynu a beth wmbrath o goed o gwpas y ty a'r ardd.

Mae na rhywbeth i ddweud wrth ardd goncrid weithiau.



In one way I like the summer, the sun, warm weather, seaside and other summery stuff, however the only problem this time of year is that the grass grows quicker, the hedges need trimming more often, trees need pruning and a lot more work weeding the flower beds.

With the garden over 1/4 of an acre, I have a lot of grass to cut, a lot of hedges to trim, and i'm surrounded by trees.

There is something to say about concrete gardens sometimes.

2 comments:

  1. 1/4 da chi'n lwcus Aeron gennai 400!!
    Geth.

    ReplyDelete
  2. GETHIN: Diolch am y sylwad. Ga I fenthyg Dafad neu ddau ?

    ReplyDelete