Wednesday 8 July 2009

HYFFORDDIANT I AELODAU / TRAINING FOR MEMBERS




Heddiw dwi a nifer o aelodau eraill yn mynychu hyfforddiant i aelodau sydd yn parhau drwy'r dydd. Mi fyddwn yn parcio yn y Cei (gan fod Maes Parcio y Cyngor yn llawn erbyn 10.00 y bore) ac yn cerdded am rhyw 5 munud (sy'n dda i chi medde nhw) gyfochr a'r castell i Siambr y Cyngor.

Os fuaswn yn Lywydd y Blaid, mi fuaswn yn gofyn i barcio mewn lle anabl, ond tegwch yw tegwch ac mi fydd yn rhaid i mi barcio mewn safle arall a cerdded.

Pwy ddiawl mae pobol yn feddwl ydi nhw pan mae hunan bwysigrwydd yn cymeryd drosodd deddfwriaeth a rheolau gwlad.

Dwi wedi rhoi llun o'r llecyn parcio i fyny, ble roedd Dafydd Iwan wedi parcio sydd yn dangos yn glir ar y wal a'r llawr mai lle parcio i'r anabl ydi'r safle hwn - End of.

Today, myself and a number of members are attending a training day for Councillors which will last all day. I will be parking on the quay (as the council car park will be full by 10.00am) and shall be walking for about 5 minutes (which supposedly is good for you) by the side of the castle to the chamber.

If I were to be the president of Plaid Cymru, I would ask to park in a designated disabled zone and walk.

Who the hell do this kind of people think they are, when their self importance superseeds the law of the country.

I have a picture of the parking spot up where Dafydd iwan had parked and it clearly shows the spot as being for the disabled - The sign on the wall and the markings on the floor I think are a dead giveaway. - End of.

No comments:

Post a Comment