Monday 3 May 2010

CANLYNIAD ARFON - ARFON RESULT

Rwan ychydig o ddyddiau i fynd tan yr amser i bleidleisio ac rwy'n darogan bod Arfon am fod yn agos iawn.

Er fod Llafur yn genedlaethol yn colli gafael, mae'r sefyllfa yn Arfon yn wahannol i weld.

Fe fydd nifer yn pleidleisio i Blaid Cymru wedi disgyn yn sylweddol, fe fydd Llafur i fyny a'r sioc fwyaf tybiwn fydd i'r Lib Dems a'r Ceidwadwyr ychwnaegu yn sylweddol eu pleidlais.

Dwi yn amau fydd Arfon mor agos a tua 1,500 rhwng y cyntaf a'r ail. Er fod Bethesda yn eithaf cryf i Blaid Cymru, drwy golli cefnogaeth Caernarfon a Bangor yn gwneud gwahaniaeth i lefel o bleidleisiau i Blaid Cymru.

Mae Sir Fon yn mynd yn fwy diddorol, mae Llafur yn disgyn ychydig yno ac mae Plaid Cymru i weld yn ychwanegu yno, ond yn bwysicach fydd faint fydd y pleidiau eraill yn ei gymeryd oddiwrth Llafur a Plaid.



Now a few days before Thursday's election, I forsee that Arfon will be very close.

Although Labour nationally are loosing support, the situation in Arfon appears to be different.

The number voting for Plaid will fall substantially, Labour should be up but more surprisingly the Lib Dems and Conservatives will increase quite a lot.

I suspect that there will be less than 1,500 between the first and second, even though Bethesda should be strong for Plaid Cymru, they have lost support in Caernarfon and Bangor and that will make a difference to Plaid.

Sir Fon will be exciting as Labour appears to fall a bit there and a slight increase in Plaid's vote but it all depends how much the other party's take away from the front two.

6 comments:

  1. You seem to be a little confused Aeron.

    Arfon is a new seat, but is nominally held by Labour. If your prediction is correct with Labour up & Plaid substantially down, then Labour would win very easily. The result wouldn't be a close one.

    But for that to happen Arfon would need to behave very differently to the rest of the UK.

    ReplyDelete
  2. Er mwyn clirio unrhyw ddryswch sedd Llafur ydi Arfon ar lefel San Steffan. Mae yna ddisgwyliad y bydd yn syrthio i Blaid Cymru y tro hwn.

    Mae dy ganfyddiad di yn wahanol i'r lled gonsensws, ac mae gan bawb hawl i'w farn wrth gwrs.

    Os wyt ti efo ffydd yn dy ddarogan mae yna gyfle i ti wneud ychydig o bres - mi gei di 6/1 ar Llafur yn ennill Arfon yn Ladbrokes, a gallet gael gwell ar Betfair.

    Fydda i fy hun ddim yn cymryd y bet arbennig yna mae gen i ofn.

    ReplyDelete
  3. Menai Blog: Ydi mae newid y ffin wedi gwneud gwahaniaeth i Arfon OND lle mae Bethesda wedi troi o gefnogi Llafur i gefnogi Plaid Cymru mae'r canlyniad yn mynd yn agosach.

    Un waith y flwyddyn fyddwn yn rhoi "bet" ymlaen, a ceffylau Grand National fydd hynny, fyddwn I ddim yn rhoi unrhyw "fet" arall ac fe fydd rhaid disgwyl tan Ebrill 2011 i'r nesaf fynd ymlaen.

    Gyda colli cefnogaeth yng Nghaernarfon mae pethau yn newid, ar unig beth sydd am wneud gwahaniaeth ydi os fydd y bobol hyn yn mynd allan i rhoi eu pleidlais i rhywyn arall ynteu aros adref a peidio pleidleisio.

    ReplyDelete
  4. Menai Blog: Not confused at all, Arfon has lost Dwyfor and gained Bangor and Bethesda, thus making the support for Plaid diminish substantially and with generally people in Arfon dissatisfied with the way Plaid run Gwynedd then this will be felt in the election.

    Labour should win easily, but with Brown making such a mess then of course this will have an effect in the regions. That is how i forsee it being close.

    Talking to supporterts of all parties around, this is how i gauge the prediction.

    ReplyDelete
  5. Mae'n drist fod 'cenedlaetholwr' honedig, fel ti Aeron, yn dangos awydd a brwdfrydedd i weld tranc Plaid Cymru - yr unig Blaid cenedlaethol sydd yn rhoi anghenion Cymru yn gyntaf, wedi ennill pob mathau o fuddigoliaethau i'r Gymraeg, i weithwyr Cymru, ac i sicrhau parhad a thwf y genedl, ac wedi sicrhau datganoli a thwf yn y gefnogaeth i'r broses ddatganoli.

    Efallai yn wir y gall 'cenedlaetholwr' sefyll yn enw Plaid arall yn lleol, ond pan fo'n dod i etholiad cenedlaethol ac etholiad San Steffan pwy arall y gall cenedlaetholwr gwerth ei halen ei gefnogi?

    Mae dy farn a'th fytheiriadau gwrth Plaid Cymru yn bradychu dy wleidyddiaeth - gwleidyddiaeth beryglus sydd yn cyfranu at barhad sefyllfa truenus Cymru - yn gwrthod taflu'r gadwyn Brydeinig, wedi ei llesmeirio gan oleuadau Llundain a dinasoedd eraill Lloegr.

    ReplyDelete
  6. Mae'n drist fod 'cenedlaetholwr' honedig, fel ti Aeron, yn dangos awydd a brwdfrydedd i weld tranc Plaid Cymru

    DOES GAN BLAID CYMRU DDIM Y MONOPOLI AR YR IAITH A DIWYLLIANT CYMREIG, A DWEUD Y GWIR ERS BLYNYDDOEDD BELLACH MAE NHW WEDI COLLI'R FFORDD AC DDIM BELLACH YN CYNRYCHIOLI Y BOBOL GO IAWN AC YN RHOI BLAENORIAETHAU CAERDYDD AC RHAI UNIGOLION HUNAN BWYSIG O FLAEN CYNRYCHIOLI'R BOBOL.

    Efallai yn wir y gall 'cenedlaetholwr' sefyll yn enw Plaid arall yn lleol, ond pan fo'n dod i etholiad cenedlaethol ac etholiad San Steffan pwy arall y gall cenedlaetholwr gwerth ei halen ei gefnogi?


    MAE ANGEN CYNRYCHIOLYDD SYDD AM GEFNOGI EI ARDAL YN GYNTAF A DIM EI BARTI, PWY SYDD I DDWEUD FOD UNIGOLYN O BLAID GWAHANNOL I BLAID CYMRU DDIM YN GENEDLAETHOLWR/WRAIG ?

    Mae dy farn a'th fytheiriadau gwrth Plaid Cymru yn bradychu dy wleidyddiaeth - gwleidyddiaeth beryglus

    CALLIA, FELLY BE TI'N DDWEUD YDI OS NAD YDI RHYWYN YN CEFNOGI PLAID CYMRU, TYDI NHW DDIM YN GYMRO GLAN,- TWP A HOLLOL DWP. MAE ANGEN I BLAID CYMRU NEWID EU H'AGWEDD A DECHRAU CYNRYCHIOLI Y BOBOL ETO A DIM ABETHU EIN H'ARDALOEDD ER MWYN GRYM A BOD MEWN PWER.

    ReplyDelete