Fel rhywyn sydd ddim yn aelod o unrhyw blaid oedd yn ceisio am sedd yn yr etholiad hwn, dwi yn gallu dadansoddi paham daeth y canlyniad a fu.
ARFON
Roeddwn wedi dweud ers dipyn fod Llafur a Plaid yn agos er fod Llafur yn Llundain ddim yn boblogaidd. Pam hynny ? Wel, mae Plaid Cymru yn colli cefnogwyr yn sydyn, gyda aelodaeth i lawr, busnes rheolaeth Cyngor Gwynedd gan Blaid Cymru, a polisi Plaid yng Ngwynedd o fethu rheoli y Cyngor.
Colli cefnogaeth Caernarfon a Bangor yn allweddol iddynt, ond tybed beth fuasai'r canlynniad wedi bod petai Llais Gwynedd wedi sefyll hefyd. Fe safodd Louise Hughes sy'n aelod o Lais Gwynedd yn Dwyfor/Meirionnydd yn anibynnol ac mi gafodd tros 1,300 o bleidleisiau. Roeddwn wedi rhagdybio 1,500 - 1,700 ac wedi dweud hyn wrthi ar y ffon ac mae hi wedi gwneud yn dda iawn (gan fod rhai yn amau mai ond 300 fuasai yn ei gael). Tybed os fuasai Llais Gwynedd wedi ennill 1,000 oddiwrth gefnogwyr y Blaid, ac efallai 600 oddiwrth y gweddill yma yn Arfon, fuasai wedi gwneud Arfon yn sedd i Lafur.
Fe fydd etholiad y Cynulliad yn 2011 yn ddiddorol gan bryd hynny fe fydd yna ymgeisydd Llais Gwynedd yn sefyll, ac os fydd Plaid Cymru yn dal i golli cefnogaeth, wel pwy a wyr.
Y Ceidwadwyr, er fod yr ymgeisydd yn fachgen gweithgar, ac yn hogyn o Fangor, fe ychwanegodd at bleidleisiadau yr etholaeth yn fwy nag sydd wedi ei wneud gan unrhyw ymgeisydd ers dipyn. Gan fy mod yn adnabod Robin, rwyn ymwybodol ei fod wedi gweithio yn galed, roedd ei lun ar gefn bysus lleol tra fod poster Plaid Cymru yn cefnogi Cwmni Bysus o tu allan i Gymru (ac wedi'w argraffu yn Birmingham).
Lib Dems, nes i ddim hyd yn oed dod ar ei thraws yn unlle. Wn i ddim os oedd hi yn canfasio ynteu ond lluchio ei h'enw i fewn, argraffu taflenni a dyna ni.
O leiaf roedd cefnogwyr Plaid, Llafur a'r Ceidwadwyr i'w gweld o gwmpas, ond er mwyn bod yn deg a'r Lib Dems, nid yw'r tim ar y llawr ganddynt chwaith felly heb hynny mae hi yn annodd.
Dydd Sadwrn cyn yr etholiad, roedd Tim Ceidwadol yn mynd o gwmpas busnesau Caernarfon yn y bore tra fod Tim Llafur yn Twtil a Tim plaid ym Mangor.
Doedd y rhaglen teledu efo'r tri amigos yn ddim i wneud efo Plaid Cymru yn methu gwella yma yng Nghymru. Doedd gan Plaid Cymru ddim mwy o hawl i fod yn rhan o'r darllediad hynny na'r UKIP, GREENS, DUP, SINN FEIN, ALLIANCE a'r BNP. 165,000 bleidleisiodd i Blaid Cymru, pleidleisiodd 285,000 i'r Green's. Yn Saesneg - Get over it.
Mi roddwyd sylw i Blaid Cymru gan y wasg Gymraeg yn fwy na gafodd unrhyw barti bychan arall felly roedd methiant Plaid Cymru yn dod i alwr i unai diffyg gwaith yn yr etholiad (ac dwi ddim yn meddwl mai hynny oedd o) neu fod pobol Cymru wedi colli ffydd arnynt i warchod eu buddiannau neu wrth gwrs amswer am arweinydd newydd ac ysbrydoliaeth.
Un sioc i mi oedd mai pedwerydd oeddynt yn Aberconwy. Roeddwn wedi meddwl mai ail fuasai'r canlyniad, ac mae dod yn bedwaredd yn rhoi y sedd hon yn sedd efallai i'r Ceidwadwyr neu Llafur adeg y Cynulliad.
I Lafur ychwanegu at eu pleidlais yn Mon, a'r Ceidwadwyr gynyddu a Peter Rogers ddisgyn yn gwneud Ynys Mon yn hynod o ddiddorol erbyn 2011. Tybiwn gall hon fynd i Lafur bryd hynny gan fydd y Tories a Lib Dems yn rhedeg Llundain ac felly fydd Llafur yn ennill poblogrwydd fel yr wrth blaid.
Guto yn Aberconwy, wel mi welais o ychydig yn ol yn Morrissons, ac mi ddywedais wrtho ei fod am ennill, mi fydd Guto yn gweithio i'r etholaeth, yn Gymro Cymraeg a Chymreig, ac mae ganddo oddeuty 18 mis i wneud gwahaniaeth gan fe fydd yna etholiad arall bryd hynny.
Cost etholiadau - wel mi fydd hyn oll wedi costio yn ddrud i'r pleidiau mawr ac i gael etholiad arall oddi fewn i ychydig fisoedd wedyn yn golygu fydd rhaid i gefnogwyr cyfaethof Plaid Cymru fynd i'w pocedi ei hunan i dalu amdano - ac hen bryd hefyd.
No comments:
Post a Comment