Thursday 6 May 2010

YR AMSER WEDI DOD - THE TIME HAS COME


Wel amser yr etholiad wedi cyrraedd. Amser i ddewis. I'r rhai ohonoch sy'n dweud "..dwi ddim am fotio oherwydd does dim pwynt"., oes ma yna bwynt. Cofiwch y frwydr ein cyn dadau i ni gael pleidleisio, cofiwch y frwydr i ni gael rhoi ein pleidlais yn gyfrinachol, cofiwch y frwydr i ferched gael y bleidlais, a cofiwch fod pob un yn cyfrif. Felly da chi ewch allan, cofrestrwch ac hyd yn oed os nad ydych yn hoffi unrhyw un o'r ymgeiswyr, rhowch o i fewn yn wag neu ysgrifennwch rhywbeth arno ond da chi ewch allan.

Tydw i ddim yn meddwl llawer o bolisiau rhan fwyaf o'r partion sy'n sefyll, oes ma na elfennau da ymhob un ac efallai ychydig o Lafur, ychydig o Geidwadwyr a'r Lib Dems ac hyd yn oed ychydig o Blaid Cymru mewn cawl efo'i gilydd i gael polisiau gwell petai hynny yn bosib.

I unrhyw un sy'n sefyll mae ganddynt ddewder tu hwnt, oherwydd nid ar chwarae bach mae rhywyn yn sefyll.

Hefyd heddiw cofiwch am y rhai sydd yn gweithio yn y mannau pleidleisio, o 7 y bore tan 11 16 awr o eistedd gweld pobol yna distawrwydd tan y nesaf.




The time has come to cast your vote. Time for decisions. To those who say "..i'm not gonna vote, there is no point", - yes there is a point. Remember the struggle of our fathers and grandfathers (and mothers) to be allowed to vote, to be allowed to vote confidentally, and remember the struggle for women to be allowed to vote, and remember each vote counts. So for goodness sake, get out there and vote. Even if you cannot agree for whom to vote, put it in blank or write something on it, but do go out.

I like parts of each of the parties policies, a bit of Labour, Conservatives and Lib Dems and even Plaid Cymru in a soup would be far better if it was possible.

To anyone who put their name forward they are brave, and one does not make this decision lightly.

Also today, think of those who work from 7 in the morning until 11 at night in the booths, they see people then a gap until the next one.

No comments:

Post a Comment