Tuesday 20 October 2009

MYTH




Syth ar ol cyfrif pleidleisiau yn Mai 2008, roedd rhywyn wedi rhoi y faner i fyny "DAFYDD IWAN DOS I GANU" wrth gwrs fi ges y bai am hynny gan gynghorydd Plaid Cymru yng Ngwynedd.

Dywedodd wrthyf fore wedyn "... peth gwirion nes tio o roi y faner na i fyny efo brics, be fuasai y brics wedi disgyn ar ffenestr car yn y gwaelod".

I ddechrau doedd gennyf I ddim byd i wneud efo'r faner ac er i mi holi nifer yng Nghaernarfon, does dim enw wedi dod ymlaen i mi.

Y diwrnod hwnnw roeddwn wedi bod ar fy nhraed ers 5.30 y bore gan roedd yn rhaid sefyll mewn canolfanau pleidleisio ac drwy gydol y dydd roeddwn yn rhannu fy amser rhwng gorsafoedd Felinwnda, Rhostryfan a Rhosgadfan. Syth ar ol cau y blychau, roeddwn i lawr yn y Ganolfan Hamdden tan roedd y bleidlais olaf wedi'w chyfrif yna adref i'r gwely.

Gyda llaw yn ystod y cyfrif roedd yna rhyw gorach bychan yn mynd o fwrdd i fwrdd ac bob tro yn pasio aelod o Lais Gwynedd neu Llafur, roedd rhyw dwrw fel neidr ganddo rhywbeth fel "hssss" - Dwi ddim am ei enwi, gan na thybiwn fod ymddwyn fel hyn yn esiampl dda i blant yn ei ysgol.

Beth bynnag, wedi llwyr flino, roedd rhaid codi i fynd i'r ganolfan y bore trannoeth, ac roedd fy nhad wedi dod draw i ddreifio fi yno. Ar y ffordd aeth y ffon, ac hefyd roedd yr unigolyn ar yr ochr arall yn gofyn i mi beth oeddwn wedi ei roi i fyny ar y bont. Wel roedd rhaid i mi fynd yno i weld, a dyna beth wnaeth.

Gallaf ddatgan gyda llaw ar fy nghalon nad oedd dim byd i wneud efo fi a neb dwi yn ei adnabod chwaith. Yn amlwg i unrhyw un sy'n 'nabod y cofis mai hiwmor "Cofi Dre" oedd yr weithred.




Straight after counting the votes in May 2008, someone had placed a banner on a bridge in Caernarfon with "DAFYDD IWAN DOS I GANU" (Dafydd Iwan - get singing)and of course I was accused by a Plaid Cymru Councillor in Gwynedd.

He told me the following day "...that was a silly thing you did in placing bricks to hold the sheet up, what would have happened if the bricks had fell through a car's windscreen"

I can categorically state that I or anyone I know had nothing to do with the banner. I have asked around but no names has been forthcoming.

Thad day I had been up since 5.30am as I wa son duty at the voting centres in my ward. I had to split my time between three centres in Felinwnda, Rhostryfan and Rhosgadfan. Straight after the voting closed, I was down in the Leisure Centre until the last vote was counted, then straight home to bed.

By the way during the evening count, there was a small dwarfish person going from table to table and every time he passed a Llais Gwynedd candidate or a Labour supporter he made a hissing noise like a snake - Now i'm not going to name him, as this kind of behaviour does not set a good example to children in his school.

Anyway, thoroughly knackered , next mornin g I had to get up early to go back to the Leisure Centre and my father was over to drive me there.

On the way over, the mobile went and a friend asked me If it was me who had put the banner up, I knew nothing about it until then. So we made a slight detour to see it.

Hand on heart I can easily state that it wasn't me nor was it anyone I knew ( or who have admitted to me anyway)

Obviously anyone who knows the people of Caernarfon would know that this would be the work of a witty "Cofi Dre".

No comments:

Post a Comment