Sunday 18 October 2009

BE YDI'R DYDDIAD - WHAT'S THE DATE


Bore Iau daeth rhaglen y cyngor drwy'r post at yr wythnos ganlynnol.
Wrth ei ddarllen roedd yn rhaid ail edrych ar y dyddiad - Oedd hi yn Ebrill y 1af ?

Argymell codi cyflogau Uwch Swyddogion, mewn ams er ble mae Cyngor Gwynedd yn torri gwasanaethau, swyddi, adnoddau.

Mae angen arwain drwy esiampl yma. Mi fuasai'r Uwch Swyddogion a enwir yn yr adroddiad yn ennill llawer mwy o barch trigolion Gwynedd pe buasent yn cynnig tynny yr argymhelliad yn ol hyd nes fod gwasanaethau i ysgolion , yr ifanc, yr henoed ac eraill yn y Sir yn un o'r gorau yn y Wlad a Gwynedd yn ariannol yn ol mewn sefyllfa o ddigonedd.

Pan mae ysgolion yn cau, diffyg adnoddau ynddynt, dim toiledau ar agor ac wedyn argymhelliad i roi mwy o gyflogau i Uwch Swyddogion - Tydi'r peth ddim yn gwneud synnwyr.

Rwan dadl y Cyngor ydi fod rhaid i gyflogau swyddogion i fod ar yr un lefel ar sector breifat.

Sori, ond tydi hynny ddim yn ddadl. Mae'r Cyngor yn saff o'i h'incwm, mae ganddynt gynllun pensiwn (6% o'i cyflog), mae ganddynt gynllun salwch (6 mis o gyflog llawn a 6 mis o hanner cyflog), ac mae ganddynt gynllun petaent yn marw (3 gwaith eu cyflog gross).

Rwan dywedwch wrthyf fi, faint o fusnesau preifat allan yna sydd gyda cynlluniau yr un fath ? Fawr ddim. Mae £50,000 y flwyddyn yn hen ddigon uchel fel cyflog yn yr ardal hon.

Felly o ddifrif calon ac er mwyn ennill parch pawb, tynnwch y cynnig yn ol cyn Dydd Iau gan fod ei argymell yn hunanladdiad gwleidyddol mwyaf ers y Ddogfen Ad-Drefnu Addysg ac mae Dyfed Edwards yr Arweinydd a J R Jones yn cynnig y cais am godiad cyflog.

Cawn weld sut fydd pawb yn rhoi eu pleidlais.




On Thursday the Council's Agenda came through the post for the following week.

Reading it, I had to check that it wasnt 1st of April.

There was a proposal to raise the salary of Senior Staff whilst the Council is cutting services, jobs and resources.

This I feel is the time to lead by example. The Senior Officers named in the report would earn a lot of respect from ratepayers in Gwynedd if they were to suggest withdrawing the proposal until such time that resources in schools are replenished, the young and old and the County back to the land of plenty.

When schools are poroposed to close, public toilets are proposed to closeand then at the same time a proposal to increase the salary of seniior officers - It just doesnt make sense.

Now the Council's argument is that Public Sector pay must be on the same level as private industry.

Sorry byt that is not a valid argument. The Council's income is known, they have ap pension plan (6% of salary), Sick Plan (6 months full pay and 6 months half pay) and a death in service policy of 3 times their gross salary tax free.

Now tell me how many private enterprises out there offer the same conditions of work ? Not much. I think that £50,000pa is enough of a salary in the council in this area.

So for goodness sake to gain a lot of respect from the ratepayers in Gwynedd, withdraw the proposal before the meeting as to introduce it is political suicide worse than the Schools Policy Fiasco and Dyfed Edwards and JR Jones are to propose the rise.

We will all be able to see who voted which way.

2 comments:

  1. Cytuno Aeron,
    mae'n adeg rhyfedd i roi codiad cyflog i Uwch Swyddogion. Ar y llaw arall mae nifer ohonynt wedi cael cyfrifoldebau ychwanegol fel dwi'n deall? Byddai'r arbediad yn ddefnyddiol iawn i gefnogi ein Ysgolion lleol. Er dweud hyn mae nifer o athrawon y Sir yn enill dros £50k, a fyddai'r rhain yn fodlon cymryd toriad cyflog i sicrhau dyfodol ein ysgolion bach?

    ReplyDelete
  2. Cyfrifoldebau ? Ar y rheng flaen mae nifer o staff yn gorfod gweithio ddeg gwaith caletach. Wn i ddim am athrawon yn ennill tros £50k ond mae yna brif athrawon yn ennill symiau fel hyn.

    Mae'n debyg fod cytundebau athrawon (a pensiynnau) yn wahannol i rai swyddogion cyngor sir ac efallai dyna pam.

    ReplyDelete