Thursday 13 May 2010

Y BWLI MAWR YN CAEL EI SORTIO - THE BIG BULLY GETTING SORTED


Tydw i ddim yn cytuno efo penodiad Cheryl Gillam fel ysgrifennydd Cymru ac mewn dadl ar Taro'r Post heddiw (Dydd Iau) roedd yna drafodaeth ar y mater.

Yn yr ochr wyrdd oedd y bwli mawr ei hun ELFYN (Biliau Bwyd yn Llundain o £400 bob mis) LLWYD, ac ar yr ochr las roedd JULIANNA HUGHES.

Mi sortiodd hi Elfyn Llwyd, mi fedrodd ei fwyta, ei gnoi ac yna ei daflu allan heb ddim o broblem.



I do not agree with the appointment of Cheryl Gillam as the Welsh Secretary but in a debate today on Taro'r Post (Thursday) there was a discussion on the matter.

In the green corner was the big bully himself ELFYN (I spend £400 of taxpayers money every month on food) LLWYD, and in the blue corner was JULIANNA HUGHES.

She sorted him out, she chewed him then spat him out without any problems whatsoever.

3 comments:

  1. Roedd Julianna Hughes ar taro post heddiw yn hollol warthus, ffiaidd a sarhus. Dim dadl o gwbl jesd gweiddi, rantio a galw Elfyn Llwyd yn enwau. Mae dadlau yn iawn, dwi ddim yn cytuno a David Davies ond dwi'n parchau ei safbwynt ef, ond mae Mrs Hughes wedi colli pob parch am ei ymosododiau sarhaus, llawn casineb a personal.

    Ag os ydych chi hoffi'r fath afiach yna o ymosodiadau, mae hynny yn dweud mwy amdan chi nag am y pobol chi'n ymosod arno.

    ReplyDelete
  2. D HUGHES: Anghytuno yn llwyr, roedd hi ddim yn cymeryd gan fwli, ac yn ei roi o yn ol iddo. Er nad wyf yn cytuno gyda'i gwleidyddiaeth, roedd hi yn ddynes a hanner i Elfyn (Bwli) Llwyd.

    ReplyDelete
  3. Dwi'n cytuno efo D.Hughes.

    Roedd Julianna Hughes y peth agosaf i amhosib i ddadlau efo oherwydd y modd roedd hi'n bwrw ati i fynegi ei barn a thrin y drafodaeth. Roedd y pethau roedd hi'n ei ddweud yn anhygoel (honni bod Magi Thatcher yn Gymraes) a'n chwerthinllyd.

    Roedd y radio ymlaen ar fy nesg a phawb acw yn y swyddfa yn chwerthin ar ei phen, roedd yn amlwg i bawb bod yr het wirion yn gwybod dim am beth oedd hi'n ei thrafod gan wneud iddi hi ei hun edrych fel ffwl o ganlyniad (fel ymateb pawb wnaeth ffonio fewn ar y rhaglen).

    Yn wir, roedd nifer iawn o bethau dywedodd yn enllibus, yn gelwyddau noeth a'n fath o wleidyddiaeth oedd yn crafu gwaelodion y barel (y math does gennyf innau dim amser na pharch i dalu sylw at). Mae hi'n bechod na sylwaist ar hynny yn lle trio bachu ar gyfle bach arall i daflu ergyd wan i gyfeiriad y Blaid.

    ReplyDelete