Monday 28 March 2011

CAERNARFON

Diddorol oedd ymateb criw Plaid Cymru o Gynghorwyr Tref Caernarfon i gwyn gan berchennog gwesty lleol i sywadau mae wedi ei gael gan ymwelwyr i'r dref. Yn lle delio gyda'r broblem maen't yn gweld bai ar y perchennog am ddod a hyn i'w sylw.

Wel am griw dall, ac yn bendant ddim yn deallt y sefyllfa.

Am flynyddoedd mae Caernarfon yn araf yn dirywio. Cychwyn hyn oedd i Gynghorwyr Caernarfon wrthod i Marks a Spencers ddod i Gaernarfon yn y 1970'au. Ac wedyn aethant i Landudno ac yn eiriau y sais "the rest is history".

Gan fod Plaid Cymru wedi rheoli'r Cyngor Tref ers rhai blynyddoedd, mae'n amlwg fod yna ddiffygion mewn gweledigaeth ganddynt i ddatblygu'r dref yn fwrlwm o weithgareddau.

Mae Bangor yn datblygu, a dweud y gwir mae nifer o drefydd yn datblygu yn neis tra fod Caernarfon yn dirywio i ddim.

Felly chi bobol Dre, mae hi yn amser am newid yn yr etholiad nesaf neu fydd Caernarfon yn wagle o ddifaethwch.


It was interesting to see the reaction of the Plaid Town Councillors in Caernarfon to points made by a local hotelier recently.

Instead of acknowledging the problem and thanking the individual for bringing it to their attention, they see fit to blame the messenger.

What utter contempt from ill advised ill mannered individuals who obviously cannot see the problem and bury their heads in the sand hoping it will go away.

For years Caernarfon has been deteriorating. The start could probabbly be when Caernarfon Town Council in the 1970's refused marks & Spencers to locate in Caernarfon, they then opted for Llandudno, and of course the rest is history.

For many years now, Plaid Cymru have been the majority party on the Town Council and obviously they lack foresight in developing the Town to be a hive of activity.

Bangor has developed nicely and so has many other Towns and Cities nearby.

So the people of Caernarfon it's time for change at the next election or Caernarfon will fall further behind.

3 comments:

  1. Mae'r cysyniad bod angen cwmniau gadwyn enfawr, megis Marks & Spencer, i achub economi trefi yn rwtsh llwyr. Mae cwmniau o'r fath yn bwlian eu ffordd fewn i'r economi leol a'n cymryd rhyw fath o falchder o weld siopau lleol yn cau gan fod hynny dim ond yn golygu bod mwy o bres yn dod i'w coffrau nhw.

    Dydy siopau mawr ddim yn denu mwy o siopwyr i'r dref yn gyffredinol - dim ond drwy drysau nhw eu hunain. Mae'r siopau hynny'n gynyddol am weld eich holl bres yn cael ei wario o fewn eu drysau ac yn nunlle arall - mae'r ffaith bod 'Marks & Sparks' yn gwerthu dillad, nwyddau i'r ty, bwyd ac efo caffi yn brawf o hynny - h.y dydych ddim angen gadael y siop drwy gydol y dydd.

    Edrychwch ar ddatblygiad Parc Tostre yn Llanelli - sef y datblygiad anferth ar gyrion y dref, mae'r stryd fawr bellach yn farw a'r siopau yn cau un ar ol y llall.

    Os am achub yr economi leol ydy'ch prif nod, yna ymgyrchu dros achub a chynyddu cwsmeriaeth y siopau bach, annibynnol, cymunedol, ffyddlon a LLEOL y dyliwch ei wneud.

    Mae dweud bydd Marks & Spencer (ac unrhyw siop gadwyn arall) yn 'achub' yr economi yn ffordd naif iawn o feddwl, a'n hoelen arall yn arch busnesau lleol.

    ReplyDelete
  2. Dwi am anghytuno, mae nifer o siopau bychain digon da i ddal eu tir yn Llandudno gyfochr a siopau cadwyn mawr. Mae'r syniad os oes yna siop fawr mewn tref, gall hynny ddenu pobol yna i'r siop hwnnw ac efallai wedyn mynychu siopau eraill o amgylch y siop fawr. |ame cymhariaeth i Lanelli yn anheg gan fod M&S wedi setlo ynghannol Llandudno. Mae methiant Caernarfon i wneud unrhywbeth yn dweud popeth.

    Os ydi siopau bach am gystadlu mae gofyn iddynt fod yn agored ar ddydd sul ynghannol yr haf, ac mae nifer yng Nghaernarfon ar gau felly does yna ddim byd i ymwelwyr weld na ei wneud yno ar Ddydd Sul.

    ReplyDelete
  3. Not splitting hairs but 'Marx & Sparx' were in Llandudno an awful lot earlier than the 1970's. My Great Aunt Cissie was working for them in Llandudno in the 1950's!!.

    Although they did expand into a second unit in the 70's

    ReplyDelete