Sunday 24 October 2010

Arbedion yn Cyngor Gwynedd Savings

Iawn dyma ddechrau.

Faint mae Cyngor Gwynedd yn dalu am ymgynghorwyr, mae ganddynt ymgynghorwyr addysg, gwasanaethau cymdeithasdol, priffyrdd a ballu, i gyd yn hunan gyflogedig. Oes mae gan rhai arbenigedd ond os ydych yn talu £50k, £60k a £70k a mwy i staff, dylai'r arbenigedd hynny fod ganddynt.

O'r cyllid addysg fe wnaeth Cyngor Gwynedd gyflogi Ymgynghorwr i edrych ar Ysgolion Uwchradd. £70,000 ydi'r son o ffi sydd yn cael ei drafod. A pwy feddyliwch chi sydd wedi cael y swydd, wrth gwrs cyn bennaeth ysgol sydd wedi ymddeol ac yn derbyn pensiwn sylweddol yn ogystal a'r cytundeb aur hyn.

Dim bai arno ef, os fuaswn I yn ymddeol a chael cynnig joban handi am £70k arall, twp fuaswn i'w gwrthod.

Iawn os ydi o yn gyflogedig, mae'n rhaid fod yna hysbyseb wedi bod yn y papur, rhestr fer wedi'w llywio ac yna cyfweliadau cyn apwyntiad.

Os ddim dylai ffurflen dendr wedi ei chreu ac ymgeiswyr dendro am y gwaith yn unol a chanllawiau Tendro Ewropeaidd (European Journal).

Mi fyddwn yn gwneud ymholiadau ar sut wnaethpwyd yr apwyntiad.


Let's start.

How much does Gwynedd Council pay for external consultants. They have consultants for education, social service, highways and others, all self employed or employed by a consulting company. Yes, sometimes you require some expertise, but with staff earning £50k, £60k and £70k pa you would expect that expertise to be in house.

From the Education Budget, Gwynedd recently employed a Consultant to look at Secondary Schools. The talk is that £70kpa is being paid, and who would you think got the job, well of course a retired head teacher who not only receives a substantial pension but also this golden contract.

Now don't get me wrong, I don't blame the retired head teacher, as if I retired and someone handed me a £70k contract, i'd be a fool to refuse.

My argument is, how much is spent on consultants by Gwynedd Council.

Now if employed, there must have been a job advert, an interview then someone appointed to the post.

Otherwise it would have to be tendered for the work in accordance with European Journal and Tendering Procedures.

I will provide figures at the end of the exercise and also an explanation as to how the appointment was made.

2 comments:

  1. Aeron,
    Wyt ti wedi holi faint o arian mae'r adran addysg yn ei dalu i bobl allanol i 'ddelio' efo trefniadaeth ysgolion?
    Os fasa chdi'n crafu o dan y wyneb fe weli bod cyn gyflogai'r adran addysg a Cynnal, sydd wedi ymddeol, yn cael boost reit dda i'w pensiwn.

    ReplyDelete
  2. Naddo ddim eto. Dwi wedi gofyn cwestiwn digon diddorol ac os dwi yn iawn, yn debygol o gyfeirio y mater i Swyddfa Awdit Cymru. Dwi heb gael yr ateb eto ond fel ddwedais os ydwyf yn iawn ( a dwi yn meddwl fy mod I, mae'r Cyngor yn anfwriadol wedi camarwain y cyhoedd)

    ReplyDelete