Heddiw roedd yna gyfarfod eithaf diddorol yn y Cyngor.
Mae arweinydd y Cyngor (Dyfed Edwards) yn gyson yn son am gydweithio a ballu, ond geiriau gwag unigolyn heb unrhyw fath o synnwyr ar sut i arwain ydi hyn.
Roedd Llais Gwynedd gyda hawl i un sedd ychwanegol ar Fwrdd y Cyngor, ond tydi plaid Cymru wrth gwrs ddim eisiau hynny.
Gyda llaw os ydi aelod etholedig yn galw un aelod arall yn "ignorant git", yn uchel fel fod hyd yn oed swyddogion yn y blaen yn ei glywed, oni ddylai wedyn ymddiheuro ?
Dyna beth ddigwyddodd gan aelod o Blaid Cymru yn erbyn aelod o'r Rhyddfrydwyr, ond wrth gwrs nid y tro cyntaf iddo wneud rhywbeth o'i fath, mae'n aml yn torri ar draws a gweiddi pethau. Mae yna gwyn wedi ei roi i fewn i'r Swyddog Monitro oedd methu peidio ei glywed y tro hwn.
Esgusodion aelodau o'i blaid ydi "..mae o yn hen a dim yn deallt".
Hen neu beidio, os ydi pob aelod arall yn dilyn y canllawiau, rhaid iddo yntau wneud hefyd. Mae Llais Gwynedd wedi bod yn rhy "laid back", ond dyma ddechrau i ni newid"
Mi fydd yna gwyn hefyd yn mynd ar ddesg Carl Seargant erbyn fore Llun fod y Cyngor wedi gweithredu yn groes i'w gyfansoddiad ei hunan. Ultra Vires ydi'r gair lladin am hyn.
Gyda llaw neis oedd gweld y Cynghorydd Dyfrig Jones yn gwneud ymweliad a'r cyngor, digon posib am yr 8 mis diwethaf ei fod wedi bod yn brysur iawn gan nad ydwyf wedi ei weld rhyw lawer mewn cyfarfodydd ?
Today there was an interesting meeting of the full council.
Gwynedd Council leader (Dyfed Edwards) constantly talks about "working together", but these are empty words, he has no idea how to gel a working relationship. Move over Dyfed and let Liz Saville have a go, she has a much better chance of doing it. (He might even report me for this).
Llais Gwynedd had a constitutional right for an extra seat on the Board, but of course plaid cymru doesnt want that.
By the way if an elected member calls another elected member an "ignorant git" publically and loudly, with even officers in the front hearing him, I believe he should apologise publically.
That is waht happened when an elected member for plaid Cymru called a Lib Dem member, but of course this is not the first time this has happened to this member. He regularly talks over other members and shouts things at people during debates. A complaint has gone in to the monitoring officer on this who couldnt help hearing him this time.
Usual excuse from members of his own party is "...he is old and doesnt understand"
Age does not come into it, everyone else has to follow the rules and so should him.
Llais Gwynedd has been too laid back, but the lion will now start to bite.
A complaint will also arrive with carl Seargant by monday and the Ombudsman for Wales that Gwynedd Council has acted "Ultra Vires" and has made a decision contrary to it's own constitution.
Just an extra note, it was nice to see Councillor Dyfrig Jones back with us in meetings, possibly for the past 8 months he has been too busy to attend many meetings.
yn sgil yr is-etholiadau sydd wedi bod dros y rhai misoedd diwetha, mae Plaid Cymru wedi ennill un sedd, LlG wedi ennill un a cholli un (= 0) a'r annibynns wedi colli un.
ReplyDeletepa "hawl i un sedd ychwanegol" ar y bwrdd sydd gan LlG felly, o ran diddordeb?
Mae cyfansoddiad y cyngor yn dweud bod seddi'r bwrdd i'w rhannu ar gyfartaledd gwleidyddol. Felly mae Cyngor Gwynedd wedi gweithredu yn "ultra vires" i'w gyfansoddiad ei hunan. Wrth gwrs Dyfed a Plaid Cymru sydd tu ol i hyn, gan eu bod yn poeni cymaint am Lais Gwynedd. Gyda llaw, dylid rhoi un sedd i Llais yn ychwanegol ac un yn llai i'r Anibynnol er mwyn cytuno gyda'r cyfansoddiad. Beth bynnag mae pethau yn nwylo'r gweinidog yng Nghaerdydd erbyn hyn.
ReplyDelete