Saturday 30 October 2010

TREULIAU CYNGHORWYR - COUNCILLOR'S EXPENSES

Neithiwr cefais gadarnhad gan Uwch Swyddog yn yr Uned Gyfrifon o'r hyn rwyf wedi ei amau ers dipyn. Pan welwch unwaith y flwyddyn rhestr o dreuliau cynghorwyr Gwynedd (gyda llaw gostiodd £1M flwyddyn diwethaf, gan gynnwys lwfansau a ballu hefyd) dim hwn yw'r wir ffigwr o gost Cynghorwyr Gwynedd.

Os dwi yn mynd i Gaerdydd i gyfarfod, ac archebu gwesty gan dalu fy hunan, mae'n dangos ar fy nhreuliau I. ond os dwi yn mynd i Gaerdydd i gyfarfod a gofyn i'r Cyngor archebu gwesty/Ticed Tren/Awyren a ballu ar fy rhan, nid ydyw yn dangos gyferbyn a fy nghostau i felly drethdalwyr Gwynedd mae angen i chi ofyn am y ffigwr gwir faint o gostau mae eich cynrychiolwyr yn ei hawlio. Wn i am un cynghorydd wariodd dros £50 am dacsi ble fuasai ei gar ei hun ddim hyd yn oed wedi costio chwarter hynny.

Mae angen newid y sustem fel fod wir gost cynghorwyr yn cael eu dangos yn lle eu bod yn cuddio tu ol i'r mantais hyn.


Last night I had something confirmed which I have had my doubts for a long time. When you see a list of what your councillor has claimed in expenses in the last year (which cost £1M in 2009/2010 including the allowance), this is not the true cost of your local councillor.

If I go to Cardiff for a meeting and stay in a hotel and pay myself re-claiming the cost from the Council at the end of the month, it will show as a cost for me in the annual statement. Now if I go to cardiff again for a meeting and ask the Council to book me a hotel/Train Ticket/Ieuan Air etc for me, then it will not show in the annual statement as a cost against me, so ratepayers in Gwynedd gom ahead and ask what is the true cost of your councillors. I know about 1 councillor whose taxi bill was over £52 whereby if he/she had taken the car then it would have been a quarter of that.

The recording system needs to change so that the public in Gwynedd knows the actual true cost of their councillors to avoid them using this loophole.

No comments:

Post a Comment