Monday 11 October 2010

ETHOLIAD BLAERNAU ELECTIONS


Ymddiheuriadau am beidio uwchraddio'r blog ers dipyn, cymysgedd o nifer o bethau, prysurdeb y ward yn galw arnaf allan yn aml ac fe ddaeth y gliniadur i ben ar ol 4 blynedd o wasanaeth da a ffyddlon felly roedd rhaid gwario am un arall.

Iawn lle da ni. Yn Blaenau bu Paul ennill i Blaid Cymru, Llongyfarchiadau iddo ef, dwi ddim yn ei adnabod, ond roedd yn wr mynwesol a chyfeillgar tra yn brwydro yn erbyn Richard yn ward Diffwys, ac yn barod yn unionsyth i ysgwyd llaw Rich ar ol colli.

Wrth gwrs roedd colli sedd yn siom, ond mewn tref fechan i gael 2 gynghorydd yn ymddiswyddo yn drawiad ac felly cosbi yn y bwth oedd y diweddglo.

Mae Paul wedi datgan ei fod yn cefnogi y frwydr i gadw ysgolion yn ein pentrefi a threfi, felly fydd yn mynd yn erbyn polisi Plaid Cymru yng Ngwynedd sydd yn benderfynnol o'u cau.

Diddorol fydd ei safiad pan fydd y frwydr yn mynd i'r Blaenau.



Apologies for not updating the blog for a long time, a mix of many things, very busy with ward matters and the laptop came to it's useful life, so I had to buy a new one.

Paul won the seat for Plaid in Blaenau and warm congratulations to him, I do not profess to know him but having met him, I can say that he is a gentleman and was honourable when defeated by Richard in the Diffwys ward.

Of course loosing the seat was a hard pill to swallow, but not entirely unexpected having had 2 councilors from a small town resign in a short period, obviously it was felt in the polling booth.

Paul has stated that he supports small schools in our rural areas, which goes agaainst Plaid Cymru's policies in Gwynedd who are determined to see them close.

It will be very interesting when the roadshow moves to Blaenau.

No comments:

Post a Comment