Er ei fod yn cynrychioli Plaid Cymru, bechod oedd dod adref i weld y newyddion efo Dewi. Dorrodd y stori ychydig cyn i mi fynd i ffwrdd ac rwyf newydd ddychwelyd i weld ei fod wedi mynd yn euog or cychwyn cyntaf.
Roeddwn yn gwneud yn iawn efo Dewi, er ei fod yn aelod o Blaid Cymru a thybiwn ei fod yn teimlo i'r byw erbyn nawr.
Ni allaf gyfiawnhau beth mae wedi ei wneud, fel na fedrwn gyfiawnhau beth ddigwyddodd efo Gwil ond, cefnogaeth sydd angen arnynt erbyn rwan.
Os ydi Dewi yn darllen y blog, gair o gysur ydi fydd y darn papur efo'i enw a'i lun arno heddiw yn papur chips erbyn fory.
mae'r tymor etholiadol hwn wedi bod yn fraw i bawb.
Y rhai rydym wedi ei golli ers etholiad 2008 fel a ganlyn.
Gwilym Euros (Blaenau)
Bob Anderson (Caernarfon)
J R Jones (Llandegai)
Richard Lloyd Jones (Blaenau)
Dafydd (Blaenau)
Dai Rees Jones (Bangor)
Dewi Lewis (Penrhyndeudraeth)
Tybiwn fydd yna o leiaf 3 arall yn mynd cyn yr etholiad nesaf.
No comments:
Post a Comment