Wednesday 6 July 2011

WARD BLAENAU FFESTINIOG

Yn anffodus oherwydd pwysau gwaith mae Richard wedi ymddiswyddo fel Cynghorydd Llais Gwynedd ym Mlaenau Ffestiniog. Roedd Richard wrth gwrs yn gyn swyddog yn y Cyngor nes iddo adael oherwydd honiadau o fwlio ac mewn amser daeth yn gynghorydd sir.

Tros y misoedd diwethaf, mae wedi gwynebu amser caled gyda'i faban newydd a'i wraig yn cael eu rhuthro i'r ysbyty oherwydd salwch eithaf difrifol, yn ogystal, gan ei fod yn gweithio yn Machynlleth, roedd mynychu cyfarfodydd yn creu anhawsterau iddo ac felly roedd yn rhaid rhoi y teulu gyntaf.

Felly pob lwc i Rich i'r dyfodol, gan obeithio fod y wraig a'r babi newydd yn gwella ac yn cryfhau pob diwrnod.

Wrth gwrs mae blogiwr sydd hefyd yn Bennaeth ar Ysgol Trefor sef Cai Larsen yn ymfalchio ar y ffaith fod yna Gynghorydd yn ymddiswyddo wrth roi ei deulu yn gyntaf. A'i dyma sut dylai Pennaeth ysgol fahafio ? Wel fuasai rhywyn ddim yn disgwyl dim gwahannol gan Cai Larsen, oni fuasai yn well iddo warchod ei ysgol a'r plant sydd ynddi yn lle rhyw smalio edrych ar ol ysgolion bychan gan fod ei Blaid Cymru am eu cau ?

Mae wrth gwrs yn edrych ar ymddeol mewn ychydig ac felly tybiwn mai hynny yw ei brif darged, cyn fuaswn yn meddwl mynd am sedd Ioan Thomas yn y Cyngor.



No comments:

Post a Comment