Thursday 1 April 2010

NEWYDDION TRIST - SAD NEWS

Newyddion trist ddoe fod y bonheddwr Geraint George wedi ein gadael. Yn 49 oed roedd Geraint yn ddyn hynod o barchus ac roedd ei ymroddiad i'w fyfyrwyr ac i addysg yn oruwch beth arferir ddisgwylir gan athro.

Nid yn unig fydd ei golled yn taro ei deulu yn galed, ond hefyd y gymuned leol ym Mrynrefail a Penisarwaen.

Mae gen i dal gopi o'r DVD wnaeth o a'r myfyrwyr ym Mangor ar ardal y Foryd sy'n hynod o ddiddorol ac rwyf dal yn cofio'r cyflwyniad ble gymerodd sedd yn y cefn a gadael i'r myfyrwyr gyflwyno'r DVD a rhedeg pobol drwyddi.

Y cwestiwn sy'n cael ei ofyn yw pam fod y gorau mewn cymdeithas yn ein gadael ymhell cyn eu h'amser ?



Sad news yesterday that Geraint George has died. At 49 years of age, Geraint was a gentleman in the true sense of the word, and his commitment to his students went beyond what one would expect from a teacher.

Not only his loss will be truly felt by his family, but also to the communities of Brynrefail and Penisarwaen.

I still have a copy of the DVD he and the students made on The Foryd area which is highly interesting and I still remember the presentation and the launch where he took a back seat and allowed the students to present it.

The question that is always asked is Why our best people in society always leave us before their time ?

No comments:

Post a Comment