Thursday 11 March 2010

ETHOLIAD LLUNDAIN - THE ELECTION



Rwan cyn etholiad am Gyngor Gwynedd yn 2008 mi wnes ddarogan y buasai sedd Bontnewydd (Dafydd Iwan) a sedd Abererch (Richard Parry Hughes) yn disgyn i ddwylo Llais Gwynedd, ac wrth gwrs fel mae hanes yn dangos i ni roeddwn yn iawn.

Rwan sedd Arfon yn San Steffan, tydw i ddim yn meddwl y bydd Plaid Cymru yn ei dal hi yn yr etholiad nesaf, ac mae o i gyd i wneud efo rheolaeth Plaid Cymru o Gyngor Gwynedd, neu dweud y gwir diffyg rheolaeth Plaid Cymru ar unrhywbeth yng Ngwynedd.

Dwi yn cael fy atgoffa o ddameg y Mab afradlon, lle mae un mab yn cael popeth ar blat ac yn ei wastraffu a dyma ni yn ol i Blaid Cymru.

Dwi yn cyfaddef roedd Plaid Cymru yn yr 1980'au a cynt yn Blaid y bobol go iawn, Plaid dosbarth gweithiol oedd yn gwarchod buddiannau y werin a dyna paham bleidleisiais iddynt bryd hynny.

Erbyn heddiw mae hi yn blaid asgell dde, Plaid elitaidd, Plaid crachaidd a bellach wedi anghofio yr union bobol gefnogodd hi yn y dechrau.

Mi fydd yr etholiad nesaf gyda ffiniau newydd yn rhoi y glec fwyaf i Blaid Cymru yn fwy na roddodd Llais Gwynedd iddynt yn 2008, sy'n dangos tydi nhw ddim wedi dysgu dim o'r wers a'r chwip din gafwyd yn etholiad y Cyngor Sir 2008. Eu gelynion mwyaf ydi nhw eu hunain.

Mae'r ffordd mae Plaid Cymru yn bahafio yn Cyngor Tref Caernarfon (gwneud yn saff na nhw sy'n cael y swyddi pwysig bob tro) yn union r'un peth ar ffordd mae nhw yn bahafio ar Gyngor Gwynedd (gwneud yn saff na nhw sy'n cael eu penodi i bob Bwrdd, Pwyllgor, Mudiadau ac yn y blaen) yn dangos eu bod yn Blaid ffiaidd, anghynnes sydd ddim yn barod i gydweithio efo neb.

Mi fydd y misoedd nesaf yn cynhyrfu'r dyfroedd ac yn dangos i bobol Gwynedd beth sydd wedi dod o ddyddiau Dafydd Wigley (oedd gyda llaw yn un oedd yn gallu ennill cefnogaeth o bob lefel o'r boblogaeth) i'r Blaid sydd yn bodoli nawr.

2 comments:

  1. Pa rai o bolisiau Plaid Cymru sy'n asgell dde?

    ReplyDelete
  2. Diolch Cai am y sylw. Mae dweud a gwneud mor wahannol. Gall Plaid Cymru ddweud eu bod yn cefnogi yr hawl i bawb gael addysg - ac wedyn cau ysgolion. Gall Plaid Cymru ddweud eu bod yn cefnogi yr hawl i bawb gael mynediad i iechyd am ddim ac yn unionsyth - ac wedyn gyda Llafur yng Nghaerdydd mae'r safonau wedi disgyn a'r gwasanaeth iechyd dan bwysau ariannol mawr. Gall Plaid Cymru ddweud eu bod yn cefnogi sosialaeth - pan mae eu h'arweinwyr, a'i cynrychiolwyr yn bobol dosbarth canol. Felly mae dweud a gwneud cymaint yn wahannol ac mae ffeithiau yn ymddangos er fod Plaid Cymru yn meddwl eu bod yn blaid asgell chwith, y gwir amdani yw na plaid asgell dde ydyw sy'n edrych ar ol pobol a crachiach asgell dde a'u buddiannau hwythau.

    ReplyDelete