Thursday 25 March 2010

ETHOLIAD - ELECTION


Mae'n debyg fydd y Senedd yn Llundain yn cael ei ddiddymu ddechrau Ebrill er mwyn cael etholiad dechrau Mai. Da ni wedyn yn symyd i'r "Tymor Gwirion" (Silly Season).

Fe fydd LLAFUR yn gaddo'r byd i'r etholwyr ac yn dweud "..pa mor dda maen't wedi bod am y degawd diwethaf".

Fe fydd y CEIDWADWYR yn beirniadu LLAFUR ac yn dweud wrthym gallasent wneud dipyn gwell os fyddent yn cael eu h'ethol.

Fe fydd y LIB DEMS yn dweud mai nhw sy'n rhoi'r opsiwn gorau i etholwyr, maen't yn y canol ac yn cynrychioli ystod eang o'r boblogaeth ond fod y sustem etholiadol yn eu cosbi bob tro.

Ac fe fydd y pleidiau bychan eraill (PLAID CYMRU, BNP ac eraill) yn dweud mai nhw fydd y gorau i'r bobol oherwydd y pleidiau mawr yn anwybyddu y boblogaeth.

Dweud y gwir, mae gan bob un rhinweddau da a rhinweddau dim mor dda. Ac mae nhw i gyd yn gaddo'r byd ond cyflawni dipyn llai. Fy argymhelliad I yw, ewch gyda'r unigolyn a dim y parti.




It is likely that Parliament will be dissolved early April in order for an election in early May. We then mover to the "Silly Season".

LABOUR will promise you the earth, and saying "..how well they have performed over the past 10 years."

The CONSERVATIVES will criticise LABOUR and will tell us that they can do better if elected.

The LIB DEMS will tell us that they offer the best option to electors as they are in the middle and represent the majority of normal people but the electoral system always let's them down.

And the other minority parties (PLAID CYMRU and BNP etc) will tell us that they offer the best option to electors as the major parties always disregard the electorate.

To tell you the truth, all have some good in them and also some bad policies as well, and all will promise you the earth, but will complete a lot less.

My tip is to go with the individual rather than the party.

No comments:

Post a Comment