Monday 3 August 2009

STEDDFWD




Fore Gwener roeddwn yn tynny carafan fy rhieni i'r Steddfwd, cyn mynd i weithio ar osod ein pabell i fyny ar y Maes. Mwd, was bach, anobeithiol. Beth bynnag, roeddwn ar y stondin Ddydd Sadwrn, ac roedd ymateb gaethom gan cyhoedd yr Eisteddfwd yn wych ac yn anhygoel. O'r De i'r Gogledd roeddynt i gyd wedi clywed amdanom, yn prynu nwyddau "full speed" ac erbyn diwedd y diwrnod roedd tros 500 wedi arwyddo deiseb yn erbyn Cyngor Gwynedd i gau Ysgolion.

Cymaint yn dweud wrthym eu bod wedi gadael y Blaid oherwydd anfodlonrwydd ar y ffordd mae'n cael ei redeg, ond dwi ddim am son am faterion sydd tu allan i reolaeth.

Beth bynnag, at ganol p'nawn mi sychodd y cae yn wych. Daeth llwyddiant i Fand Deiniolen (da di'r hogia), ac roedd fy nhraed wedi llwyr flino.

Mi gefais gyfle i fynd o amgylch, cefais sgwrs efo Martin Eaglestone (do mi es i babell Llafur - Dim problam, hogia neis Tecwyn, Martin a'r bachgen arall), cefais sgwrs efo'r Ceidwadwyr a'r Rhyddfrydwyr, neb yn groesawgar yn babell y Blaid felly i be af i wastio'n amser.

Ac adref amdani. Stondin y Cyngor yn weithgar, a'r staff yn gweithio yn galed chwarae teg. Lle mae'r Uwch Swyddogion mawreddog ma sydd ganddom yn Gwynedd ? Gan obeithio byddent yn gwneud eu "stint" ar y stondin cyn diwedd yr wythnos. Ar wahan i Dilys a Gwenan wrth gwrs oedd yn gwneud y cysylltiadau ar y stondin ddydd sadwrn.




Friday morning i was towing my parent's caravan to the Eisteddfod, before then helping to set up the Llais Gwynedd stand on the field.

I was working on the stand on Saturday, and the reaction from the general public from the North to the South was totally superb.

All had heard of us, and were buying mugs and t-shirts full speed. By the end of the first day we had over 500 signatures for the petition against Cyngor Gwynedd to close our schools.

Many told us that they had not renewed their membership of Plaid Cymru, because of the way it had become, but I'm not gonna discuss matters beyond my control.

Anyway, by the afternoon, the field was dry. Deiniolen Silver Band had a first (well done the lads), and my feet were tired.

I had some opportunity to go around the field, I spoke with Martin Eaglestone, Tecwyn and another lad on the Labour Stand (no problem with them, they are nice enough), chatted with the Tories and the Lib Dems. There didn't appear to be a welcome on the Plaid stand, so why waste my time.

Home James for it then passing Cyngor Gwynedd stand again, and the staff working hard as usual fair play to them. But where were the Senior Officers ? Hoping that they do some time on the stand sometime during the week. Apart from of course Dilys and Gwenan, who were there on the first Saturday.

No comments:

Post a Comment