Thursday 27 August 2009

TOM TOM


Tydi nhw yn declyn gwych. Mae hwn sydd gennyf tua 3 oed sef Tom Tom GO910. Tydw i ddim wedi uwchraddio'r map ond tra yn dreifio ar fy ngwyliau yn mynd am Devon efo carafan tua 23 troedfedd tu ol i mi, mi ddywedodd y teclyn "troiwch i'r dde" - Ia yn y Gymraeg, Wyn yw'r llais acen de Cymru, ond ma rhywbeth yn well na Daffy Duck, John Cleese a Homer Simpson, ac wrth gwrs mi wnes hynny. Mi gyrhaeddais ffens a cae a dim ffordd ymlaen. Rwan am hwyl, sut oedd troi carafan 23 troedfedd oedd ynghlwm a Kia Sedona tua 10 troedfedd, mewn llecyn bychan a dyma ble ddaeth teclyn brynais cyn mynd i ffwrdd yn handi sef camera CCTV di wefr oedd yn gefn y carafan a'r sgrin yn y car.

Mi ddois tros y broblem hwn ac wedi cyrraedd adref mynd ar safle TOM TOM er mwyn uwchraddio'r map. £35 - Dim ffiars mi wnai ddisgwyl tan fydd ffordd osgoi Dinas Llanwnda wedi'w chwblhau cyn talu £35 i uwchraddio'r map.

Nawr y wers yn hyn yn syml. Os ydi rhywyn yn dweud rhywbeth nad ydym yn gyffyrddus gyda peidiwch da chi a dilyn y cyfarwyddiadau.

Efallai dylid ambell i Gynghorydd yn Gwynedd ddilyn hyn.



An excellent innovative machine. The one I have is the TOM TOM GO910 which is about 3 years old. I haven't updated the map and whilst driving towards Devon with a 23 foot caravan behind a 10 foot Kia Sedona, the machine said "troiwch i'r dde" - Yes in Welsh, Wyn is the voice, a South Wales accent but at least it's better than Daffy Duck, John Cleese and Homer Simpson, and of course I followed the command.

At the end of the road I reached a dead end, now for the fun part of turning a 23 foot caravan and the car in a small space, and this is where a wireless CCTV system I bough before going and fitted in the van came in handy.

I overcame that problem and after arriving home and going on the TOM TOM website to update the map, had the shock that it would cost £35 for the privilige. Now not being made of money, i have decided to give this a miss until the Dinas Llanwnda by-pass has been completed before paying the £35 for the update.

The lesson from this is of course if someone tells us to do something in which we are not overally happy with, then don't do it.

Perhaps this could serve as a lesson to other councillors in Gwynedd.

No comments:

Post a Comment