Friday 27 May 2011

EISTEDDFOD YR URDD

Gan fawr obeithio fydd y tywydd yn dal i'r 'Steddfod yn Abertawe. Pob hwyl i'r cystadleuwyr oll o bob pegwn o Gymru, ac o bob Ysgol megis rhai mawr a rhai bach. Cofier wrth gwrs i ysgol y Parc (sef ysgol mae plaid Cymru wedi pendefynny ei gau) wedi bod yn fuddugol yn erbyn cewri canu sef Ysgol Glanaethwy mewn Steddfod a fu.

Faint mwy o Ysgolion mae Plaid Cymru yng Ngwynedd eisiau cau gan amddifadu ein plant o'r cyfle i fod yn rhan o gôr, timau peldroed, timau rownders a dawnsio gwerin ?

Mi gefais I y cyfle pan ym mhlentyn i gymeryd rhan.

O dan arweinyddiaeth Plaid Cymru yng Ngwynedd, ni fydd y cyfle yna fwyach i blant ein plant.

2 comments:

  1. Doeddwn i ddim yn sylweddoli y bydd plant ddim yn cael mynd i'r ysgol ar ol cau eu hysgol presennol. Roeddwn i wedi tybio y byddent yn mynd i ysgolion arall yn lle ac felly'n cael y cyfle i fod yn rhan o gor, timau peldroed etc. yn eu hysgolion newydd.

    ReplyDelete
  2. Da rwan ! mae tim peldroed efo 5 aelod yn chwarae ac efallai tua 3-4 fel "sub". Ysgol efo 100 o blant ac mae yna uchafswm o 9 yn cael chwarae. Ysgol efo 30 o blant a 9 yn chwarae.

    Yn golygu fod y cyfle yna i blant ysgolion llai i gymeryd rhan mewn pob agwedd o weithgareddau boed iddynt fod yn beldroedwyr gwych neu beidio. Oed yna maen bwysig na mwynhau y gem sydd angen arnynt.

    Cor ysgol, Dawnsio Gwerin, ayyb.

    ......simple

    ReplyDelete