Friday, 26 March 2010

YMGYRCH Y CEIDWADWYR - CONSERVATIVE CAMPAIGN


Mi gefais wahoddiad i lansiad ymgyrch y Ceidwadwyr Cymreig (Dim yr un Plaid Cymru ond y Ceidwadwyr eraill !) ym Mangor. Fel roedd hi yn digwydd bod, roeddwn gyda apwyntiad yn ardal Conwy heddiw felly roedd gen i amser bore ma i fynd yno.

Heb wybod be i ddisgwyl, ac dim yn 'nabod ardal maesgeirchen yn dda, roedd y lansiad mewn adeilad o'r enw Glan Cegin.

Ar gael roedd paned. a bechdan bacwn, (yn wahannol i rhyw buffet sych, crisps a ballu).

Dwi yn adnabod Robin ers tua 25 blynedd (ffrind i ffrind ayyb), enw'r ymgyrch yw Adeiladu Arfon (Ond gobeithio fod ganddo lot o frics a cement gan fod yna waith adeiladu yma efo'r diweithdra, diffyg tai i bobol lleol, dim dyfodol i'r ifanc a tlodi).

Mi ddoi yn ol efo sylwadau am yr ymgyrch ar ol darllen y tafleni, yn y cyfamser os ydi llafur a Plaid Cymru eisiau rhoi gwahoddiad i mi i'w lansiad nhw, croeso i chi gysylltu efo fi. Dim pwynt ymestyn i'r Lib Dems, dwi yn cofio mynd i gyfarfod o'r pleidiau yn Y Galeri adeg etholiad y Cynulliad, roedd Llafur yno, Plaid a'r Ceidwadwyr ond dim golwg o'r Lib dems bryd hynny felly pam fydd pethau yn wahannol tro hwn ?




I was invited to the launch of the Welsh Conservatives Election Launch in Arfon (no, no not the Plaid Cymru one). It was at Glan Cegin, Maesgeirchen in Bangor and as it happens i had an appointment in Conwy today so called in on my way there.

I had no idea what to expect and also not knowing the area very well i found the place without any trouble.

Available was a cup of tea/coffee and a bacon butty !! (Nice change from dry sandwiches and crisps).

I know Robin from over 25 years ago (a friend of a friend etc). The name of the campaign is "Building Arfon" (only hoping he has a lot of bricks and cement as there is a lot of building to be done with unemployment, lack of affordable houses, no future for the young, and general depravation amongst many in Gwynedd).

I will come back with comments on the campaign literature once i have had a chance to read them.

In the meantime if Plaid Cymru or Labour wish to invite me to their launch, then by all emans do so, if free i will turn up and listen.

No point mentioning the Lib Dems, I remember a debate in the Galeri once and they were the only party that didnt even have the courtesy to turn up so why will anything be different this time around.

Thursday, 25 March 2010

ETHOLIAD - ELECTION


Mae'n debyg fydd y Senedd yn Llundain yn cael ei ddiddymu ddechrau Ebrill er mwyn cael etholiad dechrau Mai. Da ni wedyn yn symyd i'r "Tymor Gwirion" (Silly Season).

Fe fydd LLAFUR yn gaddo'r byd i'r etholwyr ac yn dweud "..pa mor dda maen't wedi bod am y degawd diwethaf".

Fe fydd y CEIDWADWYR yn beirniadu LLAFUR ac yn dweud wrthym gallasent wneud dipyn gwell os fyddent yn cael eu h'ethol.

Fe fydd y LIB DEMS yn dweud mai nhw sy'n rhoi'r opsiwn gorau i etholwyr, maen't yn y canol ac yn cynrychioli ystod eang o'r boblogaeth ond fod y sustem etholiadol yn eu cosbi bob tro.

Ac fe fydd y pleidiau bychan eraill (PLAID CYMRU, BNP ac eraill) yn dweud mai nhw fydd y gorau i'r bobol oherwydd y pleidiau mawr yn anwybyddu y boblogaeth.

Dweud y gwir, mae gan bob un rhinweddau da a rhinweddau dim mor dda. Ac mae nhw i gyd yn gaddo'r byd ond cyflawni dipyn llai. Fy argymhelliad I yw, ewch gyda'r unigolyn a dim y parti.




It is likely that Parliament will be dissolved early April in order for an election in early May. We then mover to the "Silly Season".

LABOUR will promise you the earth, and saying "..how well they have performed over the past 10 years."

The CONSERVATIVES will criticise LABOUR and will tell us that they can do better if elected.

The LIB DEMS will tell us that they offer the best option to electors as they are in the middle and represent the majority of normal people but the electoral system always let's them down.

And the other minority parties (PLAID CYMRU and BNP etc) will tell us that they offer the best option to electors as the major parties always disregard the electorate.

To tell you the truth, all have some good in them and also some bad policies as well, and all will promise you the earth, but will complete a lot less.

My tip is to go with the individual rather than the party.

LLE MAE'R HAF - WHERE IS OUR SUMMER


Does dim byd ond glaw, glaw a mwy o law dyddiau hyn. Efallai un diwrnod gwelwn haul.

There is nothing but rain, rain and more rain these days. Perhaps one day we might see the sun.

Monday, 22 March 2010

YMGYRCH PLAID CYMRU YN MYND OFF Y TRAC - PLAID CYMRU'S CAMPAIGN IS GOING OFF TRACK

Mae blog "DRUID OF ANGLESEY" yn rhoi Cai Larsen o Blog menai yn ei le.

Mae'n ymddengys bod ymgyrch Plaid yn Mon yn dechrau gwanhau, ac mae eu ymgyrch yn Aberconwy wedi hen fynd ers iddi ddod yn wybodus fod gwr sy'n cael ei dalu gan y Cynulliad yn treulio ei amser yn gweithio i'r ymgeisydd yn Aberconwy ar ei ymgyrch.

Yn waeth, yn lle cefnogi busnesau lleol, mae Plaid Cymru wedi rhoi hysbysebion ar gefn bysus Arriva, ac wedi hybu economi Birmingham drwy wneud hynny gan iddynt argraffu y posteri yn Birmingham.

Tydi nhw yn dda.



The "DRUID OF ANGLESEY'S" blog has put Cai Larsen of Blog Menai in it's place.

The campaign in Anglesey has started to weaken, and the campaign in Aberconwy has long gone since it became public that someone who get's paid from the Assembly funds is working for the prosepctive Plaid Candidate in Aberconwy.

Worse still instead of supporting local business in Wales, Plaid Cymru are supporting the economy of Birmingham by advertising on the back of Arriva buses with an advert printed and made in Birmingham.

You couldn't even make it up, could you.

DEFAID DYFED YN TROI Y SGRIW - DYFED'S SHEEP TURN THE SCREW


Sibrydion yn cyrraedd fod "Defaid Dyfed" ar Gyngor Gwynedd yn dechrau diflasu ar ei arweinyddiaeth o'r Cyngor. Eisioes mae aelodau o Lais Gwynedd, Rhyddfrydwyr a'r Anibynnol wedi colli pob ffydd ynddo i arwain y Cyngor am ei ddiffygion i fod yn deg a phawb ac hefyd am ei amharodrwydd i gydweithio (yn wir ystyr y gair).

Fydd hi ddim yn hir nes fydd aelodau o Blaid Cymru yn gweld drwy'r arweinyddiaeth ac ymadael i ymuno a grwpiau eraill.

Amser a ddengys.




Rumours are reaching me that "Dyfed's Sheep" on Gwynedd Council are starting to become fed up with his leadership of the Council. Members of Llais Gwynedd, lib Dems and the Independants have lost all faith in him to lead the Council for his inability to be fair to everyone and his failure to gel the whole council and encourage cooperation (in the true sense of the word).

It won't be long before some members of Plaid Cymru will leave and join other parties.

Time will tell.

Thursday, 11 March 2010

ETHOLIAD LLUNDAIN - THE ELECTION



Rwan cyn etholiad am Gyngor Gwynedd yn 2008 mi wnes ddarogan y buasai sedd Bontnewydd (Dafydd Iwan) a sedd Abererch (Richard Parry Hughes) yn disgyn i ddwylo Llais Gwynedd, ac wrth gwrs fel mae hanes yn dangos i ni roeddwn yn iawn.

Rwan sedd Arfon yn San Steffan, tydw i ddim yn meddwl y bydd Plaid Cymru yn ei dal hi yn yr etholiad nesaf, ac mae o i gyd i wneud efo rheolaeth Plaid Cymru o Gyngor Gwynedd, neu dweud y gwir diffyg rheolaeth Plaid Cymru ar unrhywbeth yng Ngwynedd.

Dwi yn cael fy atgoffa o ddameg y Mab afradlon, lle mae un mab yn cael popeth ar blat ac yn ei wastraffu a dyma ni yn ol i Blaid Cymru.

Dwi yn cyfaddef roedd Plaid Cymru yn yr 1980'au a cynt yn Blaid y bobol go iawn, Plaid dosbarth gweithiol oedd yn gwarchod buddiannau y werin a dyna paham bleidleisiais iddynt bryd hynny.

Erbyn heddiw mae hi yn blaid asgell dde, Plaid elitaidd, Plaid crachaidd a bellach wedi anghofio yr union bobol gefnogodd hi yn y dechrau.

Mi fydd yr etholiad nesaf gyda ffiniau newydd yn rhoi y glec fwyaf i Blaid Cymru yn fwy na roddodd Llais Gwynedd iddynt yn 2008, sy'n dangos tydi nhw ddim wedi dysgu dim o'r wers a'r chwip din gafwyd yn etholiad y Cyngor Sir 2008. Eu gelynion mwyaf ydi nhw eu hunain.

Mae'r ffordd mae Plaid Cymru yn bahafio yn Cyngor Tref Caernarfon (gwneud yn saff na nhw sy'n cael y swyddi pwysig bob tro) yn union r'un peth ar ffordd mae nhw yn bahafio ar Gyngor Gwynedd (gwneud yn saff na nhw sy'n cael eu penodi i bob Bwrdd, Pwyllgor, Mudiadau ac yn y blaen) yn dangos eu bod yn Blaid ffiaidd, anghynnes sydd ddim yn barod i gydweithio efo neb.

Mi fydd y misoedd nesaf yn cynhyrfu'r dyfroedd ac yn dangos i bobol Gwynedd beth sydd wedi dod o ddyddiau Dafydd Wigley (oedd gyda llaw yn un oedd yn gallu ennill cefnogaeth o bob lefel o'r boblogaeth) i'r Blaid sydd yn bodoli nawr.