Saturday 26 December 2009

CYNGHORYDD Y FLWYDDYN - COUNCILLOR OF THE YEAR

Mae hwn yn seliedig i Wynedd. Dwi am roi 5 enw o pwy dwi yn feddwl ydi'r cynghorwyr mwyaf dymunol/hapus/pleserus i gyd weithio gyda/digrif o bob grwp oddi fewn i Wynedd am 2009.

PLAID CYMRU:
Rhaid i mi ddwud mae yna 35 ohoynyt i bigo. Rhai tydw I ddim yn cael y pleser o gyd weithio efo nhw ar bwyllgorau. Mae hon yn agos rhwng OP (oherwydd ei sylw at fanylder ffeithiau mewn dogfennau) Len (mae ganddo wit heb ei ail) a Huw Edwards (mae o yn gallu cymeryd tynny coes ac hefyd ei roi o mor dda) neu'r Cynghorydd Tudor Owen (oherwydd mae pawb o bob plaid yn gallu cyd fynd efo Tudor oherwydd ei fod yn ddyn teg a chyfiawn a phawb).

Yr enillydd am 2009 yw...... Cynghorydd Huw Edwards. Nid yn unig am yr uchod ond hefyd fel dwi wedi ei roi o'r blaen ar y blog hwn. Mae ganddo weddi i bob achlysur yn ei boced. Ac mae'n gallu ei ddweud o o'i gof heb ddarn o bapur. Os ydi swyddogion angen rhywyn i roi gweddi ar frys, gallasent ddibynnu ar Huw. Felly mae Huw Edwards yn cael yr wobr am eleni i Blaid Cymru.

LLAFUR:
Mae hwn rhwng 2 sef Brian Jones (Cwm y Glo, am ei addfwyndeb bob tro) a Keith (oherwydd ei acen swynol Bangor Ai). Eleni Brian sy'n cael y bleidlais, fel cadeirydd Pwyllgor Cynllunio mae gant y cant yn deg a phawb. Does ganddo ddim ffafriaeth i neb, mae pawb yn cael chwarae teg ganddo ac mae ganddo amser i bawb hefyd, felly Cyng. Brian Jones yw enillydd Llafur y flwyddyn.

RHYDDFRYDWYR:
Does ond un ennillydd am 2009 sef Mrs Jean Forsyth o Bangor. Dwi ar bwyllgor efo hi ac mae hi yn wych. Yn darllen y papurau yn drwyadl ac yn hollol fantastic am ofyn cwestiynnau.

ANIBYNNOL:
Dwi yn styc. Mae Eryl Jones Williams yn dda am ofyn cwestiynnau, Eric Jones,(Groeslon) neu Cynghorydd Trefor Edwards (Llanber).

Yn anffodus ni allaf ddewis gan fod y tri am 2009 wedi bod yn wych.


LLAIS GWYNEDD:
Does ond un dewis sef Gwilym Euros. Oherwydd yn syml tydi o fel fi ddim yn cymeryd unrhyw falu caxxx gan griw y Blaid ac yn barod i ymosod, cwestiynnu a mynd o dan groen rhai er mwyn dangos ambell Wleidydd y Blaid am beth ydynt mewn gwirionedd.

Hefyd am ei ymdrech i godi arian drwy golli pwysau i Ty Gobaith.

No comments:

Post a Comment