Saturday 4 December 2010

PROTEST S4C CAERNARFON S4C PROTEST

Roedd y brotest heddiw yng Nghaernarfon yn erbyn toriadau. Toriadau y Ceidwadwyr i S4C, a thoriadau Plaid Cymru yma yng Ngwynedd.

Llongyfarchiadau i Anwen Davies o Lais Gwynedd oedd yno yn siarad.

I bobol Cymru gymeryd S4C o ddifrif, mae'n rhaid i Fwrdd yr Awdurdod sortio eu hunain allan, mae'r mater os oedd y cadeirydd wedi ymddiswyddo neu beidio yn wirion bost ac ddim wedi gwneud unrhyw les i ddelwedd y sianel.

Bai pwy yw'r toriadau. Llafur am fynd a ni i'r twll, Ceidwadwyr am dorri y pethau anghywir, Rhyddfrydwyr am ymuno a'r Llywodraeth, ta Plaid Cymru am ymuno a Llafur yng Nghaerdydd. Wn i ddim. Ond un peth yn bendant, tydi hi ddim yn bai fi.


Today there was a protest today in Caernarfon against the cuts. The Tories in cutting funding for S4C and the cuts that Plaid Cymru are doing here in Gwynedd.

Congratulations to Anwen Davies from Llais Gwynedd who spoke at the demonstration.

For the people of Wales to take S4C seriously, the Board must sort themselves out. The matter of the Chairman resigning or not was farsicle and did nothing to the reputation of S4C.

Whose fault are all these cuts ?

Labour for years of mismanagement ?
Conservatives for cutting funds in the wrong place ?
Lib dems for joining the Conservatives or Plaid Cymru for joining Labour in Cardiff.

I have no idea. But I know it's not my fault.

2 comments:

  1. Tin son am y brotest yng ngaernarfon fel fod yn fuddigoliaeth i Llais Gwynedd yn erbyn ei nemesis Plaid Cymru. I brotestio yn erbyn torriadau gan y glymblaid i ein gwasanaethau yng nghymru ac brydain gyffredin oedd ein rhesymau ( Fi ac fy ffrindiau ac bawb arall siaradwyd hefo yn y gwynt a glaw)am fynychu. Nid soniodd neb am brotestio yn erbyn Plaid Cymru!!

    ReplyDelete
  2. Protest yn erbyn toriadau oedd yng Nghaernarfon. Toriadau San Steffan i S4C, Toriadau Caerdydd i Ogledd Cymru a thoriadau Cyngor Gwynedd i'r rhai sydd wir angen y gwasanaeth. Mae nhw i gyd yn mynd law yn llaw. I anwybyddu toriadau Plaid Cymru yng Ngwynedd yn ffwlbri yng Ngwyneb popeth arall syn digwydd yn y Byd.

    ReplyDelete