Friday 3 December 2010

GWASTRAFF GAN Y CYNULLIAD / WELSH ASSEMBY WASTE OF RESOURCES

Fel da chi yn gwybod, dwi ddim yn gefnogwr o ieuan air ond mae'r penderfynniad i roi £1.2 miliwn y flwyddyn ir gwasanaeth yn wirion bost. Yn enwedig pan gefais wybodaeth am beth ddigwyddodd ychydig yn ol.

Gweinidog yn y cynulliad yn gyrru ei gerbyd (sydd gyda llaw yn cael ei dalu ganddom ni) i fyny i'r Gogledd gyda'i swyddog PR a'i ddreifar. Mae yntau wedyn yn hedfan gyda Ieuan Air i'r Fali ble mae ei gerbyd yno yn ei ddisgwyl. Yna ymweld a 2 gwmni yn y gogledd cyn i'r cerbyd fynd ag ef yn ol i'r Fali er mwyn iddo hedfan yn ol i Gaerdydd. Ac wedyn wrth gwrs, mae'r cerbyd yn cael ei ddreifio yn ol i Gaerdydd yn barod at ei drip bach nesaf yn y de.

Gwastraff ta be.

Y cwestiwn ydi pwy oedd y gweinidog. Wel Mr Gweinidog, dwi yn gwybod pwy wyt ti, dwi hefyd yn gwybod i pa gwmnniau oeddet yn ymweld a nhw a faint o funudau/eiliadau wnaethost aros gyda'r cwmniau hynny.




As you may well know, I am not a fan of Ieuan air, and the decision to give them £1.2 million of public funds is totally nuts, especially when i heard about this story.

A minister in the Welsh Assembly Government sent his public funded vehicle with his PR and his personal driver up from Cardiff to Valley whilst he flew up the same day. The car was waiting for him on his arrival in Valley which then took him to see 2 companies here in the North West.

After the short/brief/very brief visit the car took him back to Valley for his flight back to Cardiff whilst the car then with driver and PR drove down the A470.

What a waste.

The question is Who is the Minister ?

Well Mr minister, i know who you are, I also know which companies you visited, and I also know how many seconds you stayed with those companies.

Are our Assembly Ministers too proud to travel the A470 like the rest of us, my message is if you don't like the A470 in it's present way, then do something about it and spend this £1.2 million annually on it.

No comments:

Post a Comment