Tuesday, 14 December 2010
£8 Miliwn ac 8 Swydd - £8 million and 8 Jobs
Dyna be ydi gwerth am arian. Mae pob swydd sy'n cael eu greu yn costio £1miliwn yr un. Mae na son y bydd swyddi ychwanegol yn cael eu creu i gydfynd a'r buddsoddiad hyn - ga i ddweud wrthych chi rwan, ffigyrau cwmwl y gwcw ydi hyn, dangoswch i mi swyddi go iawn plis.
Beth fuasai yr £8 miliwn hwn wedi'w wneud i gryfhau yr ochr fasnachol busnes yma yng Ngwynedd, mi fuasai wedi creu dipyn mwy na 8 swydd.
Mi fuasai mwy o hwb i economni Pen Llyn yn digwydd petai gwell rheolaeth ar unigolion o ffwrdd sy'n dod yn eu carafanau teithiol, a parcio ar y marina (yn rhad ac am ddim) sydd ddim yn cyfrannu yr un centan goch i'r economi leol (gan yn eu carafannau moethus mae eu holl fwyd, diod a phopeth i wneud eu wythnos o hwylio yn gyffyrddus).
Felly Clwb Hwylio Pwllheli - llongyfarchiadau i ddechrau ar yr £8 miliwn, ond yn y dyfodol peidiwch a chaniatau i'r bobol yma barcio ar eich tir yn y Marina, gyrrwch nhw i faes carafannau cyfagos.
Is that worth the money ? Each job created costs £1 million each. There is talk of additional jobs being created due to this £8 million - may i say that is cloud cuckoo figures, show me real jobs please.
What would £8 million do to strengthen the Business Sector in Gwynedd ? a lot more than 8 jobs.
There would be more of a boost to the Socio Economic situation in llyn if there was better control on the parking of motorhomes and caravans parking on land adjacent to the Sailing Club on the Marina (who incidentally park there overnight free of charge, carrying their food and drinks and everything that they need).
So Pwllheli Sailing Club - Congratulations for the £8 million, and in the future, anyone who wants to park on the land next to your club, send them to a local caravan site please.
Subscribe to:
Post Comments (Atom)
No comments:
Post a Comment