Sunday 8 August 2010

Y PAB YN DOD I'R YNYS - THE POPE IS COMING TO UK

Faint mae hyn yn gostio i ni fel trethdalwyr. Yr un peth a'r teulu brenhinol, mae'r gymdeithas yn talu amdanynt. Dyli'r Eglwys Gatholeg dalu y costau cyfan am yr ymweliad hyn, maen't yn Eglwys llewyrchus yn ariannol, ac mae ganddynt ddigon o arian i dalu i ambell i Weinidog sydd wedi cambahafio.

The Pope is coming to the UK, and this is going to cost all the taxpayers a lot of money for his security. Same thing with the royal family, we are paying for these people. The Catholic Church is extremely well off financially, and they appear to have loads of money to pay off some Priests who have been naughty.

4 comments:

  1. O gofio'n ôl i'r ymweliad diwethaf gan Bab i'r ynysoedd hyn, mae'n debyg y bydd o'n dod a'i warchodwyr arfog ei hun ar y daith.

    Mae holl warchodwyr y Pab yn offeiriaid ordeiniedig - un o'r pethau mwyaf od imi ei weld yn fy nydd oedd gweld gweinidogion yr Efengyl yn sefyll ar gefn y pab-mobile yng Nghaerdydd, gyda siâp reiffl amlwg o dan eu casogau.

    ReplyDelete
  2. Ynys? Ynysoedd. Os wyt am sôn am y DU yn lle Prydain Fawr, sy'n cynnwys Gogledd Iwerddon, dwi'n meddwl bod hi'n gywir dweud mai ynysoedd yw'r DU, heb hyd yn oed cyfrif holl rai'r Alban a Chymru.

    ReplyDelete
  3. Alwyn: Fuaswn i ddim yn meddwl fod Heddlu neu MI5 ac MI6 yn gadael i warchodwyr o wlad ddiarth gael eu swyddogion arfog eu hunain ond pwy a wyr. Costus fydd hyn i gyd ac i be, pan mae'r eglwys eu hunain yn gyfaethog yn ariannol ac ddylai dalu eu ffordd.

    ReplyDelete