Friday 26 February 2010

DECHREUWCH POB SGWRS YN Y GYMRAEG / START EVERY CONVERSATION IN WELSH


Da chi yn cofio y slogan "catchy" hwn gan Fwrdd yr iaith, a'r bathodyn oedd pobol yn ei wisgo. Wel wrth ganfasio ychydig wythnosau yn ol ym Mangor, yn amlwg roedd yna Brifathro eithaf adnabyddus am ei flogio yn gyndyn o wneud hynny (efallai yn meddwl fod cant y cant o bobol Bangor yn Saesneg ac dim eisiau gwthio Plaid Cymru fel Plaid i'r Cymry Cymraeg yn unig), ac yn cychwyn ei sgwrs ar stepan drws yn Saesneg gyntaf.

Enwau ar gerdyn post plis.


Do you remember the catchy slogan by the Welsh Language Board and the badges that people wore. Well, whilst canvassing recently in Bangor, it was obvious that a Headteacher who is infamous for his blogging, was reluctant to do that (perhaps he thought that 100% of the people of Bangor were English speakers and they didnt want to be seen as pushing Plaid Cymru as a party for the welsh speakers only), and he started his conversation in English.

Names on a postcard please. (calls may be charged)

4 comments:

  1. Post di angen o dan din Aeron! Callia.

    ReplyDelete
  2. Alwyn: Beth sy'n dan din ? Mater o ffaith.

    ReplyDelete
  3. Wnaeth 'na gynghorydd Llais Gwynedd ofyn i mi "Can I help you?" yn ei siop mewn ardal Gymraeg.
    Mae'n digwydd.

    ReplyDelete
  4. Anon: Dwi ddim yn dweud nad ydyw yn digwydd. Gyda llaw does gan ddim un Cynghorydd llais Gwyendd siop (hyd y gwyddwn), mewn ardal Gymraeg neu Saesneg.

    ReplyDelete