Friday, 17 September 2010

ETHOLIAD BLAENAU FFESTINIOG BY-ELECTION

Mae'r etholiad hon fuan mis Hydref. Dau yn unig sydd yn y ras sef Donna a'r un ddaeth yn ail.

Mae Donna yn sefyll tros Llais Gwynedd ac yn boblogaidd yn y dref. Mae hi yn argoeli yn dda, ac mi fuasai pethau yn mynd yn well os fydd Ieuan Wyn, Elis Thomas, Llwyd a mawrion y blaid yn troi fyny i gefnogi eu h'ymgeisydd. Gan i bobol Blaenau eu gweld nhw, roi boost i ymdrechion Richard tro diwethaf ac felly ddynion, plis plis wnewch chi ddangos eich gwynebau yn Blaenau i helpu Llais Gwynedd.

Roedd yna son fod ymgeisydd y Blaid wedi bod yn awyddus i sefyll yn enw Llais Gwynedd ar ol iddo golli yn y ward arall pitw 2 fis yn ol. Wn i ddim os oedd hynny yn wir ta be.

Mae'n fachgen hynod o neis, parchus ac yn gollwr da, bu iddo ysgwyd llaw yn foneddigaidd efo Richard ar ol colli yr etholiad ddiwethaf. Dwi yn cael y teimlad ei fod yn cael ei wthio i sefyll, ond dyna fo, mae ei ganeuon yn wych gyda llaw, ond teimlwn mai dal gafael ar y sedd hon fydd Llais Gwynedd.




There are 2 people standing in the election. Donna and the one that came second. Donna is very popular in the Town and things are looking well. Things would go much better if Ieuan Wyn, Elis Thomas and Elfyn Llwyd would turn up to support their candidate, as the last time they came to Blaenau, it gave Llais Gwynedd a boost, so please please turn up in Blaenau to help Llais Gwynedd.

There was talk that the Plaid candidate wanted to stand for Llais Gwynedd after loosing the last election. I have no idea if this was true or not.

He is a nice lad, very courteous and a good looser having immediately shook the hand of Richard after loosing the last election. I get the feeling that he has been pushed to stand, but never mind, he is part of a fantastic band, but my gut feeling is that Llais will hold on to this seat.