Friday 29 July 2011

DEWI LEWIS

Er ei fod yn cynrychioli Plaid Cymru, bechod oedd dod adref i weld y newyddion efo Dewi. Dorrodd y stori ychydig cyn i mi fynd i ffwrdd ac rwyf newydd ddychwelyd i weld ei fod wedi mynd yn euog or cychwyn cyntaf.

Roeddwn yn gwneud yn iawn efo Dewi, er ei fod yn aelod o Blaid Cymru a thybiwn ei fod yn teimlo i'r byw erbyn nawr.

Ni allaf gyfiawnhau beth mae wedi ei wneud, fel na fedrwn gyfiawnhau beth ddigwyddodd efo Gwil ond, cefnogaeth sydd angen arnynt erbyn rwan.

Os ydi Dewi yn darllen y blog, gair o gysur ydi fydd y darn papur efo'i enw a'i lun arno heddiw yn papur chips erbyn fory.

mae'r tymor etholiadol hwn wedi bod yn fraw i bawb.
Y rhai rydym wedi ei golli ers etholiad 2008 fel a ganlyn.

Gwilym Euros (Blaenau)
Bob Anderson (Caernarfon)
J R Jones (Llandegai)
Richard Lloyd Jones (Blaenau)
Dafydd (Blaenau)
Dai Rees Jones (Bangor)
Dewi Lewis (Penrhyndeudraeth)

Tybiwn fydd yna o leiaf 3 arall yn mynd cyn yr etholiad nesaf.

Friday 15 July 2011

CYFARFOD ARALL - ANOTHER MEETING

Mae Llais Gwynedd ac aelodau o'r pleidiau eraill am i Gyngor Gwynedd wneud i ffwrdd a chodi am bob cadair a bwrdd gan fusnesau yn y Sir. Mae angen hybu twristiaeth a gwneud yn fawr or tywydd braf achlysurol rydym yn ei gael. Gwrthododd y Cadeirydd y cyfle i drafod y mater fel un brys yn y cyfarfod ddoe, felly rydym wedi rhoi rhybydd am gyfarfod brys yn Awst i drafod y mater. Ac os oes rhaid mi wnawn alw cyfarfod arall hefyd ddechrau Medi i drafod unrhyw fater arall hefyd os oes rhaid.


Llais Gwynedd and a number of members from the other parties as well want Gwynedd Council to do away with charging businessess for tables and chairs outside their premises. This promotes tourism from Abersoch to Caernarfon. The Chairman refused the opportunity to discuss the matter yesterday as an urgent item, so llais Gwynedd have tabled a motion under Rule 4 to hold a meeting during August to discuss the matter. If need be we will do this more often if another matter needs airing.

Wednesday 6 July 2011

WARD BLAENAU FFESTINIOG

Yn anffodus oherwydd pwysau gwaith mae Richard wedi ymddiswyddo fel Cynghorydd Llais Gwynedd ym Mlaenau Ffestiniog. Roedd Richard wrth gwrs yn gyn swyddog yn y Cyngor nes iddo adael oherwydd honiadau o fwlio ac mewn amser daeth yn gynghorydd sir.

Tros y misoedd diwethaf, mae wedi gwynebu amser caled gyda'i faban newydd a'i wraig yn cael eu rhuthro i'r ysbyty oherwydd salwch eithaf difrifol, yn ogystal, gan ei fod yn gweithio yn Machynlleth, roedd mynychu cyfarfodydd yn creu anhawsterau iddo ac felly roedd yn rhaid rhoi y teulu gyntaf.

Felly pob lwc i Rich i'r dyfodol, gan obeithio fod y wraig a'r babi newydd yn gwella ac yn cryfhau pob diwrnod.

Wrth gwrs mae blogiwr sydd hefyd yn Bennaeth ar Ysgol Trefor sef Cai Larsen yn ymfalchio ar y ffaith fod yna Gynghorydd yn ymddiswyddo wrth roi ei deulu yn gyntaf. A'i dyma sut dylai Pennaeth ysgol fahafio ? Wel fuasai rhywyn ddim yn disgwyl dim gwahannol gan Cai Larsen, oni fuasai yn well iddo warchod ei ysgol a'r plant sydd ynddi yn lle rhyw smalio edrych ar ol ysgolion bychan gan fod ei Blaid Cymru am eu cau ?

Mae wrth gwrs yn edrych ar ymddeol mewn ychydig ac felly tybiwn mai hynny yw ei brif darged, cyn fuaswn yn meddwl mynd am sedd Ioan Thomas yn y Cyngor.