Wednesday 23 February 2011

LLONGYFARCHIADAU LOUISE CONGRATULATIONS

Fe fydd Louise Hughes yn sefyll i Lais Gwynedd yn Dwyfor Meirionnydd. Mae Louise yn hynod o weithgar yn ei ward, ac ddim ofn dweud ei dweud. Rhai yn meddwl nad ydi yn gallu siarad Cymraeg, ond Cymraeg dwi yn siarad efo hi ar bob achlysur. Dysgu'r iaith mae Louise ac wrth gwrs cefnogaeth sydd ei angen ar unigolyn sy'n gwneud hynny. Dyna pam mai siarad Cymraeg efo Louise ydi'r ffordd gorau o ddysgu.

Gan feddwl nad oes arian mawr tu ol i ymgyrch Llais Gwynedd, fe wnaeth yn dda y tro diwethaf yn etholiad Llundain, tydi Elis Thomas ddim hyd yn oed yn boblogaidd ymysg ei gefnogwyr ei hunan, ac efallai ei fod yn amser i'w roi allan.
Louise Hughes will be standing as the Llais Gwynedd candidate in Dwyfor Meirionnydd. Louise is extremely hard working in her ward and not afraid to speak her mind. Some believe that she cannot speak Welsh, no idea where that's come from, her husband is Welsh speaking, and so is her daughter, and Louise is a Welsh learner, in fact I always speak Welsh with her so that her Welsh improves.

Llais Gwynedd has not the benefit of large funders (eg. as Watkin Jones has done in the past for Plaid Cymru), and Louise did better than expected at the last election. Elis Thomas is not even popular within his own party, and perhaps now is the time to kick him out.

Thursday 17 February 2011

YMGYRCH I GAEL EISTEDDFOD YR URDD YN GLYNLLIFON - CAMPAIGN TO GET EISTEDDFOD YR URDD IN GLYNLLIFON

Lle gewch chi well ? mae safle yr Eisteddfod am 2012 rhwng Glynllifon a'r Faenol ym Mangor. mae Glynllifon yn leoliad penigamp, mynediad iddo o bob cyfeiriad (Gogs a'r Hwntws), ac nid oes yna draffic gwaith a ballu fel sydd yn mynd am y Faenol. Felly chwi sydd yn gwneud penderfyniadau, ewch amdani, Glynllifon bia hi tro hwn.

Where can you get a better location than Glynllifon ? It's between Glynllifon and Y Faenol. Glynllifon is an excellent location with easy access to the Northies and the Southies. You don't have work traffic as you do with the Faenol site. So those in power do it for Glynllifon.

Tuesday 15 February 2011

PAM RHOI X YN IE - WHY VOTE YES FOR MORE POWER

Anghofiwch unrhyw ddadl y bydd yn creu mwy o wleidyddion, ychwanegu at gostau ayyb, mae pleidleisio IE yn golygu na fydd rhaid mynd i Lundain i gael y sel fendith i ddeddfwriaeth.

Felly yn syml, mae'n gwneud synnwyr. Fi fuasai'r cyntaf i roi NA petai unrhyw lefel ychwanegol o fiwrocratiaeth yn cael ei greu fuasai yn costio arian.

Fe fydd y nifer yn dod allan yn isel iawn yn anffodus, dylai'r bleidlais hon wedi bod yr una deg a'run am y cynulliad.


Forget any argument regarding the creating of more politicans and an increase in the level of bureaucracy, and also an increase in public spending, all it is about voting YES is that there would be no need to go to London for the royal (small r) Assent.

So simple, it makes sense. If it meant creating another level of politicans or if it costs more, i would be the first to say NO.

The level of voters that will come out will be very low i'm afraid. This vote should have taken place at the same time as the Welsh Assembly vote.

Tuesday 1 February 2011

Tor Cyfraith - Crime

Gwefan newydd wedi'w lansio am hanner nos neithiwr gan yr heddlu.

Os ydych eisiau gweld faint o dor cyfraith sydd yn eich h'ardal chi ewch i http://www.police.uk/ , rhowch eich côd post i fewn, clo ar y drws ar ffenest, cadw'r gath yn ty, a byddwch yn barod gyda'r ffôn.

Dwi newydd ei wneud o rwan ac roedd yna 4 trosedd wedi'w gofnodi am fy nghod post I.

Tyda ni yn lwcus yn byw yng Nghefn Gwlad Cymru i gymharu ac efallai canol manceinion/Llundain/Birmingham.


New website launched last night at midnight by the Police.

If you want to see the level of crime in your area, click on the link above, enter your postcode, lock the doors and windows,keep the cat and dog inside and be ready to dial 999.

I've been on for my area and there were 4 offences registered.

We should be lucky living in rural Wales, as compared to Manchester/Birmingham and London.