Friday 16 July 2010

LLAIS GWYNEDD YN ENNILL ETO - LLAIS GWYNEDD WINS AGAIN

Roedd hon yn sedd bwysig i Lais Gwynedd ac i Blaid Cymru. I ennill hon i Lais Gwynedd yn dangos fod y boblogaeth yn hapus efo'r gwaith r'ydym yn ei wneud, i Blaid Cymru roedd hon yn sedd haws iddynt ond mi roedd LLais Gwynedd wedi ennill ar ol ail gyfrif.

Roedd Paul (ymgeisydd y Blaid) yn wr bonheddig wrth golli, yn bur wahannol i ambell aelod o'r Blaid oedd yno, ceisio dweud fod yna dactegau budr wedi mynd yn ei flaen - Yn lle ? Pa Bryd ? Yr hyn welais I oedd fod y ddau ohonynt Richard a Paul yn foneddigaidd iawn at eu gilydd, ac hefyd at y boblogaeth yn y Blaenau.

Mi dreulais amser yno yn canfasio efo Richard, ac hefyd yn marcio yn y nos. Sgyrsiau difyr a diddorol efo Bryn a Gwynfor o Blaid Cymru, (sori Gwynfor am feddwl mai Cardi oeddet).

Rwan mae Meirionnydd/Dwyfor yn sedd fydd LLAIS GWYNEDD yn ei dargedu am y Cynulliad, ac hefyd yn eithaf ffydddiog o'i h'ennill.

Felly TA TA fydd hi i'r wannabe Tory Dafydd Elis Thomas.






This was an important seat for both LLAIS GWYNEDD and Plaid Cymru. For LLAIS to win this one showed that we are doing things right in Gwynedd, Plaid should have won (Elfyn Llwyd was even canvassing for them) but LLAIS GWYNEDD won after a recount.

Paul (the Plaid candidte) was a gentleman in defeat, totally contrasting to a member of Plaid Cymru who was there which tried to allege that there was dirty tactics going on, Where ? When ? All I saw was both candidates courteous to each other and to the people of Blaenau.

I assisted in canvassing prior to the election and on the night marking. Had superb conversations with Bryn and Gwynfor from Plaid (sorry Gwynfor for thinking you were a cardi).

Now the Meirionnydd/Dwyfor seat in the Assembly is there for the taking for LLAIS GWYNEDD, and we are very hopeful of winning it against the current incumbent.

So BYE BYE it will be for the wannabe Tory, Dafydd Elis Thomas.

Thursday 1 July 2010

TRIST - VERY SAD

Tristwch oedd clywed am farwolaeth y Cynghorydd Bob Anderson. Roedd Bob yn eistedd efo fi a Chris yng nghyfarfodydd cynllunio y Cyngor rhan fwyaf o'r amser, ac roedd yn ddyn gyda ymroddiad di-flino, gweithgar i dref Caernarfon ymhob ystyr. Os oedd yna unrhywbeth yn digwydd ar y Maes, roedd Bob yn saff o fod yn gysylltiedig a'r digwyddiad, yr olwyn fawr, sioe, Nadolig, Parc y dref roedd o yn hapus i helpu a sefyll yn y cefndir.

Fe fydd colled ar ei ol nid yn unig i'w deulu ond hefyd i'r Cyngor Sir ond fe fydd Caernarfon a'i phobol yn ei golli fwyaf, gan roedd ei galon yna i wella'r dref i bawb.

Heb Bob a oes gobaith i'r dref ? - wn i ddim, gobeithio !


It is very sad to hear about the sudden death of Councillor Bob Anderson. Bob used to sit with myself and Chris Hughes mainly at the Planning Meetings, ac his never tiring commitment to the Town of Caernarfon is to be admired. Any event in the Town, you could be sure that Bob was somewhere in the background organising it or part of the group involved, be it the Big Wheel, Show's, Xmas, The Park, Bob was always there.

There will be a massive loss after him, not only to his family, but also the Council. The biggest loss will be to caernarfon and it's residents, his heart was there, his intention to improve the Town for everybody will be missed.

Without Bob, Is there hope for Caernarfon ? - I don't know, hopefully !