Friday 14 May 2010

ADDYSG GAN BLOG MENAI - EDUCATION BY BLOG MENAI

Mae Cai larsen (sy'n brifathro Ysgol Trefor) sydd hefyd yn mynd dan yr enw BLOG MENAI yn tynny sylw fod nifer helaeth o lywodraeth Llundain wedi cael addysg breifat. WAW. Syrpreis. Rhywbeth yn fy meddwl yn dweud fod hyd yn oed llywydd Plaid Cymru wedi derbyn addysg fonesig breifat hefyd. ond mae'n ddyn parchus a chydwybodol felly ni wnaeth addysg breifat wahaniaethu hynny. Felly rhowch gyfle i'r Blaid Geidwadol reoli, nmi wnaeth Llafur lanast anhygoel yn Llundain ac mae Llafur/Plaid wedi gwneud llanast yng Nghymru. Cawn weld beth fydd dyfodol y blaid Geidwadol mewn amser.



Cai larsen (who is a headmaster of Ysgol Trefor) and also goes under the name of BLOG MENAI points out that many of the Cabinet in London have had private education. WOW. Surprise. Something also reminds me that the President of Plaid Cymru was also a beneficiary of private education, but he is a respectable and honourable individual and a private education did not change that. So give the Conservatives a chance to govern, Labour in London have made an incredible mess of things, and Labour/Plaid have also messed up in Cardiff. Time will judge what the future holds for the Conservatives.

Thursday 13 May 2010

Y BWLI MAWR YN CAEL EI SORTIO - THE BIG BULLY GETTING SORTED


Tydw i ddim yn cytuno efo penodiad Cheryl Gillam fel ysgrifennydd Cymru ac mewn dadl ar Taro'r Post heddiw (Dydd Iau) roedd yna drafodaeth ar y mater.

Yn yr ochr wyrdd oedd y bwli mawr ei hun ELFYN (Biliau Bwyd yn Llundain o £400 bob mis) LLWYD, ac ar yr ochr las roedd JULIANNA HUGHES.

Mi sortiodd hi Elfyn Llwyd, mi fedrodd ei fwyta, ei gnoi ac yna ei daflu allan heb ddim o broblem.



I do not agree with the appointment of Cheryl Gillam as the Welsh Secretary but in a debate today on Taro'r Post (Thursday) there was a discussion on the matter.

In the green corner was the big bully himself ELFYN (I spend £400 of taxpayers money every month on food) LLWYD, and in the blue corner was JULIANNA HUGHES.

She sorted him out, she chewed him then spat him out without any problems whatsoever.

Wednesday 12 May 2010

PLAID WEDI METHU - PLAID LOOSE OUT

Gan fod y penderfynniad i'r Toriaid a'r Lib Dems ymuno i wneud Llywodraeth, mae criw y Blaid yn neidio i fyny a lawr. Roeddynt yn ddigon parod i ymuno efo'r Ceidwadwyr eu hunain (yn ol Ieuan Wyn Jones), ac hefyd ymuno efo Llafur hefyd. Fel yng Nghaerdydd roeddynt yn barod i ymuno efo rhywyn jyst er mwyn bod mewn pwer.

Felly mae pwer yn bwysicach iddynt na cynrychioli eu pobol !

Mae'n siwr nawr fydd arweinwyr y Blaid yn beirniadu y Ceidwadwyr (gan nad ydynt wedi cael gwahoddiad i ymuno). Mae toriadau yn anorfod, oherwydd diffygion Llafur i reoli yn ariannol yn Llundain. Wn i ddim os fydd y Tories fymryn gwell, ond y ffaith amdani ydi mae yna doriadau ariannol mae'n rhaid ei wneud.

Mae cymaint haws rheoli efo dau parti na ceisio gwneud efo 8. Cawn weld beth sydd am ddigwydd.




As the decision of the Conservatives and Lib Dems is to rule, Plaid Cymru are jumping up and down and shouting from the rooftops. They were quite prepared to join the Conservatives themselves (according to Ieuan Wyn) and also quite prepared to join Labour in their coalition as well, just as long as they were in power.

So being in power is more important to them than representing their people.

So expect the leaders and supporters of Plaid now to criticise the Conservatives and Lib Dems (as they haven't been invited to join). It is inevitable that cuts will have to be made due to the mismanagement of Labour in London. I don't know if the Tories will be any better, but the fact is that because of the situation we are in, cuts have to be made.

It is easier to rule with 2 parties that trying to do so with 8. We shall now have to wait and see what happens.

Tuesday 11 May 2010

PWY SYDD AM REOLI - WHO IS GOING TO GOVERN

Yn bendant os fydd Llafur yn ymuno efo'r Lib Dems a gweddill o'r pleidiau eraill, cawn weld etholiad arall yn yr Hydref. Mi fydd hi yn amhosib i cyn gymaint o grwpiau gytuno ar bethau fel erbyn yr Hydref fydd yna straen aruthrol a rhwyg yn eu plith.

Os ydi Senedd lloegr yn gaddo rhannu arian yn deg efo Cymru, golygir fydd yr Alban yn colli allan felly ni fydd hynny yn cael cefnogaeth yr SNP.

Felly hwyl a sbri ac etholiad arall.



If Labopur joins the Lib Dems and all the other parties, we will be facing another election in October. It will be impossible for so many groups to agree on matters and by October there will a strain between them and a split will occur.

If London agrees to share the cash fairly with Wales then Scotland will loose out and therefore they loose the support of the SNP.

So fun and games and another election.

Sunday 9 May 2010

ETHOLIAD - ELECTION

Fel rhywyn sydd ddim yn aelod o unrhyw blaid oedd yn ceisio am sedd yn yr etholiad hwn, dwi yn gallu dadansoddi paham daeth y canlyniad a fu.

ARFON

Roeddwn wedi dweud ers dipyn fod Llafur a Plaid yn agos er fod Llafur yn Llundain ddim yn boblogaidd. Pam hynny ? Wel, mae Plaid Cymru yn colli cefnogwyr yn sydyn, gyda aelodaeth i lawr, busnes rheolaeth Cyngor Gwynedd gan Blaid Cymru, a polisi Plaid yng Ngwynedd o fethu rheoli y Cyngor.

Colli cefnogaeth Caernarfon a Bangor yn allweddol iddynt, ond tybed beth fuasai'r canlynniad wedi bod petai Llais Gwynedd wedi sefyll hefyd. Fe safodd Louise Hughes sy'n aelod o Lais Gwynedd yn Dwyfor/Meirionnydd yn anibynnol ac mi gafodd tros 1,300 o bleidleisiau. Roeddwn wedi rhagdybio 1,500 - 1,700 ac wedi dweud hyn wrthi ar y ffon ac mae hi wedi gwneud yn dda iawn (gan fod rhai yn amau mai ond 300 fuasai yn ei gael). Tybed os fuasai Llais Gwynedd wedi ennill 1,000 oddiwrth gefnogwyr y Blaid, ac efallai 600 oddiwrth y gweddill yma yn Arfon, fuasai wedi gwneud Arfon yn sedd i Lafur.

Fe fydd etholiad y Cynulliad yn 2011 yn ddiddorol gan bryd hynny fe fydd yna ymgeisydd Llais Gwynedd yn sefyll, ac os fydd Plaid Cymru yn dal i golli cefnogaeth, wel pwy a wyr.

Y Ceidwadwyr, er fod yr ymgeisydd yn fachgen gweithgar, ac yn hogyn o Fangor, fe ychwanegodd at bleidleisiadau yr etholaeth yn fwy nag sydd wedi ei wneud gan unrhyw ymgeisydd ers dipyn. Gan fy mod yn adnabod Robin, rwyn ymwybodol ei fod wedi gweithio yn galed, roedd ei lun ar gefn bysus lleol tra fod poster Plaid Cymru yn cefnogi Cwmni Bysus o tu allan i Gymru (ac wedi'w argraffu yn Birmingham).

Lib Dems, nes i ddim hyd yn oed dod ar ei thraws yn unlle. Wn i ddim os oedd hi yn canfasio ynteu ond lluchio ei h'enw i fewn, argraffu taflenni a dyna ni.

O leiaf roedd cefnogwyr Plaid, Llafur a'r Ceidwadwyr i'w gweld o gwmpas, ond er mwyn bod yn deg a'r Lib Dems, nid yw'r tim ar y llawr ganddynt chwaith felly heb hynny mae hi yn annodd.

Dydd Sadwrn cyn yr etholiad, roedd Tim Ceidwadol yn mynd o gwmpas busnesau Caernarfon yn y bore tra fod Tim Llafur yn Twtil a Tim plaid ym Mangor.

Doedd y rhaglen teledu efo'r tri amigos yn ddim i wneud efo Plaid Cymru yn methu gwella yma yng Nghymru. Doedd gan Plaid Cymru ddim mwy o hawl i fod yn rhan o'r darllediad hynny na'r UKIP, GREENS, DUP, SINN FEIN, ALLIANCE a'r BNP. 165,000 bleidleisiodd i Blaid Cymru, pleidleisiodd 285,000 i'r Green's. Yn Saesneg - Get over it.

Mi roddwyd sylw i Blaid Cymru gan y wasg Gymraeg yn fwy na gafodd unrhyw barti bychan arall felly roedd methiant Plaid Cymru yn dod i alwr i unai diffyg gwaith yn yr etholiad (ac dwi ddim yn meddwl mai hynny oedd o) neu fod pobol Cymru wedi colli ffydd arnynt i warchod eu buddiannau neu wrth gwrs amswer am arweinydd newydd ac ysbrydoliaeth.

Un sioc i mi oedd mai pedwerydd oeddynt yn Aberconwy. Roeddwn wedi meddwl mai ail fuasai'r canlyniad, ac mae dod yn bedwaredd yn rhoi y sedd hon yn sedd efallai i'r Ceidwadwyr neu Llafur adeg y Cynulliad.

I Lafur ychwanegu at eu pleidlais yn Mon, a'r Ceidwadwyr gynyddu a Peter Rogers ddisgyn yn gwneud Ynys Mon yn hynod o ddiddorol erbyn 2011. Tybiwn gall hon fynd i Lafur bryd hynny gan fydd y Tories a Lib Dems yn rhedeg Llundain ac felly fydd Llafur yn ennill poblogrwydd fel yr wrth blaid.

Guto yn Aberconwy, wel mi welais o ychydig yn ol yn Morrissons, ac mi ddywedais wrtho ei fod am ennill, mi fydd Guto yn gweithio i'r etholaeth, yn Gymro Cymraeg a Chymreig, ac mae ganddo oddeuty 18 mis i wneud gwahaniaeth gan fe fydd yna etholiad arall bryd hynny.

Cost etholiadau - wel mi fydd hyn oll wedi costio yn ddrud i'r pleidiau mawr ac i gael etholiad arall oddi fewn i ychydig fisoedd wedyn yn golygu fydd rhaid i gefnogwyr cyfaethof Plaid Cymru fynd i'w pocedi ei hunan i dalu amdano - ac hen bryd hefyd.

Friday 7 May 2010

ETHOLAETH ARFON - ARFON CONSTITUENCY

Yn is i lawr ar y blog hwn roeddwn wedi dweud fod Arfon mor agos a 1,500 o bleidleisiau. Roeddwn allan o 45 o bobol gyda'r mwyafrif i Blaid Cymru cyn lleied a 1,455.

Gan feddwl fod Llafur o dan y lach yn genedlaethol, os fuasai pobol Arfon yn hapus efo Plaid yn Arfon, dylai Plaid fod wedi ennill o filoedd a dim 1,455 o bleidleisiau.

Ceidwadwyr i fyny i drydydd ac rwyf wedi synny fod y Lib Dems wedi disgyn i 4ydd. Mae pwysau ar Blaid Cymru nawr mor uchel ag erioed i ddod a gwaith, tai a gwella bywyd pobol Arfon neu fyth etholiad y Cynulliad yn 2011 gyda Llais Gwynedd hefyd yn ymladd yn bwysig.




Lower down in this blog, I stated that Arfon will be as close as 1,500 votes between 1st and 2nd. I was out by a mere 45 people with Plaid Cymru having a majority of only 1,455.

With Labour a disaster nationally, you would have thought that if the people of Arfonw ere happy with Plaid, that they will have won by a mile and not by 1,455 votes.

The Conservatives were up to 3rd and Lib Dems 4th.

There will be pressure now on Plaid Cymru more than ever to deliver to the people of Arfon jobs, houses and to better the living conditions of the County, as with the Assembly elections next year and with Llais Gwynedd also standing, will be very very important.

Thursday 6 May 2010

YR AMSER WEDI DOD - THE TIME HAS COME


Wel amser yr etholiad wedi cyrraedd. Amser i ddewis. I'r rhai ohonoch sy'n dweud "..dwi ddim am fotio oherwydd does dim pwynt"., oes ma yna bwynt. Cofiwch y frwydr ein cyn dadau i ni gael pleidleisio, cofiwch y frwydr i ni gael rhoi ein pleidlais yn gyfrinachol, cofiwch y frwydr i ferched gael y bleidlais, a cofiwch fod pob un yn cyfrif. Felly da chi ewch allan, cofrestrwch ac hyd yn oed os nad ydych yn hoffi unrhyw un o'r ymgeiswyr, rhowch o i fewn yn wag neu ysgrifennwch rhywbeth arno ond da chi ewch allan.

Tydw i ddim yn meddwl llawer o bolisiau rhan fwyaf o'r partion sy'n sefyll, oes ma na elfennau da ymhob un ac efallai ychydig o Lafur, ychydig o Geidwadwyr a'r Lib Dems ac hyd yn oed ychydig o Blaid Cymru mewn cawl efo'i gilydd i gael polisiau gwell petai hynny yn bosib.

I unrhyw un sy'n sefyll mae ganddynt ddewder tu hwnt, oherwydd nid ar chwarae bach mae rhywyn yn sefyll.

Hefyd heddiw cofiwch am y rhai sydd yn gweithio yn y mannau pleidleisio, o 7 y bore tan 11 16 awr o eistedd gweld pobol yna distawrwydd tan y nesaf.




The time has come to cast your vote. Time for decisions. To those who say "..i'm not gonna vote, there is no point", - yes there is a point. Remember the struggle of our fathers and grandfathers (and mothers) to be allowed to vote, to be allowed to vote confidentally, and remember the struggle for women to be allowed to vote, and remember each vote counts. So for goodness sake, get out there and vote. Even if you cannot agree for whom to vote, put it in blank or write something on it, but do go out.

I like parts of each of the parties policies, a bit of Labour, Conservatives and Lib Dems and even Plaid Cymru in a soup would be far better if it was possible.

To anyone who put their name forward they are brave, and one does not make this decision lightly.

Also today, think of those who work from 7 in the morning until 11 at night in the booths, they see people then a gap until the next one.

Monday 3 May 2010

ADEG GWERTHU TY - TIME TO SELL AND MOVE AWAY

Sibrydion yn cyrraedd fod unigolyn eithaf uchel yn Plaid Cymru wedi cael digon ar bobol Gwynedd ac yn meddwl rhoi ei dy ar werth a symyd i Aberystwyth i fyw. Rwan efo'r plant wedi tyfu a mynd eu ffordd eu hunain, dim sedd yn y Cyngor pa ddyfodol sydd yma iddo ?

Fel dwi yn dweud, sibrydion yn unig yw hyn, ond cawn weld ar ol yr etholiad.



Whispers are reaching me that an important member of Plaid Cymru has had enough of the people of Gwynedd and is considering selling up and moving to Aberystwyth to live. Now with the children having grown up and gone their own way, no seat on the Council, what future is there here for him ?

As I stated, these are whispers at the moment, but we shall see after the election.

CANLYNIAD ARFON - ARFON RESULT

Rwan ychydig o ddyddiau i fynd tan yr amser i bleidleisio ac rwy'n darogan bod Arfon am fod yn agos iawn.

Er fod Llafur yn genedlaethol yn colli gafael, mae'r sefyllfa yn Arfon yn wahannol i weld.

Fe fydd nifer yn pleidleisio i Blaid Cymru wedi disgyn yn sylweddol, fe fydd Llafur i fyny a'r sioc fwyaf tybiwn fydd i'r Lib Dems a'r Ceidwadwyr ychwnaegu yn sylweddol eu pleidlais.

Dwi yn amau fydd Arfon mor agos a tua 1,500 rhwng y cyntaf a'r ail. Er fod Bethesda yn eithaf cryf i Blaid Cymru, drwy golli cefnogaeth Caernarfon a Bangor yn gwneud gwahaniaeth i lefel o bleidleisiau i Blaid Cymru.

Mae Sir Fon yn mynd yn fwy diddorol, mae Llafur yn disgyn ychydig yno ac mae Plaid Cymru i weld yn ychwanegu yno, ond yn bwysicach fydd faint fydd y pleidiau eraill yn ei gymeryd oddiwrth Llafur a Plaid.



Now a few days before Thursday's election, I forsee that Arfon will be very close.

Although Labour nationally are loosing support, the situation in Arfon appears to be different.

The number voting for Plaid will fall substantially, Labour should be up but more surprisingly the Lib Dems and Conservatives will increase quite a lot.

I suspect that there will be less than 1,500 between the first and second, even though Bethesda should be strong for Plaid Cymru, they have lost support in Caernarfon and Bangor and that will make a difference to Plaid.

Sir Fon will be exciting as Labour appears to fall a bit there and a slight increase in Plaid's vote but it all depends how much the other party's take away from the front two.