Thursday 29 April 2010

PLAID CYMRU YN Y CYNULLIAD - PLAID CYMRU IN THE ASSEMBLY


Rwan am ddadansoddiad o beth mae'r criw yma yn ei wneud yng Nghaerdydd dwi wedi gofyn nifer o gwestiynnau dan Ddeddfwriaeth Rhyddid Gwybodaeth a dyma ni rhai o'r atebion.

FAINT O ARIAN Y TRETHDALWR MAE'R CYNULLIAD WEDI EI WARIO AR HEDFAN AELODAU ETHOLEDIG RHWNG CAERDYDD A'R FALI ?

216 o weithiau rhwng Mai 2007 a a Mawrth 2009 ar gost i NI o £10,511.09

Iawn cwestiwn arall dwi wedi ei ofyn oedd am gerbyd ffansi Dafydd Elis Thomas yng Nghaerdydd.

Mae hwn wedi costio £39,995 i'w brynu, ac mae'r gyrrwr yn cael ei gyflogi yn y band rhwng £17,000 a £20,000. Yn 2008/2009 roedd costau rhedeg y cerbyd yn £16,210.36.

Felly gymerwn dibrisiant o 25% ar y cerbyd mae cost blynyddol rhoi car moethus i Elis Thomas yn £46,000 y flwyddyn.

Yn debyg ei fod yn teimlo yn rhy bwysig i ddreifio ei hun neu efallai fod yna reswm arall paham nad yw eisiau gyrru cerbyd.






Now about the elected representatives of Plaid Cymru in the Assembly, I have asked a number of questions under the Freedom of Information Act.

HOW MUCH HAS THE RATEPAYERS PAID TO FLY ELECTED MEMBERS BETWEEN CARDIFF AND VALLEY ?

216 flights between May 2007 and March 2009, at a cost to us of £10,511.09.
ARIO AR HEDFAN AELODAU ETHOLEDIG RHWNG CAERDYDD A'R FALI ?

Another question was regarding the luxury limo being used by Dafydd Elis Thomas in Cardiff.

This has cost us £39,995 to buy, and the driver is employed on a scale between £17k and £20k pa. In 2008/09 the cost of running the vehicle was £16,210.36.

So taking depreciation of 25%, this luxury car is costing US £46,000 per annum to ferry Elis Thomas around like a Lord (pardon the pun).

Apparently he is too important to drive himself or could there be another reason why he doesnt drive a car ?

Tuesday 27 April 2010

ETHOLIAD ARFON - ARFON ELECTION


O daflen Plaid Cymru yma yn Arfon maen't yn dweud eu bod o blaid popeth dan haul - ar wahan wrth gwrs i achub ein h'ysgoloion. Dim son o gwbwl am ysgolion yng Ngwynedd, felly cawn gymeryd yn ffaith fod Plaid Cymru yn Arfon o blaid cau nifer o ysgolion gwledig yng Ngwynedd.

Chi sy'n byw felly yn y wlad, da chi yn gwybod beth i wneud os am achub eich ysgol - PEIDIO RHOI Y BLEILAIS I BLAID CYMRU.



From the electoral leaflet of Plaid Cymru in Arfon, they say that they support everything under the sun, apart of course to saving our schools. No mention of course regarding schools in Gwynedd so we can take for granted that Plaid Cymru are in favour of closing a number of our rural schools.

All those who live in the villages, you now know what to do to save your local school - DON'T VOTE FOR PLAID CYMRU.

Monday 26 April 2010

Ffordd Osgoi Bontnewydd - Bontnewydd By-pass

Nos wener roedd yna gyfarfod cyhoeddus yn Neuadd Bontnewydd ar y ffordd osgoi. Maen ymddangos fod Hywel Williams wedi gyrru llythyr i Ieuan Wyn ynglyn a'r fford osgoi ers ddechrau mawrth ac nid ydi Ieuan Wyn yn teimlo ei fod yn bwysig i ymateb.

Cywilydd i Blaid Cymru.


On Friday night there was a Public Meeting in Bontnewydd Hall regarding the new by-pass. It is apparent that Hywel Williams has written to ieuan Wyn Jones since early March and tod ate no reply has been received.

Shame on Plaid Cymru

Saturday 10 April 2010

DIWRNOD TORRI GWAIR - GRASS CUTTING DAY


Tro cyntaf eleni i'r gwair cael ei dorri. Rwan fydd gofyn ei wneud o leiaf bob bythefnos. O wel, o leiaf fydd y twmpath compost yn tyfu.


First cut of the year. I will now have to do it at least fortnightly. Never mind, at least I can see the compost heap growing.

Thursday 8 April 2010

CYFARFOD CYNLLUNIO GWAN - WEAK PLANNING MEETING

Neithiwr roedd yna gyfarfod Cynllunio Arfon, ac nid oedd yno lawer o Gynghorwyr. Wn i ddim os oedd yna gyfarfod arall yr un noson, ond ta beth roedd yna cworwm.

Last night there was an Arfon Planning Meeting ac not many Councillors had turned up. Could be that they had another meeting on the same night. never mind at least there were enough for a quorum.

I try to attend as many meetings as I can in Gwynedd (especially if I am on the list to attend), but sometimes I also have clash of meetings on the same night and it's a pity that someone somewhere can take all the meetings that Councillors are due to attend and find a mutually convenient system whereby they don't clash.

Monday 5 April 2010

IEUAN AIR



Fe fydd gennyf newyddion i chi am yr uchod oddi fewn i'r wythnos.
I will have breaking news for you regarding the above within the week.

DADANSODDI Y PLEIDIAU YNG NGWYNEDD - ANALYZING THE PARTIES IN GWYNEDD






Ni chefais wahoddiad i lansiad ymgyrch Plaid Cymru na Llafur yma yng Ngwynedd (Wn i ddim pam !). Felly yr unig bapurau sydd gennyf yw'r Ceidwadwyr. Dwi am ddisgwyl cyn rhoi unrhywbeth i fyny am y "Tories" tan gai weld papurau y 4 plaid arall.

Lib Dems a'r UKIP, Plaid Cymru a Llafur gyrrwch nhw draw i mi er mwyn i mi roi rhywbeth am bob Plaid etholiadol ar y blog.

Yn y gorffennol dwi wedi pleidleisio i Blaid Cymru, Llafur a'r Lib Dems. Plaid Cymru traddodiadol a dim beth sydd ganddom nawr, yr hen Lafur asgell chwith a dim yr un asgell dde Blair/Brown a'r Lib dems gan mi gyrhaeddais y blwch pleidleisio heb wybod i bwy i roi yr X ac methu gwneud fy meddwl i fyny felly croes i'r Lib Dems amdani gan nad oedd dim un o'r lleill yn haeddu fy mhleidlais.

Tydw i erioed wedi rhoi X i'r Ceidwadwyr na chwaith i UKIP gan dwi yn cofio Thatcher yn dwyn fy llefrith yn yr Ysgol ac wrth gwrs y Poll Tax. Yr unig beth da ma y ddynes na oedd iddi ddod a cyfranddaliadau yn y farchnad yn Llundain ar gael i nifer o bobol cyffredin.

Felly does gen i ddim ffyddlondeb i ddim un o'r pleidiau mawr, ond dwi yn ffyddlon i Lais Gwynedd ac i ymdrechu i wneud yn saff fod pobol ward Llanwnda yn cael y gorau o Gyngor Gwynedd.




I didn't get an invite to the Plaid Cymru or Labour's election launch in Gwynedd
(No idea why !). So the only papers i have are the Conservatives. I am going to wait until posting something on the Gwynedd election until i have all the other parties information.

So the Lib Dems, UKIP, Plaid Cymru and Labour send them over to me please.

In the past I have voted for Plaid Cymru, Labour and the Lib Dems. The old tradditional Plaid Cymru of course, not what we have now, and the old left to center Labour not the right wing Blair/Brown and the Lib Dems once as I arrived at the polling station not knowing who to vote for so gave them my X as none of the others deserved my vote.

I have never voted for the Tories or UKIP as I remember Thatcher was the one who "stole" my milk in School and of ocurse the dreaded poll tax. The only good thing about the woman was that she brought share ownership to normal people.

So I have no allegiance to none of the large parties but I am faithfull to Llais Gwynedd and I will always ensure that the people of Llanwnda get the best out of Cyngor Gwynedd.

Saturday 3 April 2010

DI-ENW - ANON

I'r ymatebydd di-enw, Os wyt yn ddigon dewr, rho dy enw - Ffwl

To the Anon posting - If you are brave enough, give us ur name - Fool

Thursday 1 April 2010

NEWYDDION TRIST - SAD NEWS

Newyddion trist ddoe fod y bonheddwr Geraint George wedi ein gadael. Yn 49 oed roedd Geraint yn ddyn hynod o barchus ac roedd ei ymroddiad i'w fyfyrwyr ac i addysg yn oruwch beth arferir ddisgwylir gan athro.

Nid yn unig fydd ei golled yn taro ei deulu yn galed, ond hefyd y gymuned leol ym Mrynrefail a Penisarwaen.

Mae gen i dal gopi o'r DVD wnaeth o a'r myfyrwyr ym Mangor ar ardal y Foryd sy'n hynod o ddiddorol ac rwyf dal yn cofio'r cyflwyniad ble gymerodd sedd yn y cefn a gadael i'r myfyrwyr gyflwyno'r DVD a rhedeg pobol drwyddi.

Y cwestiwn sy'n cael ei ofyn yw pam fod y gorau mewn cymdeithas yn ein gadael ymhell cyn eu h'amser ?



Sad news yesterday that Geraint George has died. At 49 years of age, Geraint was a gentleman in the true sense of the word, and his commitment to his students went beyond what one would expect from a teacher.

Not only his loss will be truly felt by his family, but also to the communities of Brynrefail and Penisarwaen.

I still have a copy of the DVD he and the students made on The Foryd area which is highly interesting and I still remember the presentation and the launch where he took a back seat and allowed the students to present it.

The question that is always asked is Why our best people in society always leave us before their time ?