Thursday 31 December 2009

LLONGYFARCHIADAU - CONGRATULATIONS


Da iawn Cynghorydd Caerwyn Roberts sydd nawr yn Cynghorydd Caerwyn Roberts OBE ac hefyd cyn gynghorydd cymuned Llanwnda Jane Eryl Jones sydd hefyd nawr yn Jane Eryl Jones OBE.


Well done to Councillor Caerwyn Roberts who is now Councillor Caerwyn Roberts OBE and also to ex Llanwnda Community Councillor Jane Eryl Jones who is now Jane Eryl Jones OBE.

Saturday 26 December 2009

CYNGHORYDD Y FLWYDDYN - COUNCILLOR OF THE YEAR

Mae hwn yn seliedig i Wynedd. Dwi am roi 5 enw o pwy dwi yn feddwl ydi'r cynghorwyr mwyaf dymunol/hapus/pleserus i gyd weithio gyda/digrif o bob grwp oddi fewn i Wynedd am 2009.

PLAID CYMRU:
Rhaid i mi ddwud mae yna 35 ohoynyt i bigo. Rhai tydw I ddim yn cael y pleser o gyd weithio efo nhw ar bwyllgorau. Mae hon yn agos rhwng OP (oherwydd ei sylw at fanylder ffeithiau mewn dogfennau) Len (mae ganddo wit heb ei ail) a Huw Edwards (mae o yn gallu cymeryd tynny coes ac hefyd ei roi o mor dda) neu'r Cynghorydd Tudor Owen (oherwydd mae pawb o bob plaid yn gallu cyd fynd efo Tudor oherwydd ei fod yn ddyn teg a chyfiawn a phawb).

Yr enillydd am 2009 yw...... Cynghorydd Huw Edwards. Nid yn unig am yr uchod ond hefyd fel dwi wedi ei roi o'r blaen ar y blog hwn. Mae ganddo weddi i bob achlysur yn ei boced. Ac mae'n gallu ei ddweud o o'i gof heb ddarn o bapur. Os ydi swyddogion angen rhywyn i roi gweddi ar frys, gallasent ddibynnu ar Huw. Felly mae Huw Edwards yn cael yr wobr am eleni i Blaid Cymru.

LLAFUR:
Mae hwn rhwng 2 sef Brian Jones (Cwm y Glo, am ei addfwyndeb bob tro) a Keith (oherwydd ei acen swynol Bangor Ai). Eleni Brian sy'n cael y bleidlais, fel cadeirydd Pwyllgor Cynllunio mae gant y cant yn deg a phawb. Does ganddo ddim ffafriaeth i neb, mae pawb yn cael chwarae teg ganddo ac mae ganddo amser i bawb hefyd, felly Cyng. Brian Jones yw enillydd Llafur y flwyddyn.

RHYDDFRYDWYR:
Does ond un ennillydd am 2009 sef Mrs Jean Forsyth o Bangor. Dwi ar bwyllgor efo hi ac mae hi yn wych. Yn darllen y papurau yn drwyadl ac yn hollol fantastic am ofyn cwestiynnau.

ANIBYNNOL:
Dwi yn styc. Mae Eryl Jones Williams yn dda am ofyn cwestiynnau, Eric Jones,(Groeslon) neu Cynghorydd Trefor Edwards (Llanber).

Yn anffodus ni allaf ddewis gan fod y tri am 2009 wedi bod yn wych.


LLAIS GWYNEDD:
Does ond un dewis sef Gwilym Euros. Oherwydd yn syml tydi o fel fi ddim yn cymeryd unrhyw falu caxxx gan griw y Blaid ac yn barod i ymosod, cwestiynnu a mynd o dan groen rhai er mwyn dangos ambell Wleidydd y Blaid am beth ydynt mewn gwirionedd.

Hefyd am ei ymdrech i godi arian drwy golli pwysau i Ty Gobaith.

Friday 25 December 2009

NADOLIG LLAWEN - MERRY XMAS


I bawb yn y Byd. I'r rhieni sydd wedi bod ar eu traed ers oriau man y bore zzzzzzzzzzz.


To everyone in the World. And to all the parents who have been up on their feet since the early hours, zzzzzzzzzzzzz.

Wednesday 23 December 2009

CYDWEITHIO - WORKING TOGETHER

Mae yna si fod arweinwyr y grwpiau nyng Ngwynedd am gydweithio dros y Nadolig. Efallai dyna beth ydi'r fideo ma sydd wedi ei yrru i mi yn meddwl.

Cliciwch ar y linc ar yr ochr.

Pwy a wyr efallai fydd Dyfed yn riportio fi am hwn hefyd ??!


There is talk that the leaders of the groups here in Gwynedd will be working together over Xmas. Perhaps this is what the video that has been sent to me means.

Click on the link on the side.

Who knows perhaps Dyfed will report me on this as well ??!

Saturday 12 December 2009

CROESO YN OL RODDERS - WELCOME BACK RODDERS


Gair wedi dod drosodd i mi fod Rodders yn ol ac wedi gadael sylw ar flog Menai.

Croeso yn ol Rodders, Lle ti di bod ngwashi ? Does yna ddim symudiad wedi bod yn flog Cangen Plaid Cymru ers i Comet Hailey fynd drwy'r awyr. Y son ydi fod Rodders wedi cael ffrae gan aelodau o Blaid Cymru fod ei floggio yn lle gwneud lles i Blaid Cymru ond yn cryfhau cefnogaeth Llais Gwynedd, a diolch i Rodders am hynny hefyd.

Beth bynnag, neis ei weld yn ol a cawn hwyl ar ei sylwadau hynod o ddiddorol, gwirion yn y dyfodol.

Word has come over that Rodders is back and has left a comment on Blog Menai.

Welcome back Rodders, Where have you been ? There has been no movement in Plaid Cymru Bontnewydd Blog since Hayley's Comet passed last time.

The story is that Rodders had a telling off from within plaid Cymru that his blogs instead of earning support for Plaid, gained support for Llais Gwynedd.

Thankyou rodders for that.

Anyway, nice to have him back so that we can laugh at his extremely funny and interesting postings in the future..

Friday 11 December 2009

PLEIDLAIS YR YSGOLION / SCHOOLS VOTE


Ddoe yn y Cyngor daeth y mater cau ysgolion i fyny. Yn ol canllawiau Plaid Cymru, mae yna fygwth nawr i bob ysgol sydd a llai na 60 ynddi felly ardal Bala cawn weld sut fydd Cynghorwyr Plaid Cymru yn mynd.

Cynnigwyd gwelliant gan Gwilym Euros fuasai wedi golygu cydweithio ffurfiol rhwng yr ysgolion ac roedd yn gynnig godigog, ble bu i 25 o gynghorwyr ei gefnogi. Felly roedd deuddeg ohonom o Lais Gwynedd gan gynnwys un Rhyddfrydwr a'r eraill yn Anibynnol gefnogi Gwil ond bu iddo golli.

Felly daeth y cynnig gwreiddiol yn ol o flaen y Cyngor, ac oherwydd nad oeddwn yn canolbwyntio bu i mi mewn cangymeriad i bleidleisio gyda'r "extremists" yn y Blaid (ych a fi), roeddwn ar yr adeg yn siarad a cheisio cyfieithu darn o bapur i fy nghyd aelod Louise Hughes pan waeddwyd fy enw gan y Swyddog Monitro, beth bynnag bu i ni golli o nifer o bleidleisiau er gwaethaf fy mhleidlais i.

Rwan gan symyd i ardal Penllyn y Bala, lle fydd Cynghorwyr Plaid Cymru rwan yn sefyll ta fydd "gweithgor Plaid Cymru" rwan yn gwneud cyfaddawd i Bala ?

Caen weld, beth bynnag mae'r frwydr yn mynd ymlaen, gan pan fydd y mater yn symyd i Arfon, mae yna fygwth wedyn i ysgolion yn fy ardal innau felly mae'n rhaid ei stopio rwan.



Yesterday the Schools closure matter came back up in the Council. According to Plaid Cymru rules, there is a threat to all schools with less than 60 pupils, so in the Bala area, we can see which way Plaid Councillors go.

A betterment was introduced by Gwilym Euros which would have meant a formal co-operation between schools which was indeed a superb opporunities for schools to work together whereby 25 councillors supported it.

So 12 of the Llais Gwynedd Councillors present supported Gwilym on this proposal together with one Lib Dems, and the others being Independants but Gwilym lost the betterment.

So the original proposal came back up, and because I was busy speaking with my Llais colleague Louise Hughes and also translating a document for her, my name was called by the monitoring officer and in the confusion I mistakenly voted with the Plaid "Extremists" (ugh). Anyway, the Plaid motion was carried by a substantial margin (all Plaid, most of the Lib Dems and labour and some Indis) regardless of my mistaken vote.

Now we move to the Bala area, where the Plaid majority working group will tackle this area. Will they offer a solution to Bala ? Who knows ?

The battle goes on as when it moves to the Arfon area, there exists a threat to schools in my ward, so it must be stopped now.

MOHAMED YN GWELD Y GOLAU: MOHAMED SEES THE LIGHT


Tydw i ddim wedi bloggio ers dipyn oherwydd prysurdeb popeth, ond daeth gwen arnaf pan glywais fod Mohamed wedi gweld y golau a gadael Plaid Cymru. Wrth gwrs nid ef yw'r cyntaf i adael ac yn bendant nid yr olaf chwaith. Mae'n cyd fynd a beth dwi wedi ei ddweud erioed sef fod Plaid cymru yn blaid adain dde ac nid bellach yn cynryhioli y bobol go iawn.

Tybiwn fydd Mohamed yn ennill y sedd i'r Ceidwadwyr y tro nesaf yn eithaf hawdd. Beth sy'n synny fi (ond ddim chwaith) yw pan yn aelod o Blaid Cymru, roedd pawb yn uchel ei gloch, rwan gan ei fod wedi mynd drosodd i fod yn Geidwadwr mae rhai o gefnogwyr y Blaid yn ceisio ei bardduo fel rhywyn anghynnes, annifyr a ballu.

Fuaswn ddim yn disgwyl dim byd yn wahannol gan gefnogwyr y Blaid.



I haven't blogged in a long time due to a lot of work at the same time, but I smiled when I heard that Mohamed Ashgar had seen the light and left Plaid Cymru to join the Tories. Of course he is not the first nor will he be the last to leave Plaid Cymru. It goes with what I have always been saying that Plaid Cymru is a right wing party and does not represent real people any more.

I guess that Mohamed will win the seat for the Conservatives at the next election, but what surprises me (well not really) is that when he was a member of Plaid Cymru, it's supporters thought he was the best thing since slice bread, n ow as a member of the Conservatives, Plaid supporters are trying to show him in bad light and giving the impression that they have never liked him anyway.

I wouldn't expect anything else from Plaid Cymru.