Tuesday 22 September 2009

FFAFR I BLAID CYMRU - A FAVOUR FOR PLAID CYMRU

Rwan rhag ofn fod pobol yn meddwl fod gas gen i Blaid Cymru, mae hynny yn bell o'r gwir. Dwi yn gallu gwneud yn iawn efo rhan fwyaf ohonynt, gan eu bod yn gymhedrol ac hefyd yn cynrychioli yr hen steil o Blaid Cymru a dim yn llenwi pocedi eu hunain.

Yn ddiweddar, roeddwn mewn Pwyllgor Cynllunio ac wrth siarad gyda aelod o Blaid Cymru sydd yn aelod ers degawdau, daeth yn amlwg i mi ei bod am siarad ar gais cynllunio cartref i'r henoed oedd ger ein bron, ac nad oedd wedi sylwi fod ei nai yn gweithio yno.

Wrth gwrs os buasai wedi gwneud hynny, mi fuasai mewn dwr poeth gyda'r ombwdsman, ac nid fy lle i oedd dweud wrthi i beidio, yn hytrach cyn iddi siarad, cefais air efo'r Swyddog Monitro er mwyn i hi gael gair distaw efo hi a'i chynghori i ddatgan diddordeb, a dyna beth wnaethpwyd.

Nid yw'r aelod hyd heddiw yn gwybod mai fi achubodd hi.



Now in case people think I don't like all members of Plaid Cymru, that is far away from the truth. I get on very well with most of them, especially the one's who represent the old style of Plaid and are not htere to look after their own interest only.

Recently I was in a Planning meeting and speaking with a member of Plaid Cymru who has been a member for ages, it became apparent that she was going to voice her opinion on planning for an old people's home, without realising that her grandson worked there.

Now if she had taken part in the debate, the ombudsman would have come down on her like a ton of bricks, and of course it was not my place to tell her not to take part, it would be better said from the monitoring officer and I duly had a quiet word with her prior to the meeting.

The member did not take part, and to this day has no idea who saved her from possible repocussions.

JOBAN I'R HOGIA - JOBS FOR THE BOYS


Rwan, os ydi'r cyhoedd yn cicio Cynghorydd allan gan nad ydyw unai yn ddigon da neu eu bod yn teimlo nad ydyw wedi gwneud digon i'r gymuned, y peth diwethaf da chi yn ei ddisgwyl ydi iddynt gael joban wedyn ar rhyw bwyllgor neu asiantaeth. Wel hogia bach, dyna be sy'n digwydd.

Mi welsom Mai 2008, 2 unigolyn yma yng Ngwynedd yn cael cic allan o'r Cyngor, sef Dafydd Iwan a Richard Parry Hughes. Wrth gwrs be ddigwyddodd nesaf oedd i Dafydd Iwan gael joban ar Bwyllgor PEG, a Parry Hughes gael mynd ar Heddlu Gogledd Cymru ymysg apwyntiadau eraill.

Rwan yn anhygoel ar ol methu rheoli yng Ngwynedd, mae wedi cael ei apwyntio i Fwrdd cysgodol Ynys Mon.

Felly'r neges yn y fan hon tdi os ydi'r cyhoedd yn cael gwared ohonoch, peidiwch a poeni, mae'r hogia am edrych ar eich h'ol.





Now if the public kick you out as a councillor, either because they feel your not good enough or that you havent done enough for the community, the last thing you'd expect is for them to be given a job on some public committee or other simmilar organisations. Well you will be glad to know, that is what happens.

We saw in May 2008, 2 people here in Gwynedd getting kicked out as Councillors, Dafydd Iwan who had a nice cushy job on Gwynedd PEG and Richard Parry Hughes who had a post with the North Wales Police Authourity and other bodies as well.

Now amazingly after failing to manage Gwynedd Council, Parry Hughes has been appointed to the shadow board in Anglesey Council.

So the message here is if your rejected by the publiv, no problems, the lads will look after you.

Monday 21 September 2009

GWIRFODDOLWYR - VOLUNTEERS




Fore Sul daeth nifer o Gynghorwyr Cymuned Llanwnda, trigolion eraill o Rhosgadfan ac hyd yn oed o Lanberis draw i osod pystiau gol ar gae chwarae Rhosgadfan.

Mae nifer o'r ifanc wedi bod yn cwyno nad oedd dim iddynt wneud, ac drwy gael rhain yn eu lle, o leiaf cant fynd yno i gael cic a ballu tan fydd mwy o bethau yn cael eu gosod.

Mae rhan fwyaf o'r paratoi wedi'w wneud gan Hugh, ac roedd gwaith caled gan bawb oedd yno fore Sul yn golygu fod yna bystiau yn eu lle, fydd yn gwneud andros o wahaniaeth i blant, a gobeithio eu tynny oddiwrth y strydoedd i chwarae pel.

Hefyd mae yna dim Peldroed o'r enw Mountain Rangers yn y pentref, a braint oedd gennyf yn gem Dydd Sadwrn o noddi pel y gem iddynt. Mae'nt yn cael llwyddiant gwych er mai colli 4-3 wnaethant penwythnos hwn.

Dwi wedi bod ynghlwm efo datblygiad y tim ers iddynt sefydlu haf 2008, ac mae'r hogia i'w clodfori ar y ffordd maen't wedi casglu noddwyr ac arian i brynu defnyddiau. Mae ganddynt rhaglen gwerth chweil, a dweud y gwir yn well na ambell dimau o Gynghrair Cymru.

Felly chwi bobol leol, cefnogwch yr hogia, a dewch gyda'n gilydd er mwyn gwella ein pentrefi i bawb.




On Sunday morning a number of Llanwnda Community Councillors and others from Rhosgadfan and even as far away as Llanberis, came to Rhosgadfan to fix goal posts in the playing field.

The oyungsters had been complaining that they had nothing to do, and by getting these posts in their place, at least they now have somewhere for a kick about instead of playing on the streets.

All the preperations had been organised by Hugh, and everyone there on Sunday worked hard which now means that the village have somnewhere for the youngsters to go. It will make a lot of difference and hopefully reduce the anti social behaviour.

There is also a football team in Rhosgadfan called Mountain Rangers, and it was a pleasure for me on Saturday to sponsor their match ball. They are very successful although on Saturday they lost 4-3.

I have been with the lads since the beginning of Summer 2008, and they are to be praised for the way they have gone around collecting sponsore and raising money to buy equipment and kit. Their match day programme is outstanding and is miles better than some of the teams in the League of Wales.

So all you local people, let's support the lads, and let us all work together to create a better village for us all.

CAI YN DANGOS ETO EI BROBLEM

Rwan Mae na rhywbeth wedi ei roi ar flog unigolyn arall am tybiwn deulu Cai neu aelod o'r teulu. Mae Cai Larsen wedi rhoi 2+2 ac wedi cael 5, mae yn awgrymu mae "aelod o Lais Gwynedd" neu yn hytrach efallai fi ydi'r awdur hwn. I ddechrau tydw i ddim wedi gweld beth oedd wedi'w ddweud ac dwi wedi holi rhai ac tydi nhw ddim chwaith wedi gweld beth ddywedwyd felly dwi yn saethu yn y tywyllwch ar hyn.

Os ydyw yn debyg i beth sydd yn cael ei adael ar fy mlog I yn aml, ac yn amlach byth ar flog Gwilym Euros, nid oes lle i hynny. Dwi wedi cyfeirio at hyn yn Gorffennaf ac mae Gwil hefyd ymhellach yn ol wedi nodi nad ydyw am argraffu'r sylwad. Ac nad ydym wedi'w cyhoeddi gan nad ydynt yn berthnasol.

Rhaid i Cai sylwi fod yna bobol arall allan yna sydd ddim yn ei hoffi am rhyw reswm neu beidio.

Dyma beth mae yn ei ddweud.

...adael ar fy mlog yn rheolaidd pan 'dwi'n cynhyrchu blogiad sy'n ypsetio un grwp gwleidyddol penodol. 'Dwi hefyd yn cael bygythiadau trwy e bost, ac mae fy rhieni oedranus yn cael eu haslo o bryd i'w gilydd. Bydd fy nghyflogwyr hefyd yn derbyn cwynion yn lled rheolaidd.


Pethau ar ei flog
o - Wel join the club, yn sicr pan dwi wedi rhoi sylwad ar unrhyw flog dwi wedi gadael fy enw. Er dwi ddim yn darllen na gadael sylwadau yn aml iawn (tua 5 gwaith).

ypsetio un grwp gwleidyddol
- yn cymeryd ei fod yn cyfeirio at Lais Gwynedd.

Bygythiadau drwy e-bost
- wel os ydynt yn fygythiadau, mae yna gyfeiriad arnynt, ac yn fwy mae yna gyfeiriad IP arnynt felly dos a nhw i'r Heddlu yn lle ceisio creu stori allan o ddim byd. Efallai hefyd fod Cai yn cyfeirio at ebost yrrais I iddo yn yr Ysgol. Roedd hyn yn dilyn i Cai geisio cysylltu Llais Gwynedd efo'r BNP, wedyn mi newidiodd ychydig ar ei gynnwys. Trafodwyd y mater hwn yng nghyfarfod Llais a gofynnwyd i finnau ofyn am gyfeiriad Clerc y llywodraethwyr ganddo fel pennaeth, er mwyn gwneud cwyn ffurfiol amdano. Dyna felly mae'n cyfeirio ato. Wrth gwrs roeddwn fel roeddwn y tro blaen am geisio peidio i hynny ddigwydd.

Pan wnaeth o rhywbeth tebyg o'r blaen a gadael sylwad am Gwilym ar ei flog, mi drafodais y mater efo Swyddog Monitro y Cyngor a dod i benderfynniad fuasai yn well trafod efo'i fam (sy'n gynghorydd Sir) er mwyn iddi ei darbwyllo i fod yn ofalus.

Do chwarae teg mi wnaeth Mrs Larsen hynny a dod yn ol ataf gan ddweud "..mae o yn gallu bod yn benboeth am Wleidyddiaeth".

Ac efallai mai hyn mae'n gyfeirio at ei rieni yn cael eu "haslo" !!

Iawn i roi pethau mewn perspectif.

Sgen i ddim byd i ddweud wrth y crinc hwn. Dwi yn ei 'nabod, yn ei gofio yn Ysgol Brynrefail fel dwi yn cofio ei ddau frawd. Dwi yn gallu gwneud yn gret efo Trystan sy'n brifathro penigamp a chydwybodol mewn ysgol lle rwy'n lywodraethwr. Yn ei gefnogi i'r uchaf, er efallai nad ydym yn gytun efo gwleidyddiaeth ond mae dyfodol plant yn bwysicach na hynny ac mae Trystan yn rhoi nhw gyntaf ar bob achlysur.

Yn ail, mae Mrs Larsen a minnau wedi cytuno ar nifer o faterion yn y Cyngor, dwi yn Is Gadeirydd ar bwyllgor lle mae hi yn gadeirydd, ac yn ei chefnogi hi ar bethau yn union fel mae hi yn fy nghefnogi I.

Roedd Cai yn wirion efo'i awgrymiad am BNP, digwydd bod roeddwn wedi cael sgwrs am BNP efo Trystan 'chydig wythnosau cyn ei flog ac wedi dweud pa mor gas dwi o'r adain dde hon a'r parti neo nasiadd hyn, a chefais drafodaeth am deulu Larsen o Norwy i Gaernarfon gan fod ewythr i Cai yn gyn athro arnaf yn Ysgol Gwaun Gynfi, yn athro gwych ac dwi yn dal i gofio ei eiriau diwethaf i mi cyn ymadael am ysgol Brynrefail, mi 'sgwenodd ar lyfr llofnod (sydd gyda llaw dal gennyf yn rhywle) "Gorau arf ar ddysg" -

Mae fy nheulu wedi canfasio i Mrs Larsen yn y gorffennol, ac dwi bron yn saff fod fy nhad wedi arwyddo ei phapur ar nifer o achlysur.

Rwan, dwi am gyfeirio i flogiwr SIONYN, sydd yn gadael pethau ar fy mlog weithiau. Roedd rhai o bethau yn rhesymol, ond mi roeddwn wedyn yn cael pethau am CAI dan enw SIONYN, ANON, GUTO, WMFFRA, PAUL, pethau am bobol eraill hefyd dan yr un enw, felly mi fuddsoddais mewn meddalwedd tracio IP, ac mae hwnnw wedi gweithio.

Mi gadarnhaf fod SIONYN go iawn yn 81.170.16.2, ac er nad wy'n cytuno gyda'i wleidyddiaeth mi roddaf nhw ymlaen. Roedd yr enwau eraill yn 83.151.??.? sydd ar hyn o bryd yn cael ei dracio er mwyn dadansoddi pwy ydi o neu hi.

Pwrpas hyn oedd i stopio yr unigolyn hwn/hon rhag cysylltu. Dwi ddim eisiau gwybod am bethau mae'n ddweud, ac yn amlwg mae ef/hi a Cai wedi cael geiriau croes am rhywbeth neu gilydd yn rhywle.

Iawn yn syml, mae 2+2 yn gwneud 4. Felly CAI tyn y "chip" na oddiwrth dy ysgwydd, ac am y tro hwn, nid Llais Gwynedd na fi sydd tu ol i unrhyw sylwad.

Saturday 19 September 2009

MYTH


Iawn mae bandwagon Y Blaid yma yng Ngwynedd yn dod allan efo pob math o asyniadau a celwyddau am Lais Gwynedd.

Myth arall yw fod
Llais Gwynedd yn blaid wrth Gymraeg a Chymreig, ac mai unigolion Saesneg eu h'iaith yw y prif gefnogwyr.


Wel am lol potas llwyr.

Gallaf ddatgan fod pob un cyfarfod o Lais Gwynedd wedi bod yn y Gymraeg, ac er fod un unigolyn ddim eto yn rhugl yn yr iaith, mae yna rhywyn wedi bod yn eistedd yn ei h'ymyl yn cyfieithu iddi. Mae hi yn codi rhan fwyaf o bethau beth bynnag, ac wedi mynychu cwrs yn Nant Gwytheyrn am wythnos i fagu hyder, ac wrth i ninnau hefyd ei chefnogi, mi ddaw.

Gyda ein cefnogwyr, maen't yn bennaf yn bobol Gwynedd (naturiol) sydd wedi diflasu ar gam-reolaeth Plaid Cymru yn y Sir, ac angen llais arall i'w cynrychioli.

Wrth gymharu efo Cynghorwyr di-Gymraeg yn y Cyngor, mae canran ni yn isel iawn 1/13. Mae Plaid gyda mwy (dadansoddi pwy sy'n defnyddio teclynnau cyfieithu) 4/35, mae'r Lib Dems yn fwy byth, ac wrth gwrs mae yna rai o Lafur hefyd - OND tydi hynny ddim yn meddwl nad ydynt yn Gynghorwyr da, na chwaith ddim yn gefnogol i'r Iaith Gymraeg.

Mae Gwynedd a Chymru gyda dwu iaith swyddogol. Mae angen parchu'r ddwy.

Felly dyna ni myth arall wedi'w roi i'r gwely.



Now the Plaid Cymru bandwagon every now and again comes out with all sorts of assumptions and lies regarding Llais Gwynedd.

Another myth of course is that
Llais Gwynedd is made up of anti Welsh supporters, and is mainly supported by English only speakers.


What a load of twaddle.

I can state that all our meetings have been conducted in Welsh, and although we do have one Councillor who is not yet fluent in Welsh, we have had someone sit beside her to translate anything that is said. She picks up most things anyway (as her husband and daughter are fluent in Welsh), and she has attended a weeks course in Nant Gwytheyrn to gain confidence, and with us as well supporting her, she will soon be able to address the Council in Welsh.

Regarding our supporters of course, they are from Gwynedd (naturally), and are fed up with the mis-management by Plaid Cymru in the County,a nd required another voice to represent them.

When you compare this with other non-Welsh Councillors in the County, our percentage is low 1/13. Plaid Cymru have about 4/35 (by visualising who uses translation equipment during meetings), Lib Dems slightly more and also Labour members as well, - BUT this does not mean that by not speaking Welsh that they are less effective than those who do, and some members of Plaid have to realise that.

Wales and Gwynedd have two official languages, and we need to respect both.

So another Myth bites the dust.

PATAGONIA


Wel o'r diwedd mae yna synnwyr cyffredin yn bodoli.

Rwan dwi yn dal i fyny gyda newyddion pethau, ac da yw gweld fod Shirley Edwards o Batagonia wedi cael caniatad "Llywodraeth Llundain" i ddod i Gymru. Maen't yn ail ystyried cais Evelyn Calcabrini i weld os caiff hi ddod.

Rwan dau beth yn fy nharo.

Paham fod rhywyn yn Llundain yn trafod os yw unigolyn yn iawn i ddod i Gymru, onid trafodaeth i Lywodraeth Cynulliad DDYLAI hynny fod ?

Ac yn ail, ond am ymdrechion rhai yma yng Nghymru, na fuasai hyn yn gyntaf wedi cael sylw ac yn ail iddynt gael dod yma.

Felly DA IAWN CHI i'r rhai sydd wedi bod yn ymdrechu.




At last common sense prevails.

I am catching up on things after a hectic week and note that Shirley Edwards from Patagonia has been approved by "London" to come to Wales.

Now two things strike me.

Why would someone in London decide the fate of a visitor to Wales, as this of course SHOULD be a decision for the Assembly ?

And secondly, be it not for the effort and perseverance of people here in Wales, then this would not have happened.

So a hearty CONGRATULATIONS to those who have worked hard on this.

LLUNDAIN - LONDON


Syth ar ol Cyfarfod Cyngor Cymuned (oriau man y bore) roeddwn yn dreifio am Llundain. Tydi dim byd yn newid yno ar wahan i draffig yn waeth, ffyrdd yn beryg bywyd a pawb yn ddreifar gwael ond myfi wrth gwrs.

Tu allan i Llundain roeddwn lle delfrydol o Geidwadol o'r enw Lower Kingswood, efo tai fel cestyll, ac ambell plum yng ngheg y trigolion.

Heb gyfrifiadur, roeddwn ar goll, hon yw'r peiriant sy'n cymeryd nodiadau, cofnodion a ballu ond nid ar waith roeddwn yno felly doedd dim lle iddi yn y car.


Cychwyn yn ol am 9.30 fore Gwener, a traffig a damweiniau ar hyd y draffordd. M1 roeddwn ynghannol traffic damwain am 2 awr, M6 am 3 awr yn sefyll yn sownd tra roedd ambiwlans a'r heddlu yn trin pethau.

Roedd gennyf gyfarfod i fod am 1.30 Ddydd Gwener ac un arall am 6.30 ond fu rhaid gohirio'r ddau gan wnes I ddim cyrraedd adref tan 7.30 neithiwr (Nos Wener).

Bore ma gyda agor ebyst, roedd tros 40 ohonynt yn fy nisgwyl (3 diwrnod o ebyst) ac allan o rheini ond 5 oedd yn ddefnyddiol jync oedd y gweddill.

Rwan moral hyn yw wrth gwrs i fynd a'r peiriant hwn efo fi bob tro yn un peth, a cymeryd y tren tro nesaf.




Straight after the Community Council meeting on Wednesday, (straight after midnight) I was driving to London. Nothing changes in London apart from increase in Traffic and the road are much more dangerous, with everyone (apart from myself of course) a dangerous driver.

I was outside London in a very conservative area called Lower Kingswood, with houses like castles and people talking with a plum in their mouths.

Without the laptop, I was lost, as I take notes, minutes and everything on it, and I didn't have room to take it.

Starting off at 9.30am on Friday morning, there was nothing but traffic and accidents on the motorway. I was stuck for over 2 hours on the M1, and upwards of 3 hours on the M6 whilst the emergency services dealt with accidents.

I had arranged a meeting at 1.30pm and at 6.30pm but had to cancel both as I didn't arrive home until well after 7.30 last night (Friday).

This morning I opened my email and the last 3 days' emails were there, over 40 of them with only 5 being anything of value the others were spam.

Now the moral of all this is firstly to take the laptop with me even for social/private visit and next time, to take the train.

Thursday 17 September 2009

CYNGOR GWYNEDD - I BE ? WHY ?


Neithiwr roeddwn yng Nghyfarfod Cyngor Cymuned ble roedd Cyngor Gwynedd dan y lach.

Roedd nifer o bethau lle rwyf I neu'r clerc wedi ei godi sydd angen sylw yn yr ardal heb gael ei gwneud ac roedd un Cynghorydd yn dweud fod rhai o'r materion hyn yn mynd yn ol bron iawn mor bell ar adeg pan gychwynnodd ar y Cyngor (bell amser yn ol).

Ar y cyfan dwi yn cytuno. Er fod nifer o bethau yn digwydd, pam pam a phaham fod y clerc a minnau yn gorfod ail ofyn yr un peth drosodd a throsodd o fis i fis.

Digon yw digon, ac ar yr agenda am fis nesaf fydd y cwestiwn o ddiffyg hyder yng Nghyngor Gwynedd fel Cyngor Sir yn cael ei drafod gan y Cyngor, mi fydd y penderfynniad yn wybodaeth gyhoeddus a phw a wyr, efallai fydd mwy o gynghorau yn teimlo yr un peth.

Iawn beth mae'r Cymunedau eu angen ac hefyd Cynghorwyr yw gweithrediad yn eu dymuniadau (os yn bosib wrth gwrs). Tra fod pentref Rhosgadfan yn lwcus cael dau doriad gwair y flwyddyn o amgylch y pentref, mae cannoedd os nad miloedd yn cael ei wario ar flodau neis ger mynediad parc diwydiannol Cibyn neu ger mynediad i Gaernarfon - Onid yw pobol Rhosgadfan a Rhostryfan yn talu trethi hefyd?, a pha adnoddau sydd ganddynt yn y pentref ar wahan i'r ysgol?, casglu sbwriel, sweeper sy'n teithio drwy'r pentref yn gyflymach na Schumaker, ac ychydig o bethau eraill.

Rwan bore ma ar doriad y wawr (tua 8 gan mai yn y bore mae dal hi), dwi am drefnu cyfarfod efo oddeuty 4 swyddog er mwyn gwthio'r gwch i'r dwr a gweld pam nad yw pethau yn cael ei wneud. Efallai fis yma ar ol lluchio'r dwmi allan, strancio a gweiddi fydd y materion hyn yn cael sylw ac efallai cawn osgoi pleidlais o ddiffyg hyder yn Cyngor Gwynedd.



Last night I was present at the Community Council meeting where services by Cyngor Gwynedd were discussed and judged.

There has been many matters discussed by myself and the clerk with officers in Gwynedd whereby nothing has been done, and one councillor stated that some have been so long that they go back to when he started as a councillor many years ago.

On the whole I would agree with this statement, although I have seen many matters being resolved, there are some where I or the clerk have had to go back and back to get things done.

Enough is enough, and it has been suggested for next months meeting, that a vote of no confidence is to be proposed on Gwynedd Council which could see other councils in Gwynedd following suite.

Now what the communities and councillors want is cooperation and implementation of their requirements (if of course possible).

Whilst the village of Rhosgadfan is lucky to get two grass cuttings annually, whilst hundreds or thousands of pounds are spent on nice flowers at the junction to Cibyn estate or as people enter Caernarfon.

The people of Rhosgadfan and Rhostryfan pay their rates as well and What resources ar ethey given by the Council apart from the School, refuse, a street sweeper that goes so fast through the village you might as well think that Michael Schumaker is driving, and other small matters ?

Now at 8 this morning, I will be knocking on the Council's door, speaking with officers and seeking answers and assurances as to why, when and how these matters are to be resolved ? And who knows by throwing my dummy out of the pram, jumping up and down and shouting and getting angry, perhaps these matters can then be resolved and we may even avoid the vote of confidence (or lack of).

Wednesday 16 September 2009

MYTH


Mae na nifer o gamsyniadau yn bodoli, hynny yw mae Llais gwynedd yn cael bai am pawb a phopeth (dweud y gwir mwy o fai na Osama Bin laden ar adegau). Dwi am glirio rhai o'r myth's yma tros y misoedd nesaf.

MYTH 1:

"..Llais Gwynedd sydd tu ol i fideo You Tube Hogia Gwynedd".

Clwyddau noeth. Mi wnaeth un cynghorydd Plaid Cymru yng Ngwynedd awgrymu wrthyf mai fi oedd tu ol i'r fideo. Pan ddaeth allan roeddwn ar fy ngwyliau efo'r teulu yn Ffrainc.

Mi gefais alwad ffon gan aelod o Lais Gwynedd yn gofyn i mi os oeddwn wedi ei weld, ac nad oeddwn wrth gwrs. Diwrnod hwnnw mi gynigiais i'r plant fwyd yn McDonalds (sydd gyda llaw yn groes i'r graen) oherwydd roeddwn yn gallu cael mynediad i'r we yno am ddim, a dyma deithio wedyn tua 15 milltir i ffeindio McDonalds.

Yno es ar y We a gweld y fideo. Wel son am chwerthin, a dim un Ffrancwr yn deallt paham oeddwn yn chwerthin.

Beth bynnag myth llwyr. Un arall i ddilyn yn no fuan.

http://www.youtube.com/watch?v=waZCKK55acg



There is a lot of misconception out there regarding Llais Gwynedd. Indeed we are blamed for anything and everything (even more than Osama Bin Laden). So over the next few months I shall clear these myths and misconceptions.

MYTH 1:

"..Llais Gwynedd is behind the Hogia Gwynedd You Tube video".

Total lies. One Plaid Cymru councillor did suggest to me that it was me behind it, but when I was away in France with the family when I received a phone call from a fellow Llais Councillor, informing me of the release. Of course it was news to me and I decided to treat the children to a McDonalds (which is crap food and not where I usually go to), so I had to travel about 15 miles to find a French McDonalds to get on the internet free of charge.

I saw the video and laughed out so much. None of the Frenchies knew why I was laughing.

Never mind, a total myth. Another one to follow soon.

http://www.youtube.com/watch?v=waZCKK55acg

Monday 14 September 2009

INSPIRATION OR DESPERATION



Tydi Rhydian yn dda (da i beth, mater o farn yw hynny).

Mae o yn dweud fod Dafydd Iwan yn "Inspiration". Rwy'n poeni am ei flog, mae o wedi gwneud popeth ond sychu pen ol Dafydd.

http://plaidcymrubont.blogspot.com/2009/09/inspiration-to-us-all.html

Roedd gennyf bictiwr yn fy mhen o DI yn siarad ar y llwyfan a Rhydian wedyn pob rhyw hyn a hyn yn dod ymlaen i sychu talcen ei ben, llenwi ei wydr efo dwr, llnau ei esgidie a ballu.

Mae o hefyd yn awgrymu fod "rhywyn" wedi bod yn blogio yn ei enw ef - cywilydd arnynt. Mae'n rhaid mai un Rhydian sydd yn y byd yma. Rhaid dweud tydw I ddim wedi gweld dim byd, ond tydw I ddim yn darllen popeth, felly efallai mai breuddwyd ydi hyn ganddo.

Gan obeithio fod Dafydd Iwan wedi parcio yn y lle cywir yn y gynhadledd yn Llandudno a dim mewn man i'r anabl. Roedd Rhydian yn son fod DI wedi cael ei lambastio gan bawb yn ddiweddar - Wel paham Rhydian bach, oherwydd y ffaith ei fod wedi parcio mewn lle i'r anabl ac heb ymddiheuro ac wedi gadael mater bychan fynd yn Everest mawr. Yn ail fel awdur y Shambles Ysgolion, doedd o ddim yn ei gweld hi er i nifer ddweud wrtho. Ac roedd DI yn awgrymu fod Chris Hughes (a chwalodd o yn yr etholiad) a minnau wedi dweud fod ganddo flat moethus yn Doc Fictoria, (mi gafodd lythyr gan gyfreithiwr Chris ac fe dynnwyd yr awgrymiad hwn yn ol ganddo).

Rwy'n datgan (hyd y gwyddwn) nad oes ganddo flat moethus yn Doc Fictoria, ac yn rhoi sialens i unrhyw un allan yna brofi i'r gwrthwyneb.

Beth bynnag, Mae Plaid yn ceisio bod yn ffrind i bawb a gwneud dim cyfiawnder iddynt eu hunain. Parti ydynt sydd wedi colli eu ffordd, parti elitaidd sy'n gwarchod buddiannau eu hunain (fel fydd fy adroddiad i'r Ombwdsman yn dangos), parti sydd wedi anghofio paham y sefydlwyd nhw yn y lle cyntaf, a tan maen't yn sylweddoli ac yn dod yn ol i'r parti traddodiadol lle mae nifer helaeth wedi gweithio iddynt tros y blynyddoedd colli eu cefnogaeth traddodiadol fyddent ond yn ceisio rhoi eu hunain fel ffrindiau pawb.



Isn't Rhydian good (good for what is a matter of opinion).

He states that Dafydd Iwan was an "inspiration". I worry about his ramblings, he has done everything apart from wiping DI's posterior.

http://plaidcymrubont.blogspot.com/2009/09/inspiration-to-us-all.html

I visualised a picture of Rhydian whilst DI was speaking on the stage, and every now and then he would come in from the side and wipe Dafydd's brow, fill his glass with water and clean his shoes.

He also "suggests" that someone has been blogging in his name. - shame on them. It must be that there is only one Rhydian in this world. I must say I haven't seen anything, but saying that I don't read everything out there. It could be a dream that he has had.

Hoping that Dafydd Iwan has parked his car in the right place in the conference in llandudno and not in a disabled spot. Rhydian also states that DI has been pillared by everyone recently - Well why Rhydian bach, because he parked in a disabled spot and failed to apologise allowing a small incident to blow out of proportion.

Secondly as the author of the ill fated, ill conceived schools re-organisation document, he failed to realise public opinion was against him. And DI even had the audocity to accuse Chris Hughes (the one who smashed him in the local elelction) and myself of telling people that he had a flat in Fictoria Dock. Upon receipt of a letter from Chris' solicitor, he removed his quote from his website.

Now I can state (as far as I know) that he hasn't a flat in Doc Fictoria, and I challenge anyone out there to prove me otherwise.

Anyway, Plaid try to be everyone'r friend and do no justice to themselves. They are a party that have lost their way, a party for the elite in society, and a party that looks after their own interest (as my report to the Ombudsman will prove), a party that have forgotten why they were set up originally, and until they realise this and go back to their grass roots beliefs, where so many have worked for the same belief in the past, then they shall continue to loose their tradditional support.

Sunday 13 September 2009

ALI G


Roeddwn wedi meddwl llawrlwytho Ali G yng Nghymru i chi ond yn hytrach cliciwch ar y linc.

http://www.youtube.com/watch?v=kOZlJiOvXsU


I had thought of downloading Ali G in Wales for you as it is hilarious, but then if you click.

http://www.youtube.com/watch?v=kOZlJiOvXsU

ARFON 5




HENDRE - JOHN WYN JONES
Gyda'i lais dwfn, ma rhywyn yn syth yn eistedd i fyny a gwrando. Ei fab yw wrth gwrs Dyfrig Jones (Cynghorydd Gerlan). Mae John hefyd yn cynrychioli Plaid Cymru, ac yn siaradwr doeth pan mae yn dweud rhywbeth. Tydw i ddim wedi eistedd ar lawer o bwyllgorau efo John, ond mae'n dod drosodd yn ddyn clyfar, un sy'n meddwl pethau drwodd cyn dweud dim.

HIRAEL - JEAN FORSYTH
Wel dyma chi ddynes neis. Mae Mrs Forsyth yn ceisio siarad Cymraeg weithiau efo fi ac rwy'n gwerthfawrogi ei h'ymdrech. Yn cynrychioli y Lib Dems, mae hi nabod ei phobl yn dda. Mae hi yn eistedd ar bwyllgor lle dwi yn Cadeiryddio, ac yn amlwg o'i thrafodaeth mae wedi darllen y papurau yn drylwyr iawn. Does ganddi ddim byd drwg i ddweud am neb (gwahannol i rai o'r cynghorwyr o leiaf). Eto mae balchder dod o Fangor yn dangos dryodd ganddi ac yn mynny y gorau i'r Ddinas.

LLANBERIS - TREFOR EDWARDS
Cyn arweinydd y grwp Anibynnol tan iddo benderfyny rhoi gorau i'r arweinyddiaeth yn ddiweddar. Hogyn o Lanber, wedi gweithio i'r Cyngor fel archwiliwr am flynyddoedd (Yn Cyngor Arfon cyn hynny), yn chwaraewr snwcer o fri, ac yn un o drefnwyr ras yr Wyddfa. Os oes rhywyn yn tynny coes, Trefor yw yr un hwnnw. Tydi o ddim yn stopio.
Mae pawb yn falch ei fod wedi gwella o'i salwch, roedd i ffwrdd o'r Cyngor am beth amser ac roedd colled hebddo.




HENDRE - JOHN WYN JONES
With his deep voice, one instantly sits up when John speaks and one listens. His son is of course Dyfrig Jones (Gerlan Councillor), and John also represents Plaid Cymru. John doesn't say much in debate, but when he does your sure it's going to be something sensible and moderate. I don't sit on many meetings with John, but he comes over as a clever person, who thinks through matters before opening his mouth.

HIRAEL - JEAN FORSYTH
A thoroughly lovely woman and I appreciate the fact that Mrs Forsyth attempts to speak Welsh with me most times. Representing the Lib-Dems, she understands her people and I am greatful that she is present at a meeting where I am the chair, as I can always guarantee that she has read the papers thoroughly and is well prepared with questions. She always has a kind word to say about everyone, (different to some councillors at least), and as a Bangorian, she is also proud to serve her city and community.

LLANBERIS - TREFOR EDWARDS
Trefor is the ex-leader of the Independant group in Gwynedd, and gave up recently as he has not been well. Born and bred in Llanberis, having been an Auditor in the council and previously with Arfon Borough Council. An avid snooker player 9also quite good at it) and one of the organisers of the Internationally acclaimed Snowdon Mountain Race. Constantly he is joking and winding people up - in fact he never stops. Everyone is pleased that he has fully recovered from his recent illness. He was away from the chamber for a long time and his presence was surely missed.

ACHUBWCH YR AMGYLCHEDD - SAVE THE ENVIRONMENT


Gyfeillion, ydym, da ni yn dda yn ail gylchu yn y cartref, ond beth am i bawb fynd ychydig yn well. Tydw I ddim y gora, mae fy mhlant bob tro yn atgoffa fi be sy'n mynd i'r bocsus glas a beth sy'n mynd i'r bag du yn aml. Dwi hefyd yn rhedeg cerbyd efo injan 2.9cc hefyd, ac yn bendant nid yw hwnnw yn dda i'r amgylchedd, ond tydw i ddim wedi hedfan ers tua 10 mlynedd, mae fy ngwastraff gardd yn cael ei roi mewn biniau compost, ac rwyn ceisio fy ngorau.

Mae'n siwr fod gennych domeni o stwff o gwpas y ty na lle da chi yn eu rhoi yn gefn y car a'i mynd a nhw i'r dump neu safle Caergylchu lleol.

Wel dyma fi yn gallu eich helpu.

Mae yna grwp or enw FREECYCLE, lle cewch rhoi hysbyseb am unrhyw eitem nad ydych eisiau mwyach rhag ofn fod yna rhywyn allan yna fuasai'n gallu gwneud defnydd o eitem da chi ddim ei angen.

Un rheol, ni chewch ofyn am arian am yr eitem - Popeth am ddim.

Rhowch go arni, ac mi gewch deimlad da pan yn rhoi rhywbeth am ddim i rhywyn arall.

Cyfeiriad un Caernarfon yw: http://groups.yahoo.com/group/freecyclecaernarfon/

a cewch gyfeiriad un canolog er mwyn darganfod un lleol i chi yn : http://www.freecycle.org/


Friends, we are good on recycling in the home, but what about us going that extra mile ? I admnit I am not the best at recycling, my children are constantly reminding me what goes in the blue box and what goes into the bin bag.

I also run a car with a 2.9cc engine, and definately that is not good for the environment, but to counteract, I haven't flown in over 10 years, and my garden waste is placed in compost bins, and I try my best.

I'm sure you have plenty of stuff around the house that you don't need, and instead of putting them in your car and taking them to the dump or to the nearest recycling centre, Why not give them away to someone who can make use of them.

There is a group called FREECYCLE, where you can advertise items you no longer need, and anyone who can make use of it will contact you and take them off your hand.

One rule is that you cannot ask for money in exchange for the item. - Everything is FREE.

So give it a go, and experience a great feeling of giving something for nothing.

The address for the Caernarfon Freecycle is: http://groups.yahoo.com/group/freecyclecaernarfon/

and to find your nearest group, go to: http://www.freecycle.org/

Saturday 12 September 2009

IEUAN A PLAID CYMRU - IEUAN AND PLAID CYMRU




Welais adroddiad neithiwr am araeth Ieuan Wyn Jones yng ngynhadledd Plaid Cymru yn Llandudno. Roeddwn yn meddwl i ddechrau os oedd yn siarad am reolaeth Plaid a Llafur o'r Cynulliad pan oedd yn son am doriadau ar y gorwel i arian yng Nghymru. Be ddiawl mae Plaid wedi ei wneud yn y cynulliad ond torri, torri a thorri ar arian i'r ardaloedd yma yng Ngwynedd. Does yna ddim ysgol yn y Cynulliad ond maen't yn cyflogi 700 o staff yn yr adran addysg yno. Swm syml 700 x £40,000 (£28M) hyn heb wrth gwrs costau eraill i'r adran.

Rhywbeth arall ddywedodd fod Plaid Cymru hefyd yn cynrychioli unigolion Saesneg eu hiaith yng Nghymru. Bu bron i mi chwdu ar fy nghoffi. Does gan Plaid ddim diddordeb mewn cynrychioli unigolion Saesneg eu hiaith ar wahan y buasai yn eu galluogi i gael grym. Mae hanes rheolaeth Plaid yma yng Ngwynedd yn dangos hynny, mae sylwadau aelodau o Blaid Cymru yn y gorffennol yn dangos hynny, sydd ond yn cyfnerthu mai pwer, pwer a dim ond pwer sydd ar yr agenda i Blaid Cymru boed bynnag glwyddau maen't yn ei ddweud wrth y bobol.

Mae Plaid Cymru wedi colli eu cefnogaeth yma yng Ngwynedd sef sedd saff i fod.

Dwi'n datgan fydd Elis Thomas wedi ymddeol cyn etholiad nesaf, gan ei fod yn gwybod os fuasai yn sefyll colli fuasai ei hanes. Tybiwn mai sedd i Lais Gwynedd yn yn Cynulliad fydd Dwyfor-Meirionnydd. Mi fydd Llais hefyd yn ymgeisio yn Arfon hefyd, ac agos fydd y canlynniad yno.

Beth bynnag, hen ddigon o amser i hynny.

Felly mae Plaid Cymru yn hapus gyda unigolion saesneg eu h'iaith yng Nghymru.

Be di hwnna yn yr awyr, MOCHYN PINC ?



Last night I saw a report on the Plaid Cymru conference in Llandudno. I thought he was referring to the Plaid-Labour control of the Assembly when he stated that cuts in public finance was on the horizon here in Wales. What in heaven's name has Plaid done in Cardiff apart from cut, cut and more cuts to public funds in Gwynedd. There is no school in the Assembly, but it employs over 700 members of staff in it's Education Department. Simple sum of 700 x £40,000 (£28M), and this is of course without any relative costs and other expenses for this department.

Something else he said in relation that Plaid Cymru is a party for English speakers in Wales as well. Now this is a new one on me, I nearly chocked on my coffee. Plaid Cymru have absoloutely no interest whatsoever in representing English speaking people in Wales, apart from the fact that by saying so, will give them power in Wales. History of Plaid control here in Gwynedd shows us that, and all that they want is power at any cost whatsoever, whatever lies they want to feed the people of Wales.

Plaid Cymru here in Gwynedd have lost the support of the people. This would have been a safe seat at one time and I can predict that Elis Thomas will retire before the next election as he truly knows, having milked the system for so many years, his days are numbered and he is guaranteed to loose if he ever stands again.

I anticipate that Dwyfor-Meirionnydd will be won by Llais Gwynedd in the Assembly, Llais will also stand in Arfon, and that result will be a close one.

Anyway, there is enough time for that debate.

So Plaid (apparently) is more than happy to represent English speakers in Wales !

What's that in the air ?

A PINK ELEPHANT !

ARFON RHAN 4 - ARFON PART 4





GARTH - JOHN WYN MEREDITH
Cyfreithiwr ydi Mr Meredith, ac yn ol ei ddadleuon pan yn y Cyngor buaswn yn tybio yn gyfreithiwr da hefyd. Mae'n bwyllog yn ei ddadleuon, ac fydd o byth yn dilyn y defaid ond yn hytrach mae ganddo bwynt unigol mae'n goelio mewn ac yn debygol o fynd hefo fo. Mae'n darllen pob gair mewn adroddiad ac ar gallu i godi rhywbeth mae rhan fwyaf ohonom wedi'w fethu. Parchus a chydwybodol, ac yn cynrychioli Plaid Cymru ar ward ym Mangor.

GERLAN - DYFRIG JONES
Buaswn yn iawn yn dweud mai Dyfrig yw'r aelod ieuengaf o'r Cyngor, mi gawsom rhyw ding dong 'chydig fisoedd yn ol yn dilyn i Dyfrig wneud rhyw sylwad ar rhywbeth ddywedais yn y Cyngor. Wrth gwrs mi wnes ymateb i Dyfrig, ac nad oedd yn hoff iawn o fy ymateb. Beth bynnag mae wedi codi gwrychyn nid yn unig aelodau o'r pleidiau eraill ond hefyd rhai oddi fewn i'w blaid ei hun. Erbyn hyn wrth gwrs dwi wedi anghofio amdan y mater a symyd ymlaen. Gweithio yn y Brifysgol yw ei waith dyddiol ond roedd yn gyn olygydd Barn. Rhaid i mi ddweud tydw I erioed wedi prynu y papur hwn yn fy mywyd. Mae'n gylchgrawn sy'n cael ei ariannu gan y Cynulliad, ac mae nifer yn cwestiynnu ei bwrpas gan yn ol son mai papur i'r Cymry elitaidd ydyw.

GLYDER - DAI REES JONES
Bachgen o'r de yw Dai (mae'r enw yn rhoi cliw go fawr), ac yn siaradwr pwyllog a threfnus. Oherwydd ei acen deheuol, mae'n rhoi pwysau mewn mannau gwahannol i ni y Gogs ar eiriau ac mi fyddwn yn arferol yn rhoi teclyn yn y glust er mwyn ei glywed yn iawn a dadansoddi ei araeth. Yn ddyn neis, er nad oes ganddo lawer i'w ddweud tu allan i gyfarfodydd. Mae'n arwain portffolio yr Henoed/Anabledd ar y Cyngor ac ni wnaeth unrhyw ffafr iddo ei hunan pan gefnogodd Dafydd Iwan pan iddo yntau barcio mewn man anabl a methu ymddiheuro yn ddiweddar. Beth bynnag, yn ol son mae'n weithgar yn ei gymuned ac mae pawb yn falch ei fod wedi gwella o'i salwch.

Y GROESLON - ERIC JONES
Wel dyma i chi gymeriad a hanner. Rhai yn ei adnabod fel Eric Jones, eraill fel Eric JT ac eraill fel Eric "Road Safety". Yn gyn gynghorydd blynyddoedd yn ol ond fe safodd i lawr am gyfnod. Roedd cyn gynghorydd Y Groeslon yn arweinydd ar y Cyngor ac roedd yn cynrychioli Plaid Cymru. Unwaith gyhoeddodd Eric ei fod am sefyll fel aelod Anibynnol, penderfynnodd y cyn gynghorydd ei bod am ymddeol. Roedd hi wrth gwrs yn gwybod fod Eric am ei chwalu ac nid oedd am sefyll etholiad a colli. Beth bynnag, mae Eric yn weithgar tros ben yn ei ward, yn ddyn y bobol go iawn a buasai yn gwneud aelod da o Lais Gwynedd petai yn dod drosodd. Gyda'i lais awdurdodol a'i wybodaeth mewnol am y Cyngor mae'n gallu symyd pethau ymlaen. Ei brif ddiddordebau yw ei geffylau cobiau Cymreig, ac yn ddiweddar eleni cafodd wahoddiad i feirniadu cobiau yn yr Almaen. Sprechen Sie Deutsch Eric ?



GARTH - JOHN WYN MEREDITH
A solicitor in his work, and I would assume a very good one as well. He is careful in his discussion, and never follows the sheep, always with an independant point of view. He reads report word by word and has the ability to raise points that most of us have missed. Respectable in his approach and represents Plaid Cymru in Bangor.

GERLAN - DYFRIG JONES
I think Dyfrig is the youngest member of the Council. We had a minor ding dong a few months ago now following Dyfrig blogging about something I had said in the Council. Of course I responded to his comments, and he wasn't best pleased with me for that. He has in the past irritated many members of the council from all sides (including his own). By now of course, I have forgotten about our little spat and have moved on. He works for the University but previously he worked for the Welsh language publication Barn. I must say I have never bought this paper which is financed by the Welsh Assembly, and many question it's need as it is said that it is a paper for the elite in our society.

GLYDER - DAI REES JONES
Dai is from the South (the name is a dead giveaway), and is a careful speaker. Due to his southern accent, he tends to put emphasis on different letters than us Gogs and I find it difficult sometimes to follow him and decipher his point, hence why I plug in into the translation system. A nice man, very cool, but out of debate is not a conversant character. He leads the portfolio for the elderly and the disabled, and didn't do himself any favours when he supported Dafydd Iwan when he parked his car in a disabled parking space and failed to apologise recently. Anyways, I understand he is a hard worker in his ward, and everyone accross the chamber was pleased that he has now fully recovered from his recent illness.

Y GROESLON - ERIC JONES
Now this is a man and a half. Some know him as Eric Jones, some as Eric JT and some as Eric Road Safety. An ex County Councillor many years ago, he stood down for personal reasons. The ex councillor for the ward and Chair of the Council at the time stood for Plaid Cymru. Once Eric announced he was standing as an Independant, the ex-councillor decided to retire rather than risk standing for an election and loosing. At least she was wise enough to realise that Eric would have walked the election. He works hard in his ward, a man of the people and would make a very good Llais Gwynedd Councillor for this reason if he came over. His authorotative voice and with his inside knowledge of how the council works means that he is able to move matters quicker than most other councillors. His main intersts are horses and particularly Welsh Ponies. Recently this year he was invited to Germany as a competition judge for Welsh Ponies. Sprechen Sie Deutsch Eric ?

Friday 11 September 2009

DA DI'R HOGIA - GOOD ON THE LADS




Trip a hanner, tra fod Plaid Cymru yn mynd ar y tren, mae hogia (a genod) Llais Gwynedd yn cerdded i fyny'r Wyddfa.

Stop nesaf, Everest - bring it on.

Y darn diwethaf ydi'r gwaethaf, cerrig man sy'n golygu rhaid bod yn ofalus neu drop o 2,000 o droedfeddi i Nant Peris ydi'r canlyniad.

Mae Hafod Eryri yn werth i'w weld. Y rheolwr ar y safle top ydi Pete (Cofi o dre ac yn gyn beldroediwr o fri - yn ei ddydd !!), hefyd gyn reolwr Y Majestic (hen glwb nos Caernarfon).

cawsom sgwrs a ballu, paned a sgon.

Diolch i Pete a'r staff am y croeso, ac i chwi sydd heb fod i fyny eto, EWCH.

Mwy o luniau ar fy nhudalen "Facebook".



One hell of a walk. Whilst Plaid Cymru take the train up, the boys and girls from Llais Gwynedd walk it.

Next stop Everest - bring it on.

The last part is the worst. Shingle and small stones means a trip will get you 2,000 feet down in Nant Peris.

Hafod Eryri (The Cafe) is well worth seeing. The manager at the top is Pete (a caernarfon lad and a very good footballer - in his day !!).

He was also the manager of The Majestic (an old nightclub in Caernarfon).

We had a quick chat, a cup of coffee and a scone before departing.

Thanks to Pete and the staff for the welcome (Croeso), and for those who haven't yet ventured up - for goodness sakes GO.

More pictures will be posted on my Facebook page.

Thursday 10 September 2009

NERFUS - NERVOUS

Mewn ychydig o oriau mi fyddwn yn cerdded i fyny'r Wyddfa. Mae rhedwyr yn ei wneud mewn ychydig tros awr i fyny ac i lawr, cerddwyr proffesiynnol mewn ychydig o oriau, ac rwy'n caniatau i ni ei wneud mewn mis (joc 5 awr).

Nawr i chwi allan yna (ar wahan i rhai aelodau o'r Blaid), os na welwch flog gennyf erbyn 7 nos fory (efo lluniau o'r copa), y rhif da chi angen ffonio yw 999.

Cysidraf fy hunan yn eithaf heini. Rwy'n chwarae pel droed yn wythnosol, mi gerddaf i'r car (o'r ty), mi gerddaf i'r siop (o'r maes parcio) ac yn berffaith hapus i gerdded o amgylch yr ardd, ond mae cerdded i fyny'r Wyddfa yn daith a hanner.

Beth bynnag mae hi bron yn 1 y bore, ac mae angen cwsg arnaf, felly dwi am fynd i gyfrif defaid (dim jocs plis), ac os na wnaiff hynny weithio mi gyfraf goesau'r defaid, ddylai wneud i mi gysgu. Noswaith dda oll.




In a few hours, I will be walking up Snowdon. Runners do it in just over an hour up and down. Experienced walkers do it in a few hours. I have allowed myself up to a month (joking aside 5 hours).

Now everyone out there (apart from some members of Plaid Cymru), If you don't see a blog from me by 7pm tomorrow night (with pictures from Snowdon), the number you need to call is 999.

I consider myself reasonable fit, I play football weekly, I walk to the car (from the house), the shop (from the car park) and around the garden, but walking up Snowdon is a different kettle of fish.

Anyways, it's nearly 1am and I need to sleep, so i'm gonna be counting sheep (no jokes here please), and if that fails, i'll count their legs, which should get me off. Night all.

YR WYDDFA / SNOWDON



Bore da braf gyfeillion, da ni am y tywydd hwn rwn am o leiaf wythnos i 10 diwrnod. Mae wedi bod yn brysur yn ddiweddar efo cyfarfodydd ac mae gennyf un arall bore ma yn Glynllifon ac wedyn dwi yn cyfarfod unigolyn o'r Cyngor (aelod o staff) sydd am fwydo fi efo gwybodaeth eithaf diddorol ar be sy'n mynd ymlaen yno.

Oherwydd blynyddoedd o gam reoli gan Plaid Cymru, da ni rwan yn dioddef yn ariannol yn ogystal a thorri gwasanaethau. Am flynyddoedd roeddynt yn cam redeg y Sir, yn benthyg yn afresymol (tar. Cyfrifon y Cyngor) sydd wrth gwrs yn golygu bod rhaid arbedu £16 Miliwn tros y 3 blynedd.

Cywir fod ychydig o'r bai am y setliad gafwyd gan Plaid a Llafur o'r Cynulliad ond mae'r diffygion oedd yn bodoli nawr yn dod i'r wyneb.

R'un fath mae Tony the Smiler a Gordon the Warden wedi bod yn gwneud yn Llundain, ac fydd unrhyw Lywodraeth newydd yn dioddef o hynny.

Dwi'n obeithiol mai Llywodraeth rhwng Ceidwadwyr a Lib Dems fydd yna nesaf er mwyn cael rhyw fath o gymhedroli a symyd yn agosach at y canol.

Beth bynnag, dwi ac arweinydd yr wrthblaid am gerdded i fyny'r Wyddfa Ddydd Gwener (dim tren fel Plaid) a gobeithio dim codwm (fel ddigwyddodd i aelod o'r Blaid ar y copa), fydd y plant yn yr ysgol, ac erbyn dod i lawr mae gen i gem 7 bob ochr am awr o beldroed.

Erbyn fore Sadwrn mi fyddwn yn teimlo fy oed, ac wrth gwrs fel ma rhywyn yn dweud ar ol llond boliad o gwrw "never again".

DS Gyda llaw gellir arbedu'r £16 miliwn yn eithaf hawdd. Torri ar gerbydau'r cyngor (fel dwi wedi bod yn gofyn amdan ers misoedd), gwerthu les Marina Pwllheli (£10M) a peidio symyd ymlaen efo'r Ganolfan Hwylio elitaidd (£2M). Fel mae'r Meercats yn dweud - Siiimple.



Morning friends, this fine weather is going to last something between a week and 10 days. It's been busy recently with meetings, and I have another one this morning at Glynllifon. Then I have a meeting with a member of Gwynedd Council staff who has been and will be feeding me with information regarding what is going on at the council - an invaluable source.

Due to years of mismanagement by Plaid Cymru on the Council, we are now experiencing financial problems in addition to cutting back on services.. For years they borrowed unreasonably (source Gwynedd Council Accounts), which now means that £16 million has to be saved over the next 3 years.

Trus the settlement received from Plaid Cymru and Labour in the Assembly was a disaster, but the previous political leadership's problems are now surfacing.

The same situation will happen when a new Government (hopefully Tory - Lib Dem) in London takes over from Tony the Smiler and Gordon the Warden.

Anyway, myself and the Leader of the opposition will be walking up Snowdon on Friday (no train like Plaid Cymru), and hopefully without any accidents (not like what happened to a member of Plaid Cymru), our children will be at school, and after coming back, I have an hour's 7 a side game of football.

By Saturday morning, i'll be feeling my age, and of course when one is suffering we always say "never again".

PS By the way we can make the £16 million saving easy. We can cut down on Council vehicles (something I have been seeking for months), sell the lease to the Marina for £10 Million, and scrap the elitist Sailing Centre in Pwllheli saving at least £2 million.

As the meerkats say on the telly, - Siiimple.

Wednesday 9 September 2009

BYD YN NUTS - THE WORLD IS NUTS


Heddiw roeddwn yn gwneud ychydig o siopio yn Morrissons yng Nghaernarfon (mae na afalau coch neis iawn yno). Rwan gall unrhyw ddyn gadarnhau hyn, os ydi'r wraig/partner yn eu gyrru i nol torth a llefrith, da chi saff o ddod yn ol efo potel o win, menyn, cyw iar, polish i'r chest of drawers a llond troli o bethau nad ydych angen. Oll oeddwn eisiau oedd afalau coch a bara garlleg. Wrth gwrs roedd yn rhaid cael troli, ac roeddwn yn mynd i fyny un llwybr, lawr y llall ac yn y blaen. Be welais drwy ongl fy llygaid ond calendr nadolig advent. Mae na fwy na 100 o ddiwrnodiau tan y d'olig felly pam gwerthu calendar o siocledi sydd am barhau am 30 diwrnod ar y mwyaf. Hen ddigon buan eu cael at ddechrau Tachwedd.


Today I was doing some shopping in Morrissons, Caernarfon (there are red apples there worth eating). Now any man out there can confirm that if the wife/partner sends you out to get some bread and milk, your sure to come back with a bottle of wine, butter, chicken, polish for the chest of drawers and a trolley full of stuff you don't really need and stuff you have plenty of in the house.

All i wanted were the apples and garlic bread. Of course I had to have a trolley and going up one aisle and down another, and what I saw out of the corner of my eye was unbeleivable. There are more than 100 days until Xmas so why sell Advent Calendars with 30 days of chocolates this time of year. Early November is early enough for this.

ARGLWYDD WIGLEY O'R EFAIL - LORD WIGLEY FROM THE SMITHY


Newyddion syfrdanol ddoe fod Arglwydd Wigley o'r Efail ddim mwyach eisiau bod yn Arglwydd o gwbl. Wrth gwrs nad yw hyn ddim byd i wneud efo pwdu gyda'r Wladwriaeth oherwydd iddynt beidio gweithredu yn gynt. Pan iddo adael San Steffan, roedd son fod iddo gael cynnig Arglwyddiaeth bryd hynny ond iddo ei wrthod (a da iawn fo) ond roedd y crinc o Fetws y Coed wedi derbyn ei Arglwyddiaeth ef (dim byd i wneud efo cael fi £££ am droi fyny i gysgu wrth gwrs).

Rwan lle mae hyn yn ein gadael. Mae son fod Arglwydd Wigley yn awyddus i ail afael mewn gwleidyddiaeth yma yng Nghymru, gyda'r wasgfa ariannol, mae'n, debyg fod yr esgid yn gwasgu ac fod angen yr arian arno.

Sgen i ddim byd i ddweud wrth y Cwin, dweud y gwir mi gefais gynnig mynd i barti yn ei gardd haf yma, ond mi wrthodais gan iddi hithau wrthod ddod i barti 40 fi pan wnes i roi Marquee i fyny yma.

Dwi ddim yn meddwl chwaith dylem fynd yn rhan o gael y pobol hunan bwysig ma gyda theitl gan ei fod yn ein atgoffa o'r ffordd roedd yr arglwyddi hyn yn ymddwyn yn y canol oesoedd gan sathru ar drigolion lleol.

Crwcs ydi rhan fwyaf o'r diawliaid, a crwcs fydde nhw hefyd.




Breaking news yesterday was that Lord Wigley from the Smithy does not want to be a Lord after all. Of course it has nothing to do with his displeasure that the state had overlooked him and others previously.

There were rumour on his departure from the house in London that he was offered a Lordship at that time, but he refused (and good for him), although the idiot from Betws y Coed accepted his (nothing of course to do with getting paid £££ to go there and sleep).

Now where does this leave us. It is rumoured that Lord Wigley would prefer to re-enter politics in Wales, and with the economic depression, possibly money is a bit tight for him.

I have nothing to say to the queen and her entourage, actually I was invited to attend her garden party this summer but I refused as she didn't attend my 40th birthday bash in a marquee in the garden here.

I do not also believe that we should in this day and age have these self centered individuals as it only reminds us of the way that they used to behave in the middle ages with the peasant population.

Most are crooks, and crooks they shall be.

Tuesday 8 September 2009

ARFON RHAN 3 - ARFON PART 3




DEINIOLEN - RICHARD LEONARD JONES (LEN)
Does fawr neb yn gwybod fod Len yn godw'r pwysau o fri. Am flynyddoedd roedd yn rhedeg clwb i'r hogia yn Ninorwig gan eu dysgu i godi pwysau. Doeddwn i ddim yn gwybod mai Richard oedd ei enw cyntaf ac wedi ei adnabod fel Len ers degawdau.
Dwy waith mae Len wedi Cadeiryddio pwyllgor a minnau yn bresennol. Mae ganddo wit a hiwmor, fel ddywedodd wrth un sy'n debygol o fynd ymlaen pan ofynnodd o's y caiff ddweud rhywbeth "cadwch o yn fyr". Dwi yn meddwl mai gweithiwr coed yw ei gefndir neu rhywbeth yn y maes adeiladu beth bynnag. Aelod o Blaid Cymru yw Len.

DEWI - Eddie Dogan
Dyma i chi ddyn a hanner. Cefnogwr ar dim peldroed Bangor, ac yn gyn aelod o'r Blaid Lafur. Gadawodd Llafur pan ddaeth Tony Blair i fewn gan ei fod yn anghytuno efo'r polisiau. Mae'n sefyll tros Blaid Cymru, ond tydi o ddim mwy o bleidiwr nac ydw I. Dwi'n meddwl yn gywir yn dweud mai Eddie neu Pat sydd wedi bod ar y Cyngor yr hiraf erbyn hyn. Mae Eddie yn cofio'r toiledau cyntaf yn cael eu h'adeiladu ym Mangor and roedd yn gadarn i gadw y Tai Cyngor yn meddiant y Cyngor. Gyda'i ffydd Gatholeg, mi gafodd y fraint o dderbyn haeddiant Bene Menrenti gan neb llai na'r Pab ei hunan. Tra yn ifanc roedd yn gweithio yn adeiladu Marchlyn a'r Mynydd Gwefru.

Y FELINHELI - SIAN GWENLLIAN
Yn cynrychioli Plaid Cymru, mae Sian hefyd yn gadeirydd y Cyngor Cymuned. Tydw i ddim bob amser yn cytuno efo Sian ond roeddwn yn hapus i'w chefnogi i gael Canolfan Meddygol yn Y Felin, sydd gyda llaw yn agos i'r galon gan yno mae nifer o deulu Mam yn dod ac yn dal i fyw yno. Cyn yr etholiad mi wnaeth Sian fy ffonio gan i mi yrru cerdyn nadolig i aelodau Plaid Cymru yn dweud y byddent yn cael eu cicio allan pan ddaw'r etholiad, roedd yn ffonio fel newyddiadurwraig i GOLWG ac am wneud rhyw stori fudr ar Lais Gwynedd a minnau. Mi gafodd cryn sioc pan ofynnais iddi; Paham iddi wneud stori gwleidyddol pan roedd hi ei hunain yn sefyll i Blaid Cymru yn Felinheli. - Do fe gafodd sioc fy mod yn gwybod hyn, ond dweud gwir dyna fy ngwaith I de, gwybod am pwy oedd yn sefyll yn lle a ballu, beth bynnag dwi wedi anghofio am ei ffolineb ar yr amser, ac mae'n rhaid dweud ei bod yn gweithio yn galed yn ei ward yn enwedig yn y Felin Sgwrsio. Mae Felinheli yn un o'r pentrefi hyfrytaf yn fy meddwl I, Glan y Fenai a peint yn unai Y Fictoria neu Garddfon - Beth sy'n well.




DEINIOLEN - RICHARD LEONARD JONES (LEN)
Not many people know that Len is an experienced and well known weightlifter. For years, he ran a club for youngsters in Dinorwig, and taught them the correct way of approaching the sport.
Knowing him for years, I didn't know his name was Richard, having known him as Len for so many years. Twice I have been present whilst he has been chairing a meeting and his wit became evident when a councillor wanted to speak who is known to go on for a long time and when he asked if he could say something, Len came in and said "..yes but keep it short". I think he is a carpenter or something to do with the building trade, and represents Plaid Cymru in the Council.

DEWI - Eddie Dogan
Now this is a man and a half. An avid and faithfull supporter of Bangor City FC and a past member of the Labour Party. He left Labour on the incoming of Tony Blair as he disagreed with "New Labour" policies. He represents Plaid Cymru but is no more of a plaid member than me. I'm right in stating that either Eddie or Pat has been on the Council longest. Eddie remembers the first toilets being built in Bangor and he was against the Council's wishes of transferring the council houses to a private company. Born and having lived his life as a Catholic, he was honoured with the Bene Menrenti Award by none other than the pope himself. As a youngster he worked building the dam at Marchlyn and the tunnels in Electric Mountain.

Y FELINHELI - SIAN GWENLLIAN
Representing Plaid Cymru, Sian is also the chair of the Community Council. I don't always agree with Sian, but was happy to support her on the new Medical Center in Felinheli, which is close to my nheart as my Mother's family is from the village and I have still got many relatives and friends there.

Before the election in May 2008, Sian called me in her capacity as a reporter for GOLWG chasing a story about a christmas card I had sent to Plaid councillors telling them that cometh the election, they will be kicked out. Of course her intention was to do a dirty story on Llais Gwynedd and myself, she had the fright of her life when I asked her the question if it is the same Sian Gwenllian that was a prospective Plaid candidate in Felinheli, and where was her independance as a reporter in all this ? - Yes she was in shock, and was intruged to know how I knew ? Of course it is my business to know these things, but all is forgiven. However I must take my hat off to her, she is a hard worker in the ward and holds regular surgeries. Felinheli in my opinion is one of the most beautiful places around, there is nowhere better than having a pint in the Vic, or the Garddfon and sitting on the banks of Afon Menai.



TRIP I FYNY'R WYDDFA - TRIP UP SNOWDON


Dydd Sadwrn fe aeth grwp Plaid Cymru (Caernarfon) i fyny'r Wyddfa ar y tren.

Os ga i awgrymu'r Orient Express neu'r Trans- Siberian am y trip nesaf iddynt. Gyda lwc, ni wnawn eu gweld am o leiaf 2 fis wedyn (tic) !



On Saturday the Caernarfon plaid Cymru had organised a trip up Mount Snowdon on the train.

May I suggest for their next trip either the Orient Express or the Trans Siberian, then with luck we might not see them for the next 2 months (tic) !




PARCHEDIG TEGID ROBERTS - REVEREND TEGID ROBERTS


Bore ma mae'r Parchedig Tegid Roberts a Nant ei wraig ar yr awyren am y ffordd am Patagonia. Mi fyddent yno am flwyddyn gyfa, yn gweithio mewn Eglwys yn y Wladfa. Mi fydd colled yn ein h'ardal ar eu h'ol. Tegid fedyddiodd y genod i ni, ac rwyf hefyd yn eistedd ar Bwyllgor CYSAG ble mae ei gyfranniad yn werthfawr.

Pob hwyl iddo ac i Nant yn Patagonia (blydi braf arnynt a dweud y gwir - ac os ydynt yn rhedeg allan o sos coch, pot noodle neu copi diweddaraf o'r Caernarfon & Denbigh Herald, dwi fwy na hapus o ddod a nhw drosodd am bris y tocyn).

La buena suerte y le considera en doce meses




This morning Reverend Canon Tegid Roberts and his wife Nant are on a plane on their way to Patagonia for twelve months, working in the Community and supporting the Welsh language there. The loss in the local area will be felt by all. Tegid baptised our three girls and I also sit on the SACRE Committee with him, whereby his contribution is invaluable.

All the best for them both in Patagonia (if they ever run out of Heinz Ketchup, Pot Noodle or the latest copy of the Caernarfon & Denbigh Herald, then I am quite happy to bring them out personally to them for the cost of a ticket).

La buena suerte y le considera en doce meses.

Monday 7 September 2009

ARFON RHAN 2 - ARFON PART 2






CADNANT - HUW EDWARDS (DIM HUGH)
Cofi wedi'w fabwysiadu ydi Hugh ac yn cynrychioli un o seddi di-freintiedig y Dre. Aelod o Blaid Cymru, yn enedigol o Fethel, ac ddim yn deallt llawer am beldroed (gan ei fod yn cefnogi Caernarfon FC). Os oes angen unrhyw un o roi gweddi cyn cyfarfod, gall swyddogion ddibynnu ar Huw, dwi'n siwr fod yn cario gweddi neu ddau yn ei boced trwy'r adeg i achlysuron brys. Mae'n aelod o'r Cyngor tref ers blynyddoedd lawer, yn cyn faer hefyd. Er i mi eistedd ar bwyllgor neu ddau gyda Huw (dim Hugh), rwyn gallu tynny arno yn hawdd, ac mae yn gallu ei gymeryd.

CWM Y GLO - BRIAN JONES
Aelod ac arweinydd grwp Llafur yn y cyngor yw Brian. Cyn wr busnes, ac yn Gadeirydd (hynod o dda a theg) ar y Pwyllgor Cynllunio. Addfwyn yn ei ddadleuon, ni fydd yn codi ei lais ond yn hytrach yn rhoi ei farn yn bwyllog ac yn glir. Mae'n fraint ac yn wych i'w gael ar bwyllgor ble rwy'n cadeiryddio, mae ei bresenoldeb a'i gefndir fel Ynad Heddwch bob tro yn dod a proffesionoldeb i'r pwyllgor hwnnw. Os fuaswn unrhyw dro yn torri'r gyfraith a cael fy nal yn gyrru tros y cyflymder, yn bendant mi fuasai Brian yn rhoi gwrandawiad teg iawn i unrhyw un.

DEINIOL - DEWI LLEWELYN
Rhaid dweud nad wyf yn adnabod Dewi yn dda iawn. Ond mewn Pwyllgor llawn y dof ar ei draws. Mae ei ward ym Mangor yn llawn stiwdants, ac tydi nhw ddim yn troi allan i bleidleisio rhyw lawer. Efallai fydd y ward hon yn cael ei chyfuno yn y dyfodol. mae gan Dewi fusnes gosod tai i stiwdants, ac yn aml pan mae trafodaeth ar geisiadau cynllunio yn y ddinas, mae'n datgan buddiant ac yn gadael. Wn i ddim mwy amdano.




CADNANT - HUW EDWARDS (NOT HUGH)
An adopted Covi having been born in Bethel and represents one of the less privileged wards in Caernarfon. A member of Plaid Cymru, he doesnt understand much on football as he supports Caernarfon Town FC. If officer require anyone to offer prayers before a meeting urgently, they can depend on Huw (not HUGH), as I am sure he carries one in his pocket for emergencies. He is a member of the Town Council for many years and is also an ex-mayor. I sit on a couple of meeting with Huw and can pull his leg easily, and he can take it as well.

CWM Y GLO - BRIAN JONES
A member and Leader of the Labour group in the council. An ex businessman and an effective and fair Chairman of the Arfon Planning Meeting. His compassion in debates is admired, and he can put his point of view over clearly and precisly, and he never raises his voice. It's an honour to have him on a meeting that I chair as his contribution and background as a Magistrate brings so much needed input to that meeting. If i ever have the misfortune of being caught exceeding the speed limit, and come before Brian, you can guarantee that he will give me a fair trial.

DEINIOL - DEWI LLEWELYN
I can't say I know Dewi well, as I only come accross him at the full Council meeting. His ward in Bangor is full of students, and they don't come out much during the election. It is possible that because of the low turnout that this ward will be joining with another one in Bangor. Dewi has a business letting houses to students, and has to declare an interest if any simmilar venture is introduced in planning. I don't know much more about him.

Sunday 6 September 2009

CYNGHORWYR ARFON RHAN 1 - ARFON COUNCILLORS PART 1




Rwan mae pawb yn meddwl nad wy'n gallu gweithio gyda unrhyw bleidiwr o gwbwl. ffantasi llwyr ydi hyn ac tros yr wythnosau nesaf, dwi am roi mwy o wybodaeth am gymeriadau Cynghorwyr yn y Cyngor. Dwi yn gallu eistedd yn ol weithiau a dadansoddi unigolion, mae'n rhywbeth dwi wedi ei wneud ers blynyddoedd yn dilyn darllen llyfr Siegfried ar "conditioning"

Dwi am ddechrau gyda 3 ward cyntaf yn ol trefn yr wyddor, sef Arllechwedd, Bethel a Bontnewydd. Mae'r tri yn cael eu cynrychioli gan 3 plaid gwahannol.

ARLLECHWEDD - JR Jones (dim Ewing)
Mae John yn gyn paramedic, ac yn un o'r Cynghorwyr cyfaethocaf (joc) yn y Cyngor. mae ganddo o leiaf 2 Rolls Royce ynghyd a Daimlers, jaguars a ballu.

Mae ganddo hiwmor heb ei ail ac yn aml ganddo rhyw air neu ddau i'w ddweud sy'n gwneud i bobol wenu.

Y rheswm fod ganddo cyn nifer o geir drudfawr yw ei fod gyda busnes ceir priodasau ac mae o jyst y teip i wneud y math hwn o waith. mae'n cynrhychioli y Rhyddfrydwyr ar ward sy'n mynd o Landegai i Abergwyngregyn.

Mae ei galon yn Ninas Bangor, ac yn mynny y gorau iddi ar bob amser.

BETHEL - Hugh Hughes
Cyn heddwas efo'r CID ydi Hugh, ac yn cynrychioli Plaid Cymru. Yn enedigol o Lanbabs (fel finnau). Bob tro gyda gwen cyn cyfarfodydd, ond mae ganddo "poker face" tra yn trafod materion mewn pwyllgorau. Mae gen i gof ohonno yn blismon, dwi'n meddwl bu i mi gael rhyw glustan neu ddau ganddo pan yn dwyn afalau a plums tra yn blentyn (wnaeth ddim drwg i mi). Weithiau mi wnaf gytuno efo Hugh ac weithiau mi awn yn erbyn ein gilydd.
Mae'n deallt ei ward i'r T. Ac yn ddiweddar wedi cwffio yn haeddiannol tros unigolyn oedrannus iddi gael ty.

BONTNEWYDD - Chris Hughes
Yn gyfangwbl newydd i Wleidyddiaeth, roedd Chris yn teimlo nad oedd y Cyn-gynghorydd yn tynnu ei bwysau ddigon i'r ward ac fe safodd yn ei erbyn a'i chwalu. Mae Chris yn aelod fel finnau o Lais Gwynedd ac yn gyn wr busnes yn y pentref. Eto yn gwarchod ei bobol (hyd yn oed y cyn gynghorydd) pan ddaeth cais am helipad gyferbyn a'i dy mi fuasai wedi medru bod yn annifyr a chytuno ond roedd yn rhoi ei hun yn esgidiau y bobol gyfagos ac yn teimlo na fuasai ef yn hoffi hyn felly cefnogodd dymuniadau y bobol leol. Erbyn rwan mae'n magu hyder ac yn gallu cyfarch cynulleidfa heb unrhyw amheuaeth.




Now everyone thinks that I cannot work with Plaid Cymru at all. This is of course a total fantasy, and over the next few weeks, I shall provide an insight into Councillors in Gwynedd from my perspective. I can sit back sometimes and analyse individuals, it is something I have done over many years after reading a book on conditioning by Siegfried.

I shall start on the first 3 wards in alphabetical order. These are Arllechwedd, Bethel and Bontnewydd. The three are represented by 3 different political parties.

ARLLECHWEDD - JR Jones (not Ewing)
John is an ex paramedic and is one of the richest councillors in Gwynedd (Joke). He has at least 2 Rolls Royce, Daimlers, Jaguars and simmilar vehicles.

His humorous comments sometimes does raise a smile, quick witted means you have to be on your toes with John.

The reason fod his many expensive vehicles is that John has a business providing wedding cars and is just the man for this kind of work. He represents the Lib-Dems on his ward which stretches from Llandegai to Abergwyngregyn.

His heart is in Bangor and wants the best for it all the time.

BETHEL - Hugh Hughes
Hugh is an ex CID officer and represents Plaid Cymru. Originally from Deiniolen (like me). Always before a meeting he is smiling, but once we start debating he has a "poker face" and you just don't know which way he is going to go. I remember him slightly when he was with the Police, and i'm sure I had a clout or two from him for stealing apples and plums off trees (which incidentally didnt do me any harm). Sometimes I agree with Hugh and sometimes I will go against him. Recently he campaigned on behalf of an elderly individual in the ward for a council house and was successful. I backed him on this.

BONTNEWYDD - Chris Hughes
Totally new to politics, Chris felt that the ex-councillor was useless in the ward and he stood against him and blew him out of the water. He represents Llais Gwynedd (like me), and used to run a business in the village.

Again he looks after the electorate (even the ex-councillor), when an application for a helipad came in next door to the ex-councillor, Chris could have been spiteful and supported it, he showed maturity beyond his 42 years and approached it reasonably and put himself in the shoes of nearby residents. By now of course he has gained experience and can stand before a crowd and address them eliquently.

RHYFEDD O FYD - IT'S A SMALL WORLD

Gynharach yn Awst mi roddais stori am Dafydd Iwan yn mynd i'r babell fwyd yn y 'Steddfod a rhywrai yn gofyn iddo ble roedd wedi parcio ac mi gerddodd allan. Am y tro cyntaf ers tua 6 mis, mi es allan i Lanberis efo ffrindiau ac dyma un ohonynt yn dweud wrthyf ei hanes yn y 'Steddfod, yn disgwyl am fwyd mewn pabell ac daeth Dafydd i sefyll tu ol iddynt.

Roedd y grwp hwn wedi cael cyntaf ac yn dathlu ac yn hapus. Un o'r grwp ddywedodd hyn wrth Dafydd Iwan ac iddo wedyn gerdded allan. Ac mi ofynnwyd iddo paham nad oedd yn hoffi Dafydd. Dyma beth ddywedodd.

Roedd blynyddoedd yn ol wedi trefnu cyngerdd i godi arian at fudiadau lleol. Roedd doniau lleol yn cymeryd rhan, ond y prif atynfa oedd Dafydd Iwan. Ar y noson, doedd dim golwg ohonno, ond roedd y capel dan ei sang ac roedd yn rhaid mynd ymlaen. Drwy newid pethau rownd a cael mwy o bobol i ganu, adrodd a ballu daethant at ganol yr ail hanner, ble ddaeth DI gyrraedd yn "pickled". Do fe wnaeth rhywbeth ohonni, ond a oedd hi yn iawn fod cyn gymaint wedi troi i fyny i gael unigolyn oedd wedi meddwi yn gockles i chwarae 4 cord, a mwmblan can neu ddau ?

Roedd un arall o'r grwp yn flin gyda Dafydd hefyd. Roedd ei fab yn ei ugeinia cynnar a'i bartner (sy'n wraig iddo erbyn hyn) wedi cael tir gan unigolyn yn y pentref er mwyn sefydlu eu cartref cyntaf. Roedd y tir tua 4 troedfedd tu allan i'r ffin adeiladu ac roedd y tad wedi bod yn gweld DI ac roedd wedi dweud ei fod yn gefnogol i bobol ifanc gael y cyfle i adeiladu tai. Roedd hefyd wedi gweld nifer fawr o Gynghorwyr Arfon ar y pryd ac roeddynt am ei gefnogi.

Pan ddaeth hi i'r bleidlais ar y noson, aeth Dafydd Iwan yn erbyn y cais ac fel defaid dilynnodd pob un o aelodau Plaid Cymru (fel hyn oedd hi yn digwydd bryd hynny cyn dyfodiad gwrthblaid effeithiol). Nid oedd y tad yn hapus ac fe waeddodd rhywbeth o'r galeri, cyn mynd allan.



Earlier in August i was gifted a story regarding Dafydd Iwan in the Eisteddfod and someone asking him where he had parked his car, and of course he walked out.

Now for the first time in over 6 months, I went out to llanberis with friends over the weekend whereby someone was there at the time.

The group were celebrating coming first and were very happy. The one who asked Dafydd where he had parked was asked Why didn't he like him ? and this is what he said.

Many years ago he had organised a concert to raise some money to local groups in the village. Local talents were taking part, but the main attraction was dafydd iwan and the Chapel was full to capacity.

On the night, there was no sign of Dafydd, but the concert had to go on. By changing the routine and gettoing the local talents to sing more than one song they eventually made it to midway through the second half, where in came Dafydd Iwan sozzled to the eyeballs.

Yes he sang something and played his tradditional 4 chords.

Another member of this group was mot best pleased with dafydd either as many years ago his son and his girfriend (who is now his wife) was gifted land to build their very first home which was about 4 feet outside the boundary.

They had been to see Dafydd Iwan, and many other Councillors to get their support, and this was promised to them. On the night of the planning meeting, Dafydd iwan went against the development and all the other Plaid Councillors like sheep went with him (this was the norm in them days before the introduction of an effective opposition)

As you would expect, the father was not happy and voiced his discontent quite loudly from the public gallery before leaving the meeting.

Wednesday 2 September 2009

WEDI COLLI'R PLOT - LOST THE PLOT

Diddorol oedd llythyr gan Cynghorydd Cymuned Dafydd Iwan heddiw yn yr Herald Gymraeg. Yn amlwg tydi o ddim wedi dod i ddeallt y cafodd ei gicio allan o fod yn Gynghorydd Sir gan ei fod yn aneffeithiol ac yn amlwg wedi colli y plot yn lan.


Interesting would be the word to describe Community Councillor Dafydd Iwan's letter in the Herald Gymraeg. It is pretty obvious he still doesnt undertand that he was kicked out from being a Councillor in Gwynedd for being ineffective and having lost the plot.